Mae Gofalwyr Ifanc o Wrecsam wedi bod yn cyd-ddylunio digwyddiad Dathlu gyda Done Together CIC, sef menter gymdeithasol sydd newydd ei ffurfio i helpu busnesau i gyflawni eu nodau, a’r tîm lleol o staff Credu sy’n cefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion sy’n gofalu.
“Rydyn ni’n dathlu cyfraniadau anhygoel Gofalwyr Ifanc a Chefnogwyr i Ofalwyr Ifanc o Wrecsam. Mae’r enwebiadau ar fin cau ac rydyn ni’n gyffrous i weld yr egni sy’n cael ei greu a’r cyfle i gydnabod yr eithriadol, y caredig, y meddylgarwch bob dydd a’r effaith y tu hwnt i’r disgwyl gan ofalwyr ifanc unigol a chefnogwyr o’n cymuned sy’n cefnogi gofalwyr ifanc yn eu swyddi, fel dinasyddion ac fel aelodau o’r teulu,” meddai Sally Duckers, Arweinydd Tîm WCD Credu.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghlwb Chwaraeon Brymbo ym mis Ionawr. Y thema ar gyfer y digwyddiad yw Sêr, thema ysbrydoledig ar gyfer cyfnod tywyll ac oer o’r flwyddyn. Bydd y prosiect hefyd yn rhoi llwyfan i Ofalwyr Ifanc sy’n dysgu offeryn cerdd gyda Wrexham Sounds i berfformio arno, yn ogystal â chyfle i gôr Gofalwyr Ifanc ddod ynghyd i ganu.
Mae Gofalwyr Ifanc hefyd yn gweithio gyda’r Artist, Jamila Thomas o Gyswllt Celf i greu dyluniadau sydd â thema sêr a rhannu dyfyniadau ysbrydoledig i addurno’r neuadd mewn positifrwydd.
“Mae’r gofalwyr ifanc wedi cyflwyno syniadau gwych ac maent mor ddiolchgar am y gefnogaeth y mae ffrindiau, teulu ac arbenigwyr eraill wedi’i dangos iddyn nhw,” meddai Leanne Jeffreys, Gweithiwr Allgymorth Credu. “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y noson a rhoi cyfle i rai o’r bobl ifanc anhygoel hyn ddisgleirio.”
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn £16,398.98 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cadwyn Clwyd, AVOW a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. #UKSPF
Cysylltwch â Credu i ddarganfod sut rydyn ni’n cefnogi gofalwyr ifanc led led Wrecsam, Conwy a Dinbych drwy edrych ar ein gwefan.
e-bostio: info@wcdyc.org.uk neu ffonio: 03330 143377


