Nod y gwobrau Bionet yw dathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth. Rydym yn credu ei bod yn bwysig dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth.
Bionet yw enw’r Bartneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n cwmpasu Siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Yng ngoleuni’r argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol. Rhennir y gwobrau yn 8 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau:
- Gwobr Unigolyn Ifanc
- Gwobr Grŵp Cymunedol
- Gwobr Ysgol Gynradd
- Gwobr Ysgol Uwchradd
- Gwobr Busnes
- Gwobr Datblygiad sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth
- Gwobr Cyngor Tref neu Gymuned
- Gwobr Gwirfoddolwr
Ffurflen Gais Gwobrau Bionet 2024!
Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau yw 1 Rhagfyr 2024 ac fe gynhelir y seremoni wobrwyo ar 1 Chwefror 2025 yn Venue Cymru.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Byddwch yn wyliadwrus o godau QR ffug ar beiriannau parcio