Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod bore yfory am 10am ac mae ganddynt sawl eitem i’w trafod.
Yn gyntaf mae Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2020/21 a bydd aelodau’n derbyn yr adroddiad sy’n amlinellu’r gwaith a wnaed gan y partneriaid drwy gydol y flwyddyn, sydd wrth gwrs yn cynnwys yr ymdrechion anhygoel gan bawb oedd yn rhan o ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig.
Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau partner sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella lles pobl a chymunedau ar draws Gogledd Cymru fel sydd angen dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gofynnir i aelodau’r Bwrdd Gweithredol nodi cynnydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 12 mis diwethaf.
Gellir cael golwg ar yr adroddiad blynyddol yma.
Yna, gofynnir i aelodau gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21.
Mae’r adroddiad blynyddol yn ofyniad cyfreithiol a rhaid iddo gyfeirio at Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant. Mae’r adroddiad yn cynnwys adolygiad o berfformiad a hefyd diweddariad ar y blaenoriaethau gwella a osodwyd ar gyfer y flwyddyn. Mae hefyd yn nodi’r meysydd gwella ar gyfer y flwyddyn ganlynol (2021/22).
Yna gofynnir i aelodau gymeradwyo cynllun trwyddedu ychwanegol 5 mlynedd arall ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn dilyn ymgynghoriad diweddar.
Mae’r cynllun trwyddedu ychwanegol yn ceisio gwella amodau tai a safonau rheoli mewn Tai Amlfeddiannaeth ledled Wrecsam.
Ystyrir hefyd a ddylid cymeradwyo les 25 mlynedd i Glwb Pêl-droed Rhostyllen.
Bydd y les ar dir oddi ar Ffordd Vicarage a reolir ar hyn o bryd gan ein Hadran Amgylchedd a Thechnegol.
Os cytunir ar y les, bydd y clwb pêl-droed yn gallu cael cyllid a sicrhau mynediad at ffrydiau gwahanol o gyllid er mwyn gwella’r cyfleusterau yn yr ardal er lles y clwb a’r gymuned leol.
Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar-lein bore yfory am 10am a gallwch wylio ar-lein yma neu wylio’r gweddarllediad ar adeg fwy cyfleus.
Gallwch gael cip ar y Rhaglen yma.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN