Mae Action Fraud yn gofyn i bawb fod yn wyliadwrus o sgiâm Pas Covid sydd wedi bod yn digwydd trwy alwadau ffôn, negeseuon testun neu negeseuon e-bost.
Mae’r sgiâm yn esgus bod gan y GIG ac yn cynnig gwerthu Tystysgrifau Pas Covid ar-lein neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Y peth pwysicaf i’w gofio yw na fydd y GIG FYTH yn gofyn i chi am eich manylion banc, felly peidiwch â chael eich twyllo.
Dyma sut all y sgiâm edrych a’r hyn i fod yn wyliadwrus ohono.
Er mwyn cael Pas Covid yng Nghymru rhaid i chi fynd trwy wefan y GIG (nhs.uk) lle bydd angen i chi gofrestru trwy ddefnyddio
Gallwch gael mynediad at y Pas COVID GIG trwy wefan y GIG (nhs.uk). Bydd hyn yn eich galluogi i greu pas COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur.
Er mwyn cael mynediad at y gwasanaeth, byddwch angen cofrestru i gael cyfrif mewngofnodi GIG. Byddwch angen uwchlwytho llun o’ch ID (pasbort, trwydded yrru DU llawn, trwydded yrru Ewropeaidd llawn).
Os ydych yn byw yng Nghymru, ni allwch ei gael trwy ap y GIG gan ei fod ond yn ddilys yn Lloegr.
Os nad oes gennych ID gyda llun, byddwch angen gwneud cais am dystysgrif COVID GIG ar bapur.
Os oes rhywun yn cysylltu â chi am eich Pas Covid GIG, mae Action Fraud yn dweud:
- Byddwch yn wyliadwrus o ddolenni neu atodiadau mewn negeseuon testun neu e-bost annisgwyl
- Peidiwch ag ymateb i geisiadau am arian, cyfrineiriau neu fanylion ariannol
- Herio: All hwn fod yn ffug?
- Defnyddiwch wefan swyddogol Pas COVID GIG
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL