Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth yn union yw ystyr SATC?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Beth yn union yw ystyr SATC?
Y cyngor

Beth yn union yw ystyr SATC?

Diweddarwyd diwethaf: Awst 2, 2017 9:08 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Beth yn union yw ystyr SATC?
RHANNU

Un o’r termau y byddwch chi’n eu clywed yn aml gennym ni yw “sicrhau bod ein stoc o dai yn cyrraedd SATC erbyn 2020.”

Byddai hyn yn ardderchog i ni ac fe fyddai yn sicr yn gyflawniad mawr…ond beth yn union fydd hyn yn ei olygu i chi, yn enwedig os ydych yn un o’n tenantiaid ni?

Yn syml, golyga hyn y bydd ein tenantiaid i gyd yn byw mewn tai rhent o safon benodol, Safon Ansawdd Tai Cymru, sef safon a osodir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ein holl dai cyngor:

• Mewn cyflwr da
• Yn ddiogel
• Wedi’u gwresogi’n ddigonol
• Â cheginau ac ystafelloedd ymolchi modern
• Wedi eu lleoli mewn ardal ddeniadol a diogel
• Wedi’u rheoli’n dda

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Rydym yn berchen ar dros 11,300 o dai, y nifer mwyaf yng Ngogledd Cymru a’r nifer mwyaf ond dau yng Nghymru. Maent i gyd o faint, siâp ac oedrannau gwahanol ac wedi’u hadeiladu o ddeunyddiau gwahanol ond bydd rhaid sicrhau eu bod i gyd yn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.

“Mae dros £100 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn ein heiddo”

Y llynedd, gwariasom £54m ar sicrhau gwelliannau i gartrefi a byddwn yn gwario £56.4m eto eleni ar welliannau pellach i dai ac yr amgylchedd o amgylch y tai hynny. Ym Mhlas Madog, er enghraifft, yn ogystal â sicrhau bod ein tai yn cwrdd â’r safon rydym hefyd yn edrych ar yr amgylchedd yn ei gyfanrwydd ac yn dymchwel adeiladau er mwyn creu ardaloedd mwy agored sydd yn fwy dymunol i fyw ynddynt.

Bydd gan bob eiddo ystafell ymolchi a chegin newydd, os nad ydynt eisoes wedi’u gosod. Mae hyn yn cynnwys gosod unedau cegin, sinc a lloriau diogel newydd, teilsio ac ail-addurno ac unrhyw waith arall sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gegin o safon uchel. Byddwn hefyd yn gosod swît ymolchi a chawod newydd ym mhob ystafell ymolchi, cyn teilsio ac ail-addurno’r ystafell.

Beth yn union yw ystyr SATC?
Beth yn union yw ystyr SATC?
Beth yn union yw ystyr SATC?
Beth yn union yw ystyr SATC?

Mae rhai o’n tenantiaid wedi gwrthod y gwaith arfaethedig gan nad ydynt eisiau profi’r amhariad y bydd y gwaith yn ei achosi…ac mae hynny’n gwbl dderbyniol…ond byddwn yn ailymweld â’r tenantiaid hynny i wneud yn siŵr nad ydynt eisiau parhau â’r gwaith. Gweithir i godi safon y tai hyn at Safon Ansawdd Tai Cymru pan ddaw’r tŷ yn wag yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod ein tai i gyd o safon uchel.

Rydym hefyd yn cael gwared ag asbestos, gwella inswleiddiad, atgyweirio/gosod toeau newydd a, lle bo’r angen, gwella llwybrau troed, adeiladau allanol / siediau / cyfleusterau sychu dillad, ffiniau, ffensiau…mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym yn ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ac rydym yn gwybod bod y mwyafrif o’n tenantiaid wedi’u plesio â’r canlyniadau.

Dywedodd Y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai:

“Mae cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni yn yr Adran Dai ac rwyf yn falch iawn ein bod yn cyflawni ein gwaith yn gywir a bod ein tenantiaid yn gallu byw mewn tai cyfforddus, cynnes a diogel. Rhaid diolch yn fawr i bob unigolyn sy’n rhan o’r prosiect mawr hwn!”

Cymrwch gipolwg ar yr argraff arlunydd isod o Blas Madog ar ei newydd wedd wedi i’r holl waith ddod i ben:

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymrwch gipolwg ar y prosiect adeiladu sydd o fudd i bobl ifanc yn Wrecsam Cymrwch gipolwg ar y prosiect adeiladu sydd o fudd i bobl ifanc yn Wrecsam
Erthygl nesaf wrexham Niferoedd Ymwelwyr ar gynnydd yng Nghanol y Dref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English