Ar 9 Hydref, byddwn ni yma yng Nghyngor Wrecsam yn derbyn ein setliad cyllideb dros dro gan Lywodraeth Cymru.
Gan ofni’r gwaethaf, mae arweinyddiaeth y Cyngor wedi bod wrthi’n paratoi mewn ymdrech i geisio lliniaru’r effaith lawn ar wasanaethau rheng flaen.
Os cawn setliad cyllid teg gan Lywodraeth Cymru, credwn y gallwn gyflawni hyn ar gyfer y flwyddyn 2019/20, er y byddwn yn wynebu heriau sylweddol ym mlwyddyn ariannol 2020/2021.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Mae’r gwaith a arweinir gan y Cyngor yn cynnwys cwblhau cam cyntaf adolygiad o uwch reolwyr fydd, os caiff ei gymeradwyo ym mis Tachwedd, yn gwneud arbedion sylweddol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ac rydym wedi, a byddwn yn parhau i, gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar ran ysgolion i sicrhau y bydd cyflogau a chostau eraill yn cael eu cyllido’n llawn.
Ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn bwriadu ymgynghori â’r cyhoedd, fel y gwnaethom yn y blynyddoedd blaenorol, fel rhan o’r ymgynghoriad cyllideb Penderfyniadau Anodd. Thema eleni fydd ‘cydweithio i gefnogi gwasanaethau hanfodol Wrecsam’.
“Gallai gwasanaethau hanfodol fod mewn perygl”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad a Llywodraethu: “Trwy ein gwaith caled, rydym yn ceisio cefnogi gwasanaethau hanfodol Wrecsam megis gofal cymdeithasol plant ac oedolion a chyllidebau ysgolion.
“Yn y blynyddoedd a aeth heibio, rydym wedi gwneud arbedion a thoriadau sylweddol i wasanaethau gan lwyddo i gael yr effaith leiaf bosib ar wasanaethau rheng flaen hanfodol.
Ond os na chawn ni setliad teg gan Lywodraeth Cymru, allwn ni ddim dod i ben â hyn ar gyfer 2019/20. Gallai’r gwasanaethau hanfodol hyn fod mewn perygl.
“Os derbyniwn ni setliad teg, byddwn yn awyddus i glywed wedyn gan drigolion, fel rhan o’r ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd, sut y gallwn ni gydbwyso materion fel Treth y Cyngor a darparu gwasanaethau yn y dyfodol – megis gwasanaethau gwastraff a’r llyfrgelloedd – mewn modd sy’n golygu na fydd rhaid i ni wneud toriadau difrifol i wasanaethau hanfodol gyda’r setliad.
“Ni ddaeth yr un ohonom ni fel gwleidyddion nag uwch swyddogion i mewn i wasanaeth cyhoeddus er mwyn delio â’r mathau hyn o broblemau, ond hyd nes y bydd y caledi ariannol a’r setliadau cyllideb gwael hyn yn dod i ben, fe wnawn ni fel arweinwyr y cyngor ein gorau glas ar ran y trigolion.”
Mae Cyngor Wrecsam wedi gwneud £33.8m o arbedion a thoriadau yn y pum mlynedd diwethaf, a bron i £60m ers i’r argyfwng ariannol gychwyn yn 2007/08.
Gwnaed dros dri chwarter yr arbedion hyn gyda’r effaith leiaf bosib ar fwyafrif y cyhoedd, a heb orfod gwneud toriadau eithafol i’r amrediad o wasanaethau hanfodol a ddarperir. Mae’r cyngor bellach yn credu ein bod ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol lle bydd gwasanaethau hanfodol mewn perygl os na fydd y setliad yn un teg neu os na ellir cytuno ar benderfyniadau anodd gyda’r cyhoedd.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU