Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
ArallPobl a lle

Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 16, 2018 3:30 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
RHANNU

Mae Wrecsam yn ymbaratoi ar gyfer dychweliad Comic Con y penwythnos nesaf, pan fydd arwyr ar draws y bydysawd cyfan yn glanio unwaith yn rhagor yng Nglyndŵr ar gyfer 10fed Comic Con Cymru.

Bydd pobl yn tyrru yn eu miloedd i ganol y dref ar gyfer y digwyddiad hwn, sy’n un o’r mwyaf poblogaidd ar galendr Comic Con y DU ac Ewrop gyfan, gyda nifer ohonynt yn treulio’r penwythnos yma, gan ddod â thwristiaeth werthfawr i Wrecsam a’r cyffiniau.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Mae gwesteion y mis yma’n siŵr o blesio’r ymwelwyr, gyda Val Kilmer ar frig y rhestr, yn enwog am ei rôl fel Batman, ond yn dod ag atgofion melys i nifer ohonom fel Doc Holliday yn Tombstone neu Ice Man yn Top Gun!

“Mark Sheppard – wyneb cyfarwydd”

Yn ymuno ag ef fe fydd Sean Astin, sy’n enwog am ei rôl fel Samwise Gamgee yng nghyfres Lord of the Rings ac, wrth gwrs, yn y Goonies. Bydd Greg Grunberg yn boblogaidd ymysg dilynwyr Heroes a Star Wars: the Force Awakens a bydd Mark Sheppard yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonom oherwydd ei rôl yn Supernatural, Battle Star Galactica, Firefly, Leverage, Doctor Who, In the Name of the Father a llawer mwy.

Bydd mwy fyth o enwau cyfarwydd yn ymuno â nhw – David Anders, Warwick Davis, Andrew Scott, Amy Jo Johnson, Frankie Muniz, Juliet Landau, Marc Blucas, Clare Kramer… mae’r rhestr wir yn ddiddiwedd ac yn wefreiddiol!

Ochr yn ochr â’r arwyr hyn, bydd yna arddangosfeydd, sesiynau holi ac ateb, cyfleoedd i dynnu lluniau a chael llofnodion, gwisg-chwarae a chwarae gemau.

Fel y gwelwch chi yn y fideo uchod a’r lluniau isod, mae’r digwyddiad yn apelio at ymwelwyr o bob oed, sy’n gwisgo i fyny fel eu hoff gymeriadau. Bydd rhai wedi teithio ar draws y DU, ac eraill o Ewrop.
<“£1,000,000 yn cael ei wario"

Amcangyfrifir bod y Comic Con Cymru diwethaf ym mis Tachwedd wedi denu 10,000 o ymwelwyr a wariodd tua £1,000,000 yn yr ardal cyn mynd adref.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Does dim amheuaeth mai Comic Con yw un o’r digwyddiadau mwyaf blaenllaw yng nghalendr yr ardal, sy’n dod â buddion economaidd eithriadol yn ei sgil. Dylai’r trefnwyr fod yn arbennig o falch bod eu digwyddiad yn cael cymaint o barch gan ymwelwyr, gwesteion ac arddangoswyr fel ei gilydd.”

Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam
Arwyr yn dychwelyd i Wrecsam

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Newyddion da i Orsaf Fysiau Wrecsam Newyddion da i Orsaf Fysiau Wrecsam
Erthygl nesaf damaged wall Lansiad ar gyfer y rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English