Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n edrych ar ba mor dda yw’n gwasanaethau yn Wrecsam a sut rydym wedi gweithio gyda phartneriaid a phobl leol.
Mae hefyd yn nodi ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sut mae’r rhain yn cael eu selio ar beth wnaethoch chi ddweud wrthym oedd ei angen arnoch.
Gan fod gennym lai o adnoddau bellach ond fod mwy o alw, rhaid i ni feddwl yn wahanol ynglŷn â sut yr ydym yn darparu gwasanaethau, a byddwn yn parhau i weithio’n agos â phartneriaid, teuluoedd ac unigolion i hybu eich lles.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion:
“Mae’r braf iawn darllen yr adroddiad ac rydw i’n falch fod staff yn gallu ymateb i’r her o ddarparu gwasanaethau gyda llai o adnoddau. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad at ofal i’w ganmol a hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth parod parhaus wrth gefnogi’r mwyaf agored i niwed yn ein plith.”
Dyma rai o’r pethau yr hoffem eu gwneud yn y 12 mis nesaf.
• Parhau i ddatblygu ein gwasanaethau Cymraeg i fodloni ein Safonau Iaith Gymraeg.
• Sicrhau fod ein cynlluniau gofal a chymorth ar gyfer pobl ifanc yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau a monitro os yw’r canlyniadau personol a gytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni.
• Parhau i ddatblygu ein cefnogaeth i bobl yn eu cartrefi eu hunain er mwyn darparu annibyniaeth.
• Sefydlu tîm diogelu yn y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
• Cael mwy o Asiantwyr cymunedol i weithio ym mhob rhan o’r fwrdeistref.
• Ceisio defnyddio arian grant i drechu digartrefedd ar gyfer rhai sy’n gadael gofal yn Wrecsam.
Gallwch edrych ar Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yma
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI