Bydd nifer ohonom yn prynu eitemau newydd i’w defnyddio yn ystod gwyliau’r haf fel teclynnau gwefru ffonau, sbectols haul a hyd yn oed twymwyr tanddwr i gynhesu ein pyllau padlo.
Ond sut rydych chi’n gwybod eich bod yn cael cynnyrch diogel? Mae bargen wastad yn demtasiwn, ond os yw’n ymddangos yn fargen rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg mai dyna’r sefyllfa.
Mae nifer o’r hyn a elwir yn fargeinion yn niweidiol ac fe allant achosi anaf, sydd weithiau’n ddifrifol. Mae’n bosibl nad yw eitemau trydanol rhatach, fel twymwyr tanddwr a theclynnau gwefru ffonau, wedi eu cynhyrchu i safon uchel ac fe allant orboethi, mynd ar dân neu achosi trydanladdiad. Mae’n bosibl mai dim ond amddiffyniad isel rhag pelydrau’r haul y bydd sbectols haul o ansawdd gwael yn eu cynnig, neu ddim amddiffyniad o gwbl.
Os ydych yn amau unrhyw beth, gwiriwch hynny.
Awgrymiadau Gwych ar gyfer siopa yr haf hwn
Cymharwch y pris
Os yw’n ffracsiwn y pris yna fe allai hyn fod yn arwydd fod y cynnyrch yn anniogel.
Gwiriwch y cyfeiriad ar y cynnyrch
Os nad oes cyfeiriad neu os mai dim ond rhif blwch post sydd yma fe all olygu ei fod wedi ei gynhyrchu’n wael.
Archwiliwch y cynnyrch
A yw’r label a’r logo yn gywir? Mae gan gynnyrch dilys logos, ffont a lliwiau safonol. Fe all camgymeriadau sillafu a gramadegol hefyd fod yn arwydd fod y cynnyrch wedi ei gynhyrchu’n wael.
Fe all nwyddau trydanol sydd wedi eu cynhyrchu’n wael fod heb rai darnau, neu fe all yr ardystiad diogelwch fod ar goll o label y cynnyrch. Cadwch lygad am gardiau cofrestru’r cynnyrch a’r llawlyfr.
Gwiriwch a yw rhifau’r model wedi eu rhestru ar wefan y gwneuthurwr. Fe all rhai cynnyrch trydanol hefyd gael eu cofrestru ar-lein gyda’r gwneuthurwr.
Nid yw’r ffaith fod modd i chi ei brynu yn golygu ei fod yn ddiogel. Mae gan y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch gyngor gwych. Fe allwch ddarllen eu canllawiau’n llawn ar-lein – Saesneg yn unig.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN