Sawl gwaith ydych chi wedi dweud “doeddwn i ddim yn gwybod hynny” neu “ni chafodd ei hysbysebu’n dda iawn”?
Gallech fod yn son am ddigwyddiad y byddech wedi mynd iddo os byddech yn gwybod neu am ffordd wedi cau sy’n golygu eich bod yn hwyr i apwyntiad.
Er ein bod yn gwneud ein gorau yma yn y tîm cyfathrebu, ni allwn gyrraedd pawb bob amser ac rydym yn gwybod weithiau y gall fod yn rhwystredig iawn, yn arbennig os yw’n cynnwys ffordd wedi cau neu yn syml methu eich hoff fand yn Tŷ Pawb.
I wneud yn siŵr bod ein newyddion yn eich cyrraedd rydym yn defnyddio ein blog newyddion ein hunain, cyfryngau cymdeithasol ac wrth gwrs y wasg leol a rhanbarthol, darlledu a chyfryngau ar-lein i sicrhau bod cymaint o drigolion ac ymwelwyr â phosibl yn gwybod beth sy ‘mlaen.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM
Mae ein blog newydd (https://newyddion.wrecsam.gov.uk/) yn derbyn dros 30,000 o ymweliadau’r mis ac mae’r nifer hwnnw yn mynd i fyny drwy’r amser ond nid ydym yn dymuno dibynnu ar hynny i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Rydym yn cynnwys popeth ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter ac rydym yn sicrhau bod y wasg leol, darlledu a chyfryngau ar-lein yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gyda’n herthyglau.
Mae gennym hefyd ddull o gyfathrebu drwy e-bost uniongyrchol fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi gydag ystod eang o destunau a all fod o ddiddordeb i chi.
Maent yn cynnwys derbyn nodyn atgoffa ynglŷn â chasglu biniau, pryd mae’r loriau halen yn mynd allan, y wybodaeth ddiweddaraf ar y Cynllun Datblygu Lleol, Cludiant i’r Ysgol, newyddion y Cyngor, ffyrdd wedi cau/amhariad ar y ffyrdd, cyngor ailgylchu, beth sy ‘mlaen, twristiaeth a digwyddiadau…. mae yna lawer gormod i sôn amdanynt yma.
Mae tanysgrifio yn syml – dilynwch y ddolen hon a) a rhowch eich cyfeiriad e-bost a nodwch pa rybuddion yr hoffech eu derbyn.
Ein rhybudd mwyaf poblogaidd yw’r un i atgoffa ynglŷn â chasglu biniau ond rwy’n siŵr y bydd yna rywbeth o ddiddordeb i chi i wneud yn siŵr fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd o ddiddordeb i chi!
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin
COFRESTRWCH FI