Cwmni arall o Wrecsam yn mynd o nerth i nerth…
Yn ddiweddar, aeth Aelod Arweiniol yr Economi Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Nigel Williams, i ymweld â busnes lleol sy’n ffynnu, a enillodd wobr yn nigwyddiad cyntaf Gwobrau Busnes a Chymuned Wrecsam 2023. Ac roedd yn gyfle gwych i greu podlediad!
Mae The Uncommon Practice yn darparu gwasanaethau cyfrifeg ac ymgynghoriaeth i fusnesau bach a chanolig.
Mae’r cwmni’n seiliedig yn Nhŵr Rhydfudr ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, ac mae ei dwf dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cynnwys caffael dau bractis cyfrifeg a chymryd pum prentis o Goleg Cambria.
Mae’r cwmni hefyd yn creu ei bodlediad ei hun, ‘Uncommon Sense’, lle mae perchnogion busnes ac arweinwyr yn siarad am eu heriau a’u cyfleoedd, gan gynnig cyngor gonest a hanesion go iawn.
Cymerodd y Cynghorydd Williams ran mewn rhifyn arbennig am fusnes yn Wrecsam pan aeth i ymweld â The Uncommon Practice – sef The Resurgence of Wrexham Business’ (gallwch ddod o hyd iddo trwy chwilio am ‘Uncommon Sense’ ar Spotify ac Apple Podcasts hefyd).
Dywedodd Marlon Armstrong, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfrifeg: “Roeddem wrth ein boddau o groesawu’r Cynghorydd Nigel Williams i’n swyddfeydd yn Wrecsam. Roedd yn wych ei gyflwyno i’n tîm a dangos y lle iddo.
“Mae’n deg dweud nad oedd Nigel wedi bod i gwmni cyfrifeg ac ymgynghoriaeth gyda graffiti ar y waliau a bwrdd tenis bwrdd yn yr adeilad o’r blaen!
“Ond fel y dywedasom wrth Nigel, mae’n hawdd dweud ein bod ni’n anghyffredin. Mae profi hynny trwy’r ffordd yr ydym ni’n gweithio gyda’n cleientiaid yn anoddach, ond dyna beth rydym ni’n ei wneud. Ac mae ein twf cyflym mewn dim ond ychydig o flynyddoedd yn dangos bod ein cleientiaid yn gwerthfawrogi ein dull gweithredu ffres.
“Rydym yn falch o ddefnyddio ein sylfaen yn Wrecsam i gefnogi busnesau’n lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac roeddem yn falch iawn o ennill gwobr yng Ngwobrau Busnes a Chymuned Wrecsam.”
Meddai’r Cynghorydd Williams: “Mae’n wych gweld gymaint o fusnesau blaengar yn ffynnu yn Wrecsam, ac mae’n ategu pa mor wych yw Wrecsam fel lleoliad busnes.
“Fe wnes i fwynhau fy ymweliad â The Uncommon Practice yn fawr iawn ac roedd y podlediad yn gyfle gwych i siarad am faterion sy’n effeithio ar fusnesau lleol.
“Roedd yn wych cwrdd â’r tîm ac mae’r swyddfa’n amgylchedd creadigol ac ysbrydoledig iawn, ac mae’n adlewyrchu ethos y cwmni arloesol hwn yn fawr.
“Mae bwrdd tennis bwrdd hyd yn oed, sy’n boblogaidd gyda staff a chleientiaid. Er bod fy sgiliau tennis bwrdd fy hun…mae’n rhaid i mi gyfaddef…braidd yn siomedig!”
Mae rhagor o wybodaeth am The Uncommon Practice a’r gwasanaeth mae’n ei ddarparu trwy fynd i wefan y cwmni.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.