O focsys a phecynnau eich siopa Nadolig ar-lein i agor anrhegion ar fore diwrnod Nadolig, mae’r Nadolig yn golygu bod llawer mwy o lawer o bapur, cardfwrdd a phecynnau!
Ond yn hytrach na’i roi i gyd mewn bag bin arferol, pam na wnewch chi ailgylchu? O bapur lapio i duniau bisgedi, gallwch ailgylchu’r rhan fwyaf o’ch gwastraff dros y Nadolig.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Os oes gennych wastraff bwyd hyd yn oed, rhowch o yn eich cadi bwyd. Ac i goroni’r cyfan…mae’r holl wastraff bwyd yn troi i gompost sy’n gallu cael ei gasglu
yn rhad ac am ddim gan breswylwyr Wrecsam wrth ddefnyddio un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Bryn Lane, y Lodge neu Plas Madoc!
Wyddoch chi?
Eich bod yn gallu ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff y cartref dros y Nadolig, yn cynnwys:
- Tuniau bisgedi/melysion mawr
- Papur Lapio (Ond nid y math metel na ffoil tun)
- Amlenni a Chardiau Nadolig
- Bagiau anrhegion Papur/cardfwrdd (tynnwch unrhyw handlenni nid oes modd eu hailgylchu)
- Y Cadi Bwyd ar gyfer unrhyw sbarion bwyd
- Gellir mynd â Goleuadau Nadolig sydd wedi torri/diangen i unrhyw dri o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Os oes gennych fwy o ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, gallwch roi bocsys neu fagiau casglu ychwanegol allan i’w casglu. Gwahanwch eich deunydd ailgylchu i gyd fel yr arfer ond peidiwch â defnyddio bagiau bin du gan na fydd deunydd yn y bagiau hyn yn cael eu casglu. Gallwch blygu cardfwrdd ychwanegol a’i osod wrth ymyl bocsys/trolis (ond peidiwch â’i roi yn y bin gwastraff gwyrdd).
Dywedodd y Cyng. David. A Bithell, arweinydd arweiniol amgylchedd a chludiant, “Mae ffigurau ailgylchu Wrecsam yn parhau i gynyddu sy’n wych. Y ffigur ailgylchu/ailddefnyddio/compostio ar gyfer 2016/17 oedd 68.73% a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y ffigur hwn. Yn ystod cyfnod y Nadolig bydd llawer mwy o ddeunydd y gellir eu hailgylchu ac rydym yn gofyn i bobl feddwl ddwywaith cyn ei roi yn y bin gwastraff cyffredinol.”
Newidiadau casglu sbwriel…
Bydd newidiadau i ddyddiadau casglu sbwriel ac ailgylchu dros y Nadolig. Caiff preswylwyr eu hatgoffa i wirio dyddiadau casglu sbwriel dros gyfnod y Nadolig gyda newidiadau yn digwydd rhwng 23 Rhagfyr a 6 Ionawr.
Rydym yn gofyn yn arbennig i bobl gyda’u diwrnod casglu sbwriel arferol ar ddiwrnod Nadolig i gofio rhoi eu biniau a’u hailgylchu allan 2 ddiwrnod yn gynt, sef dydd Sadwrn 23 Rhagfyr. Ar ôl Rhagfyr 26 bydd diwrnodau casglu biniau i gyd ddiwrnod yn hwyrach (yn cynnwys casgliadau sy’n digwydd ar ddyddiau Sadwrn). Bydd casgliadau arferol yn ailddechrau ar ôl 6 Ionawr.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU