Rydym wedi newid ein dull o ran sut rydym yn delio ag atgyfeiriadau i wasanaethau plant er mwyn sicrhau y cedwir y plentyn wrth wraidd yr asesiadau a wneir.
Rydym bellach yn gwneud mwy i ddeall amgylchiadau plant a beth maen nhw ei eisiau. Yn ogystal ag adnabod cryfderau a galluoedd eu teuluoedd.
Mae’r tîm Pwynt Mynediad Sengl hefyd wedi’i wneud yn fwy. Y tîm hwn yw’r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy’n gwneud atgyfeiriad newydd i’r gwasanaethau plant – yn cynnwys asiantaethau partner a’r cyhoedd.
Mae’r tîm bellach yn cynnwys Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, gyda gweithiwr cymdeithasol cyfiawnder ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol addysg ac ymwelydd iechyd i ymuno â’r tîm yn 2017.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
mewn perygl, byddwn yn gweithredu’n ddi-oed i ddiogelu ei les.
Rydym wedi perfformio’n well nag unrhyw gyngor yng Nghymru, felly rydym ni’n mynd i barhau i fonitro ein gwaith a’r ffordd y bydd ein gwasanaeth yn cadw’r plentyn wrth wraidd y mater.
“y plentyn yw calon ein hasesiad”
Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant:
“Mae deall sut mae person ifanc yn teimlo yn hanfodol bwysig i fodloni eu hanghenion, ac anghenion eu teulu. Dyna pam bod gweld a siarad efo’r plentyn wrth graidd ein proses asesu ni.
Cymerwyd yr erthygl hon o’r Adroddiad Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol sydd ar gael yma
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI