Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arddangosfa newydd ‘uchelgeisiol’ i agor yn Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Arddangosfa newydd ‘uchelgeisiol’ i agor yn Tŷ Pawb
Pobl a lleY cyngor

Arddangosfa newydd ‘uchelgeisiol’ i agor yn Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Mai 28, 2019 4:26 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Arddangosfa newydd 'uchelgeisiol' i agor yn Tŷ Pawb
RHANNU

Mae arddangosfa gelf newydd uchelgeisiol newydd yn cynnwys cerflunwaith a ffilm yn agor nos Wener yn Tŷ Pawb.

Cynnwys
  • Chwarae gyda chanfyddiad
  • Creu ‘mannau iachau’

Nine Nectarines and Other Porcelain yw sioe unigol sefydliadol yr artist, Molly Palmer a’i nod yw dod ag uchelgais a thynerwch i oriel Tŷ Pawb, gan gwmpasu materion yn cynnwys lles meddyliol, ymddygiad a chwedloniaeth.

Mae’r arddangosfa’n rhan o raglen ehangach Tŷ Pawb ar gyfer 2019-20, Creu / Chwarae, sydd wedi’i threfnu o gwmpas gwaith ffilm sydd newydd ei gomisiynu.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Chwarae gyda chanfyddiad

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith ffilm sydd newydd ei gomisiynu. Gan fanteisio ar bensaernïaeth anarferol yr oriel, bydd Nine Nectarines and Other Porcelain yn chwarae ar bersbectif wrth roi amrywiaeth o ffyrdd i’r gynulleidfa ddehongli’r gwaith.

Mae Nine Nectarines and Other Porcelain yn annerch y gynulleidfa ynglŷn â’r gwahanol agweddau ar realaeth sy’n cuddio o fewn y ‘real’. Gallai hynny fod ar ffurf gwahanol rywogaethau a phersbectif ar fyd natur, ond hefyd persbectif ar wahaniaethau niwrolegol cudd gan gynnwys poen meddwl, iselder, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn.

Tra cynhelir yr arddangosfa, caiff Oriel 2 yn Tŷ pawb ei rhannu gan len gorfforol fel bod y ddau hanner gwrthgyferbyniol yn medru eistedd ochr yn ochr ac ymdreiddio i’w gilydd. Bydd y llif rhwng y naill a’r llall yn amlygu ei hun drwy sain a golau.

Creu ‘mannau iachau’

Mae a wnelo’r arddangosfa hefyd â gwaith Tŷ Pawb i hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a’r ymdrechion i ddatblygu traethiadau llinellol a goresgyn gwahaniaethau i’r norm o ran iechyd meddwl. Mae’r rhain yn medru arwain at batrymau o ymddygiad ymladdgar sy’n niweidio ein cyrff a’n heneidiau. Mae Nine Nectarines… yn argymell ein bod yn troi ein hegni at i mewn, a gweithio gyda’n gilydd i greu mannau llesol.

Daw teitl yr arddangosfa o gerdd gan Marianne Moore, ac mae’r gwaith ei hun yn cyfeirio at waith ymchwil Palmer i hanes meddygaeth yn llyfrgell Ymddiriedolaeth Wellcome. Roedd hi’n canolbwyntio ar hud a lledrith fel technoleg ar gyfer hunansylweddoli, gan fwrw golwg ar ddiwylliannau lle mae hud a lledrith yn plethu gyda gwyddoniaeth a meddygaeth. Defnyddir defodau a symbolau i atgyfnerthu cylchoedd llesol a chreu cydbwysedd egwyddorol.

Ymunwch â ni am y digwyddiad lansio cyhoeddus am ddim ar gyfer Naw Nectarines a Phorslen Arall ddydd Gwener, 31 Mai, 6 pm-8pm.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei dangos tan Awst 4.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fo

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllun Braf Bob Nos yn cael ei lansio yn Wrecsam Cynllun Braf Bob Nos yn cael ei lansio yn Wrecsam
Erthygl nesaf Ysgolion Lleol yn mynd ar “Daith i’r Blaned Mawrth” Ysgolion Lleol yn mynd ar “Daith i’r Blaned Mawrth”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English