Ydych chi neu’ch plant wedi dechrau dysgu Cymraeg yn ddiweddar? Os felly, efallai eich bod wedi defnyddio ap sydd wedi dod yn hynod boblogaidd.
Cyfres o apiau yw Magi Ann a’i Ffrindiau, sydd wedi’u dylunio i helpu plant ac oedolion fel ei gilydd i ddysgu Cymraeg. Fe’u lluniwyd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam a chawsant eu lansio ar ddiwedd 2014.
Maen nhw bellach yn y ras am wobr genedlaethol, ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Nghategori Addysg Gwobrau Loteri Genedlaethol 2017.
Cyrhaeddodd y prosiect y rhestr fer derfynol ar ôl cystadlu yn erbyn dros 1,300 o ymgeiswyr ledled y Deyrnas Unedig.
Dros 99,000 o lawrlwythiadau
Mae’r apiau, sy’n adrodd hanes cymeriad Magi Ann a’i ffrindiau, wedi helpu pobl ar hyd a lled y byd i ddysgu darllen Cymraeg, ac mae’r apiau wedi cael eu lawrlwytho dros 99,000 o weithiau.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae yna chwe ap Magi Ann ar gael i’w lawrlwytho am ddim, gyda dros 50 o straeon syml a gemau ar gael i ddysgwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn falch iawn o weld yr ap hwn yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.
“Fel y gwelir yn y nodau sydd wedi’u gosod yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym ni fel Cyngor eisiau gwneud popeth y gallwn i annog mwy o bobl, o unrhyw oed, i dreulio ychydig mwy o amser bob diwrnod yn dysgu Cymraeg – ac mae apiau megis Magi Ann a’i Ffrindiau wedi bod yn boblogaidd iawn wrth helpu pobl i ddysgu ychydig o’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
“Dymunwn bob llwyddiant i’r Fenter Iaith, a gobeithio wir y bydd Magi Ann yn cipio’r wobr.”
“Mae cyrraedd y rownd derfynol yn gyffrous iawn”
Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam: “Mae cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, allan o 1,300 o enwebiadau, yn gyffrous iawn– mae hyn yn newyddion ardderchog, ac yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn.
“Mae’r apiau hyn yn adnoddau pwysig i blant sy’n dysgu darllen Cymraeg, yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn ddysgwyr fel ei gilydd.
“Mae yna alw amlwg am yr apiau yng Nghymru, ond fe wyddom ni hefyd am deuluoedd sy’n elwa o ddefnyddio’r apiau ar hyd a lled y byd, o Japan i Batagonia, o America i Sweden!”
I bleidleisio dros Magi Ann:
Ewch i http://www.lotterygoodcauses.org.uk/project/magi-ann
Ffoniwch 0844 836 9680 (dyma’r rhif uniongyrchol i bleidleisio dros Magi Ann – mae galwadau’n costio 5c)
Gallwch Drydar/Aildrydar: #NLANLAMagiAnn ar Twitter
Neu fynd i dudalen LotteryGoodCauses ar Facebook a phleidleisio trwy adael neges gyda’r hashnod #NLAMagiAnn
Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw 27 Gorffennaf.
PLEIDLEISIWCH