Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnes teils ac ystafelloedd ymolchi lleol yn gwneud ymrwymiad i Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Busnes teils ac ystafelloedd ymolchi lleol yn gwneud ymrwymiad i Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor
Y cyngor

Busnes teils ac ystafelloedd ymolchi lleol yn gwneud ymrwymiad i Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 31, 2022 9:49 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Tiles
RHANNU

Llofnododd Dominic White, cyfarwyddwr West Bank Tiles and Bathrooms Limited, ymrwymiad ysgrifenedig ar gais Safonau Masnach.

Aeth Swyddogion Safonau Masnach at Mr White yn dilyn cwynion a wnaed drwy linell gymorth Cyngor ar Bopeth. Yr oedd y cwynion yn ymwneud ag oedi maith wrth gwblhau gwaith, peidio â chwblhau gwaith a phryderon ynglŷn â safon y gwaith a wnaed, talu blaendaliadau sylweddol ac yna oedi hir cyn dechrau’r gwaith, gwaith heb ei orffen, gwaith o safon isel, peidio ag ymateb i bryderon cwsmeriaid, peidio â chadw addewidion a wnaed fel rhan o rwymedigaethau dan gontract a pheidio â rhoi manylion busnes i’r cwsmer neu wybodaeth yr oedd yn rhaid ei rhoi yn ôl y gyfraith i gwsmer cyn ymrwymo i gontract.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mewn cyfarfod gyda Swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor, llofnododd Mr White ymrwymiad ysgrifenedig lle’r ymrwymodd i gydymffurfio â chyfreithiau diogelu defnyddwyr perthnasol ar gyfer yr holl waith newydd a wneir, a datrys yr holl faterion sydd heb eu datrys eisoes gyda chwsmeriaid presennol o fewn amser y cytunir arno.

Bydd Safonau Masnach yn parhau i fonitro gweithgarwch masnachu. Y mae unrhyw dystiolaeth bod y busnes yn torri’r ymrwymiad yn debygol o arwain at achos cyfreithiol yn y Llys Sirol i sicrhau gorchymyn llys yn erbyn y busnes.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer diogelu defnyddwyr a sicrhau cystadleuaeth deg rhwng busnesau fel bod pawb yn bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i gwsmeriaid. Os oes gan unrhyw ddefnyddiwr gŵyn ynglŷn â hyn neu unrhyw fusnes arall, gallant gysylltu â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, lle byddant yn cael cyngor, a bydd manylion y gŵyn yn cael eu trosglwyddo i Safonau Masnach.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyhoeddi cartref newydd dros dro ar gyfer Marchnadoedd Wrecsam Cyhoeddi cartref newydd dros dro ar gyfer Marchnadoedd Wrecsam
Erthygl nesaf Parking Mae cyfyngiadau parcio’n berthnasol gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd – parciwch yn gyfrifol bob amser.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English