Ddydd Mawrth 23 Mawrth, bydd cymunedau ledled Cymru yn dod ynghyd i gofio bywydau’r rhai a gollwyd yn ystod y pandemig Covid-19.
Mae’r dyddiad yn nodi blwyddyn ers y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf pan roedd cyfanswm y marwolaethau oedd yn gysylltiedig â coronafeirws yn y DU yn 335 a 4 yng Nghymru ar y dyddiad hwnnw. Erbyn hyn bu 126,000 yn y DU a 5,488 o farwolaethau yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Yn y flwyddyn ddiwethaf cafwyd tri cyfnod clo cenedlaethol sydd wedi amharu ar gyflogwyr, gweithwyr, rhieni, gofalwyr ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen.
Bu i ni ddysgu ymadroddion newydd megis “pellter cymdeithasol”, “y rhif R”, “epidemioleg” a gwylio’r newyddion yn agos i weld beth oedd yn digwydd a phryd fyddai’n dod i ben.
Ddechrau’r gwanwyn bu i ni gychwyn y cyfnod clo a dechrau clapio i’n gofalwyr ac ymddangosodd enfysau ar waliau a ffenestri ledled y wlad. Bu i ni ddarganfod lleoedd newydd yn lleol ble gallwn wneud ymarfer corff a gwelwyd nadroedd cerrig wedi eu paentio yn ein parciau a’n cymunedau.
Bu i ni hefyd weld un o’r ymdrechion gwirfoddoli ôl-rhyfel mwyaf i roi cefnogaeth a chymorth i’r rhai oedd yn gwarchod eu hunain, y rhai oedd angen bwyd ac eitemau meddygol a daeth ein cymunedau ynghyd i ofalu am ei gilydd, gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs.
Yn drist, bu i fwy o bobl ddioddef gyda’r feirws a cholli eu bywydau, effeithiwyd fwyaf ar y rhai a oedd fwyaf agored i niwed ond roedd dioddefwyr o bob oed, cenedl a diwylliant.
Nawr yw’r amser i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau a’r rhai sy’n parhau i alaru am eu colled.
Ond mae gobaith erbyn hyn wrth i’r rhaglen frechu barhau i frechu nifer fawr o bobl i’n hamddiffyn rhag y feirws a fydd yn golygu y byddwn gobeithio yn gallu symud tuag at normalrwydd yn y misoedd sydd i ddod.
Sut allaf gymryd rhan yn y cofio ar 23 Mawrth?
• Cymryd rhan yn y munud o dawelwch cenedlaethol am hanner dydd
• Tynnu llun a rhoi calon felen yn eich ffenestr
• Rhoi goleuadau melyn yn eich ffenestr
• Rhoi cennin Pedr yn eich ffenestr
• Goleuo cannwyll
• Clymu rhubanau melyn ar goeden
• Cysylltu â rhywun
• Rhannu straeon
• Gwylio darllediad y Digwyddiad Cofio Coronafeirws Cenedlaethol ar BBC Un Cymru ac S4C am 5pm.
Bydd adeiladau a safleoedd eiconig hefyd yn cael eu goleuo mewn melyn fel arwydd cenedlaethol o undod.
CANFOD Y FFEITHIAU