Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd Wych, Ailgylcha – mae’n bryd i ni fynd ag ailgylchu ar daith
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Bydd Wych, Ailgylcha – mae’n bryd i ni fynd ag ailgylchu ar daith
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Bydd Wych, Ailgylcha – mae’n bryd i ni fynd ag ailgylchu ar daith

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 3, 2026 9:33 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Be Mighty Recycle - festivals. Let's take recycling on tour.
RHANNU

Mae bron pob un ohonom yn ailgylchu gartref heb feddwl ddwywaith. Ond mae ymchwil newydd gan Cymru yn Ailgylchu yn dangos y gall pobl yn aml fod yn llai gofalus pan fyddan nhw oddi cartref yn mwynhau gwyliau, diwrnodau allan, atyniadau a digwyddiadau. Y gerddoriaeth. Y bwyd. Yr hwyl. Swnio’n gyfarwydd?

Cynnwys
  • Dyma ddechrau dy siwrne
    • Arhosfan 1: Y tu ôl i’r llenni
      • Metel: Barod am y daith dragwyddol
      • Gwydr: Yr encôr tragwyddol
      • Plastig: Mwy o bŵer nag y byddet ti’n ei feddwl
      • Gwastraff bwyd: Y seren annisgwyl
  • Anfon dy ddeunyddiau ailgylchadwy yn ôl ar daith pan fyddi di oddi cartref yr haf hwn

Y newyddion da yw bod cyfleusterau ailgylchu bellach ar gael mewn mwy o leoedd nag erioed o’r blaen ledled Cymru. Oherwydd wedi iti roi eitem yn y bin cywir, mae rhywbeth gwych yn digwydd nesaf.

Dyma ddechrau dy siwrne

Mae pob taith wych yn dechrau yn rhywle. Mae taith dy ailgylchu yn dechrau gydag un dewis syml. Dewis y bin cywir sy’n rhoi’r daith ar waith.

Ac mae’n daith sy’n aros yn rhyfeddol o agos at adref. Mae mwy na 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na’i hanner yn peidio gadael Cymru o gwbl.

Arhosfan 1: Y tu ôl i’r llenni

Ar ôl eu casglu o’n safle, mae deunyddiau ailgylchadwy yn mynd i gyfleusterau arbenigol lle cânt eu didoli i wahanol ffrydiau deunydd.

Gwydr gyda gwydr. Metel gyda metel. Plastig gyda phlastig. Papur a cherdyn gyda phapur a cherdyn. Mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar wahân.

Cadw deunyddiau ar wahân yw’r hyn sy’n gwneud ailgylchu o ansawdd uchel yn bosibl. Dyna pam mae’r weithred syml o ddewis y bin cywir mor bwysig.

Gall potel yn y bin ailgylchu poteli droi’n rhywbeth newydd. Chaiff potel yn y bin anghywir mo’r cyfle.

Metel: Barod am y daith dragwyddol

Mae metel wedi’i ailgylchu’n defnyddio hyd at 95% yn llai o ynni na chynhyrchu metel o ddeunyddiau crai.

Mae deunyddiau metel fel caniau, ffoil ac erosolau’n cael eu didoli, eu toddi a’u hailbrosesu’n nwyddau metel newydd a gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb i’r ansawdd ddirywio.

Gwydr: Yr encôr tragwyddol

Fel metel, gellir ailgylchu gwydr am byth hefyd.

Mewn cyfleusterau arbenigol, caiff gwydr ei falu, ei lanhau a’i doddi cyn cael ei droi’n boteli a jariau newydd. Eto. Ac eto. Ac eto.

Gallai un botel wedi’i hailgylchu’n gywir ddechrau teithiau newydd dirifedi.

Plastig: Mwy o bŵer nag y byddet ti’n ei feddwl

Ar ôl cael ei ddidoli, caiff plastig ei lanhau, ei rwygo’n fân a’i brosesu i wneud deunydd wedi’i ailgylchu’n barod i’w droi’n ddeunydd pacio a nwyddau newydd.

Gallai’r hyn sy’n dechrau fel potel ddiod fod yn rhywbeth hollol wahanol fory. Ond dim ond os yw’n cyrraedd y bin cywir.

Gwastraff bwyd: Y seren annisgwyl

Oeddech chi’n gwybod y defnyddir eich gwastraff bwyd yn Wrecsam i greu deunydd gwella pridd, sydd ar gael i’n preswylwyr i’w gasglu o’r tair canolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn?

Felly os nad ydych eisoes yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, pam na wnewch chi ddechrau ailgylchu eich sbarion a’i droi yn rhywbeth defnyddiol? Ac yna, pan fyddwch angen gwneud rhywfaint o arddio, gallwch ddod i gasglu rhywfaint o ddeunydd gwella pridd yn rhad ac am ddim.  Mae’n swnio fel syniad da, tydi?

Mae gan bopeth ran i’w chwarae, o greiddiau afalau a chrwyn anfwytadwy i fagiau te a phlisgyn wyau.

Dywedodd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni am ledaenu’r neges ei bod hi’n bwysig ailgylchu popeth y gallwch, bob amser. Mae llawer ohonom wedi arfer ag ailgylchu gartref, ond mae angen i ni gadw at yr un safonau pan fyddwn ni allan yn teithio. Dyna pam rydyn ni’n falch o gefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha gan Cymru yn Ailgylchu’r haf hwn.”

Anfon dy ddeunyddiau ailgylchadwy yn ôl ar daith pan fyddi di oddi cartref yr haf hwn

Felly p’un a wyt ti’n mwynhau digwyddiadau fel ein un ni, neu allan am y dydd gyda’r teulu, gwna’n siŵr fod dy ddeunyddiau ailgylchadwy yn cyrraedd y bin cywir, lle bynnag y byddi di.

Dysgwch fwy am yr hyn y gellir ei ailgylchu ar ein gwefan.

2 ffordd hawdd o gael gafael ar ein leinin cadi bwyd am ddim – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchubiniaubinsfood wastegwastraffgwastraff bwydrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Rhowch gynnig ar y delyn yn Tŷ Pawb dydd Gwener yma! Rhowch gynnig ar y delyn yn Tŷ Pawb dydd Gwener yma!
Erthygl nesaf Cynghorau yn croesawu cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ysgolion ac yn ailadrodd pryderon ynghylch cyllid ADY Cynghorau yn croesawu cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ysgolion ac yn ailadrodd pryderon ynghylch cyllid ADY

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Pobl a lle

Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English