Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnes yn Wrecsam yn dathlu carreg filltir £4 miliwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Busnes yn Wrecsam yn dathlu carreg filltir £4 miliwn
Busnes ac addysg

Busnes yn Wrecsam yn dathlu carreg filltir £4 miliwn

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 12, 2022 2:52 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Reclaim Tax Wales
RHANNU

Mae busnes yn Wrecsam wedi dathlu carreg filltir bwysig yn ddiweddar gydag ymweliad gan Faer Wrecsam.

Cynnwys
  • Dathlu llwyddiant lleol
  • Helpu’r economi i ffynnu

Mae Reclaim Tax, yn y Waun, wedi helpu busnesau Cymru i hawlio mwy na £4 miliwn mewn budd-dal treth – gan gynnwys nifer o fusnesau lleol yng Ngogledd Cymru.

Bu i Faer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron – ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard – ymweld â phencadlys y cwmni yr wythnos ddiwethaf i longyfarch staff.

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol? Dilynwch y cyfarwyddiadau fel ein bod ni’n gwybod eich bod chi wedi cofrestru ac yn barod i bleidleisio.

Dathlu llwyddiant lleol

Dywedodd y Maer: “Roedd wir yn bleser cwrdd â Joshua a’r tîm yn Reclaim Tax Wales ac i’w llongyfarch ar eu llwyddiant.

“Roedd yn braf cael dysgu am y gwaith a wnânt a sut maent yn helpu busnesau eraill yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod a dathlu llwyddiant cwmnïau lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard: “Mae bob amser yn galonogol clywed am fusnesau sy’n mynd o nerth i nerth. Mae busnesau lleol yn chwarae rhan allweddol yn ein heconomi lleol – maent yn creu cyfoeth a chyflogaeth, ac yn helpu i roi Wrecsam ar y map.

“Mae helpu busnesau Cymru i hawlio £4 miliwn mewn budd-dal treth wir yn gyflawniad hynod, a gobeithiaf y bydd Reclaim Tax Wales yn parhau i dyfu a ffynnu.”

Helpu’r economi i ffynnu

Dywedodd Joshua Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Reclaim Tax Wales: “Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Maer ac Arweinydd y Cyngor i’n swyddfa yn Wrecsam i ddathlu’r busnes yn cyrraedd £4 miliwn mewn rhyddhad treth busnes.

“Rydym yn hynod o falch o’r gwaith a wnawn i ddatgelu rhyddhad treth arbenigol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig sy’n arwain at hwb ariannol neu arbedion treth sylweddol. Mae nifer o’r cwmnïau hyn ar ein carreg drws yn Wrecsam, gan fod gennym dros 45 o gleientiaid lleol erbyn hyn.

“Mae’r gefnogaeth a ddangoswyd gan gynghorau lleol, cymunedau a chleientiaid wedi bod yn hollol wych, a hir oes i hyn.

“Ein nod hirdymor yw parhau i ysgogi’r economi Gymreig ac edrychwn ymlaen at groesawu’r Maer ac Arweinydd y Cyngor yn ôl pan fyddwn yn cyrraedd £10 miliwn mewn budd-dal i gleientiaid!”

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.householdresponse.com/wrexham “]PARATOWCH I BLEIDLEISIO[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu
Erthygl nesaf Dyma'r ffrydd y byddwn yn... A ydych wedi cael ffurflen A3 gennym ni? Ymatebwch!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English