Nid yw datrys heriau, gwneud robotiaid a llywio ar blaned Mawrth yn swnio fel diwrnod ysgol arferol ond fel hyn yr oedd hi i ddisgyblion Wrecsam.

Daeth 16 o ysgolion i Ganolfan Catrin Finch ym Mhrifysgol Glyndŵr ar gyfer digwyddiad arbennig lle’r oedd y plant yn cael sialensiau a oedd yn berthnasol i Daith i Blaned Mawrth.

Roedd disgyblion rhwng 9 a 14 oed yn defnyddio eu creadigrwydd i greu robotiaid i lywio ar hyd ceunentydd Mawrth gan ddefnyddio technoleg arbennig a’u fflêr dylunio unigol eu hunain.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Gan weithio mewn grwpiau, roedd plant ac athrawon yn cymryd rhan mewn nifer o sialensiau a oedd yn profi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a sgiliau mathemateg. Roedd disgyblion yn defnyddio codau i arwain y robotiaid drwy’r cwrs, a oedd wedi’i greu i ddynwared arwynebedd Mawrth.

Dywedodd Simon Billington, Cyngor Wrecsam “Roedd y digwyddiad hwn yn profi creadigrwydd disgyblion, a datrys problemau a sgiliau digidol. Roedd yn llawer o hwyl ac yn heriol. Roeddem yn falch iawn bod cyfanswm o 16 o ysgolion wedi mynychu’r digwyddiad a gobeithiwn y gallwn drefnu mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol i gefnogi’r cwricwlwm newydd maes o law yng Nghymru.

Drwy gydol y dydd roedd disgyblion ac athrawon yn defnyddio ystod o ddyfeisiau a chyfarpar gan gynnwys Lego, Crumble, Microbit, Chromebooks a Google Classroom i’w helpu i brofi eu syniadau a dod o hyd i ddatrysiadau posibl i’r problemau a wynebwyd yn y daith i Fawrth.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Cymorth TGCh Ysgolion Wrecsam a’u noddi gan Bartner Google Wrecsam, Gretech Education gyda chymorth ychwanegol gan Redfern Electronics, Reads Construction a Creative Hut.

Yr ysgolion a fynychodd oedd:

St Paul

All Saints

Pentre

Tan-y-fron

Brynteg

Gwersyllt

San Silyn

Sant Dunawn – Enillwyr cyffredinol yr holl Sialensiau

Heulfan – Enillydd – Hunaniaeth Tîm Gorau

Acrefair

Garth

Black Lane

Penygelli – Enillwyr – Disgyblion Cyfnod Allweddol 2

Rhosnesni

Bryn Alyn

St Christophers – Enillwyr – Disgyblion Cyfnod Allweddol 3

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU