Os nad oes gennych swydd ac eisiau cyngor, gall Cymunedau am Waith eich helpu chi!
Mae timau dynodedig ar draws y Fwrdeistref Sirol sydd yn cynnig mentora a chyngor unigol i’ch helpu i gael cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r gwasanaeth ar gael yn yr ardaloedd canlynol:
- Parc Caia
- Hightown
- Plas Madoc
- Cefn Mawr
- Penycae
- Rhos
- Southsea
- Brymbo
- Gwersyllt
- Llai
Felly os hoffech fynd yn ôl i weithio, ond angen arweiniad i’r cyfeiriad cywir, ffoniwch un o’n Swyddfeydd Cymunedau am Waith 01978 802418 (os ydych ym Mharc Caia neu Hightown) neu 01978 820520 os ydych yn un o’r pentrefi eraill a restrwyd.
Tîm dynodedig yw Cymunedau dros Waith sy’n cynnig mentora un i un a chymorth i ddod o hyd i waith i bobl mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf sy’n wynebu rhwystrau cymhleth o ran cael mynediad i gyflogaeth neu addysg. Gall y rhwystrau hyn gynnwys problemau iechyd, gofal plant, dyled, tai, diffyg sgiliau a bod wedi’u dal yn y ‘trap budd-daliadau’.
Gallwn helpu pobl i ennill y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt er mwyn symud tuag at gyflogaeth. Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Cymunedau dros Waith a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI