Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Gorsaf Fysiau Wrecsam i ddelwedd Wrecsam fel tref.
Yn ogystal â bod yn rhan allweddol o lwybrau cludiant ar draws Gogledd Cymru, yr Orsaf Fysiau yw’r adeilad cyntaf y bydd y mwyafrif o bobl yn ei weld wrth deithio i Wrecsam.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym ni a’n partneriaid – gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru – wedi treulio llawer o amser yn gwella’r amgylchedd o amgylch yr Orsaf Fysiau, gyda’r nod o wella profiad defnyddwyr yr Orsaf Fysiau a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae defnyddwyr yr Orsaf Fysiau eisoes wedi gweld rhai gwelliannau yn cael eu gwneud dros yr wythnosau diwethaf gan gynnwys mesurau rheoli plâu, diweddaru goleuadau LED, peintio’r ardal ymgynnull a diweddaru’r byrddau gwybodaeth electronig presennol.
Cwblhawyd y gwelliannau hyn yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Wrecsam i Lywodraeth Cymru am gyllid o £73,000. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd yr Orsaf Fysiau fel man ymgyfnewid cludiant lleol / rhanbarthol a phorth i ganol y dref.
Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn rhan o raglen ehangach o weithiau i wella profiad y teithiwr yn yr Orsaf Fysiau gyda buddsoddiad arfaethedig pellach yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys diweddariadau i systemau Teledu Cylch Caeedig, seddi gwell, llawr gwrthlithro, ailwampio’r toiledau presennol a’r swyddfa wybodaeth, cyfleusterau storio beiciau ac ail-frandio’r Orsaf Fysiau.
Ail-agor y Swyddfa Wybodaeth
Y newyddion da yw y bydd y gwaith yn cynnwys ail-agor a staffio Swyddfa Wybodaeth yr Orsaf Fysiau.
Bydd y swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a bydd staff yn gallu darparu gwybodaeth am wasanaethau cludiant cyhoeddus; y bysiau sydd yn cyrraedd a gadael yr orsaf a chyfeirio’r cyhoedd at wasanaethau eraill y cyngor yng nghanol y dref.
Bydd Aelodau o Fwrdd Gweithredol y Cyngor yn trafod cynlluniau ar gyfer yr Orsaf Fysiau yn ystod eu cyfarfod misol, ddydd Mawrth, 13 Chwefror.
Bydd Aelodau hefyd yn trafod y cynnydd arfaethedig i ffioedd ymadael a ffioedd aros ar gyfer darparwyr cludiant yn yr Orsaf Fysiau.
Bydd modd i chi ddilyn y gweddarllediad yn fyw yma.
“Mae’r Orsaf Fysiau yn ganolbwynt”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gwybod bod yr Orsaf Fysiau yn rhan bwysig iawn o Ganol y Dref ac rwyf yn hynod falch o gyhoeddi’r contract newydd a fydd yn gweld y Swyddfa Wybodaeth yn ail-agor ac wedi’i staffio.
“Rydym hefyd yn gwybod bod y swyddfa wedi bod yn bwynt o ddiddordeb i ddefnyddwyr yr Orsaf Fysiau ers peth amser, a bydd staff wrth law i ddarparu gwybodaeth allweddol am wasanaethau bws a gwasanaethau cludiant eraill.
“Mae Adran Weinyddu’r Cyngor yn awyddus i wella canol y dref ac mae ailwampio’r orsaf fysiau yn un o’r rhannau allweddol er mwyn gwella’r ardal ac annog mwy o bobl i Ganol Tref Wrecsam.
“Rwyf yn edrych ymlaen at gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Bwrdd Gweithredol.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT