Yn ystod eu cyfarfod nesaf bydd gofyn i aelodau’r Bwrdd Gweithredol gytuno ar ffordd ymlaen er mwyn ailwampio eiddo gwag ar draws y sir, gan gynnwys cymryd camau gorfodi a chynnig cymorth pan fo angen.
Bydd y cynlluniau, os caent eu cymeradwyo, yn cael eu defnyddio i ailddatblygu eiddo a thir sydd wedi bod yn wag ers peth amser. Yn aml iawn mae perchnogion yn fodlon gweithio efo ni er mwyn manteisio ar wahanol gynlluniau benthyca i wella eu heiddo.
Mae ailwampio eiddo sydd wedi bod yn wag ers peth amser yn flaenoriaeth gennym ni a Llywodraeth Cymru. Yn y gorffennol rydym ni wedi llwyddo i ddiogelu cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem yn y fwrdeistref sirol drwy fentrau megis Troi Tai yn Gartrefi a Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid. Er bod y cynllun Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid wedi dod i ben, mae’r benthyciadau yn parhau i gael eu defnyddio i gefnogi adfywiad canol tref Wrecsam ac mae cyfanswm o £2.5 miliwn ar gael drwy’r Benthyciadau Eiddo Gwag a £500,000 drwy’r Benthyciadau Caffael Eiddo Gwag.
Mae cyllid ychwanegol hefyd wedi ei ddiogelu drwy Fenthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru i helpu unrhyw drydydd parti sydd eisiau caffael, ailwampio ac ailddatblygu eiddo yng nghanol tref Wrecsam. Bydd modd i eiddo y tu allan i ganol y dref fanteisio ar gyllid Troi Tai yn Gartrefi ond, yn dibynnu ar yr eiddo, mae’n bosibl y bydd angen ffynonellau cyllid amgen hefyd.
Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cwrdd ddydd Mawrth 9 Gorffennaf am 10am a bydd y cyfarfod yn cael ei weddarlledu. Mae’r rhaglen lawn ar gael yma.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN