Bydd ein Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod bore yfory am 10am ac mae ganddynt rhaglen lawn i weithio drwyddi.
Bydd y sylw ar wella Gwasanaethau Plant wrth ofyn i aelodau gymeradwyo Fframwaith Atal a Chymorth Cynnar a chreu Partneriaeth Atal a Chymorth Cynnar. Mae’r ddau yn berthnasol a phwysig er mwyn gweld gwelliant parhaus yn y maes gwasanaeth pwysig yma.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd wedi ymweld â’n Gwasanaethau Plant fel rhan o’u gwaith yn monitro’r gwasanaeth, ac mae’r hyn y maent yn ei adrodd yn eu llythyr dilynol yn adlewyrchiad positif o waith y Cyngor ar lefel swyddogion ac aelodau wrth gefnogi gwelliant parhaus yng ngwasanaethau cymdeithasol plant yn Wrecsam.
Eitem arwyddocaol arall y bydd gofyn iddynt ei gymeradwyo yw’r cais am gefnogaeth gan Lywodraeth y DU am lety a chefnogaeth fel rhan o Bolisi Adleoliad a Chymorth Affgan.
Mae’r cais yn adlewyrchu’r sefyllfa wleidyddol yn Affganistan sydd wedi dod yn fwyfwy cyfnewidiol yn ystod y misoedd diwethaf, sy’n golygu bod y rhai a helpodd byddinoedd a llywodraeth y DU yn Affganistan mewn perygl sylweddol o niwed oni bai eu bod yn cael eu hadleoli o’r wlad.
Argymhellir fod Cyngor Wrecsam yn cefnogi’r cynllun a fydd yn cael budd o’i brofiad wedi llwyddiant Cynllun Adsefydlu Ffoaduriaid o Syria a ddaeth i ben llynedd.
Mae cymryd rhan yn y cynllun ar sail gwbl wirfoddol gyda phecyn ariannu’r Swyddfa Gartref yn talu am y gost o ddarparu llety yn amodol ar argaeledd yn y sector preifat, a bydd yn cynnwys costau sefydlu; cefnogaeth ariannol cyn i fuddion prif ffrwd ddod i rym a chostau sy’n gysylltiedig ag anghenion integreiddio’r unigolion a theuluoedd dan sylw am gyfnod o ddeuddeg mis.
Bydd y Bwrdd Gweithredol hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun y Cyngor ar gyfer 2020 i 2021 sy’n dynodi’r pwysau arwyddocaol mae pob gwasanaeth yn ei wynebu yn ystod y pandemig a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020/21 – 2024/25.
Gallwch gael cip ar y Rhaglen yma a’i wylio yn fyw, bydd y darllediad yn dechrau am 10am.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN