Mae Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru wedi lansio ymgyrch i helpu cymunedau yng Nghymru i gydnabod arwyddon o fenthyg arian yn anghyfreithlon a chyfeirio at gymorth sydd ar gael.
Nid ydym yn sôn am symiau mawr o arian- gallai fod yn £20 ar gyfer y mesurydd trydan. Ond gallai’r swm yna arwain at swm llawer mwy gyda thaliadau llog yn cynyddu wythnos ar ôl wythnos.
Hefyd gallai fod yn drefniant achlysurol i ddechrau a gallai ddigwydd wrth giât yr ysgol, ar negeseuon What’s App neu wrth fwynhau peint ar ôl gwaith, ond fel mae’r angen ad-dalu gall rhai sefyllfaoedd fod yn eithaf bygythiol.
Yn aml bydd pobl sy’n cael trafferthion ariannol yn chwilio am ateb sydyn, ond mae’n bwysig iawn eu bod nhw’n deall bod yna ffyrdd llawer gwell na benthyg arian gan fenthycwyr arian didrwydded.
Mae help ar gael
Y neges i unrhyw un yn y sefyllfa hon, mae help ar gael. Gallwch roi gwybod i’r Tîm Benthyg Arian yn Anghyfreithiol yn gyfrinachol, ac fe allan nhw wedyn eich cynorthwyo chi a mynd i’r afael â’r troseddwyr.
Mae Atal Siarcod Benthycwyr Arian Cymru yn annog preswylwyr Wrecsam i sicrhau bod unrhyw un sy’n cynnig i fenthyg arian gydag awdurdod credyd defnyddiwr. Os ydych yn ddioddefwr benthycwyr arian didrwydded neu’n credu bod benthycwr yn gweithredu gerllaw, yna ffoniwch yn awr ar 0300 123 311.
Bydd swyddogion cyswllt cleientiaid arbennig yn cefnogi ac yn cynorthwyo dioddefwyr, gan ddarparu cyngor ar ddyledion a phroblemau eraill.
Eich Undeb Credyd
Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol ac angen cymorth, mae defnyddio eich Undeb Credyd yn ffordd lawer rhatach a diogelach o dderbyn benthyciad.
Dyma rai o’r manteision:
- Cais hawdd
• Cyfradd llog isel
• Penderfyniadau cyflym
• Dim costau ad-dalu cynnar
I ddarganfod mwy a sut i wneud cais ewch i.
Os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled a ddim yn gwybod ble i droi, mae yna help ar gael i chi reoli’ch arian.
Cysylltiadau Defnyddiol
Cyngor ar Bopeth, Wrecsam (Gwasanaeth Cymdeithasol a Llesiant) – rhif ffôn 01824 703483
Cyngor ar Bopeth, Wrecsam (Gwasanaeth Cyfreithiol) – rhif ffôn 0844 826 9690
Vesta SFS (Cymorth Arbenigol i Deuluoedd – ar gyfer teuluoedd Pwyleg yng Nghymru) – e-bost info@vestasfs.org
Gallwch hefyd ffonio llinell Cyngor i Ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN