Yn ddiweddar, cyfarfu Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard, ag Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes, i drafod cyfleoedd a rennir rhwng y ddwy sir.
Yn ystod y cyfarfod cynhyrchiol trafodwyd sawl cyfle i gydweithio’n agosach gan gynnwys hyrwyddo’r parth buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard: “Ar ôl gwahodd y Cynghorydd Hughes i gwrdd roedd yn bleser ei groesawu i Neuadd y Gorfforaeth er mwyn trafod syniadau, gwerthoedd ac uchelgeisiau a rennir ar gyfer y ddwy sir.”
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Roedd fy ymweliad â Wrecsam yn hynod gynhyrchiol ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r Cynghorydd Pritchard i Sir y Fflint yn y dyfodol agos i ddatblygu’r berthynas fuddiol rhwng awdurdodau.”