Mae masnachwyr twyllodrus yn difetha unrhyw gymuned, a gallant fod yn arbennig o beryglus i bobl unig, yr henoed a phobl ddiamddiffyn.
Rydym wedi cael gwybod am ychydig o achosion yn ddiweddar o alwyr diwahoddiad yn esgus eu bod yn gweithio i’r cyngor er mwyn mynd mewn i gartrefi pobl, a’u darbwyllo i dalu am wasanaethau nad ydynt eu hangen.
Nid ni sy’n galw!
Rydym eisiau eich sicrhau chi – nid ni sy’n galw.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae staff y Cyngor bob amser yn cysylltu â phreswylwyr ymlaen llaw cyn ymweld. Os bydd aelod o’n staff yn cnocio ar eich drws, mae croeso i chi ofyn iddynt ddangos eu cerdyn adnabod a gallwch gysylltu â’r cyngor i wirio pwy ydynt.
Bydd dim ots gan alwyr dilys a byddant yn fodlon i naill ai aros nes eich bod yn gwirio, neu alw nôl rywbryd eto.
Ond mae masnachwyr twyllodrus yn llawer mwy penderfynol, ac maent yn anfodlon derbyn ‘na’ fel ateb.
Yn aml gall galwad diwahoddiad sy’n dechrau’n eithaf diniwed arwain at rywbeth llawer mwy bygythiol neu ymddygiad ymosodol gan dwyllodwyr, ac yn aml maent yn gorfodi pobl i dalu arian am wasanaethau and ydynt eu hangen – am brisiau llawer uwch yn aml hefyd.
Bydd masnachwyr twyllodrus yn gwrtais i gychwyn…
I gychwyn, bydd masnachwyr yn ymddangos yn gwrtais iawn, yn gyfeillgar ac yn arbennig o gynorthwyol.
Ond yn nes ymlaen, maent yn troi at fygythion i fynnu symiau mawr o arian. Weithiau byddant hyd yn oed yn hebrwng pobl i’w banc i gymryd yr arian allan, ac yn anffodus rydym yn gweld achosion o erledigaeth fel hyn yn digwydd droeon, gyda throseddwyr yn targedu pobl ddiamddiffyn fel ffynhonnell o arian.
Mae’r effaith y gall rhywbeth fel hyn ei gael ar iechyd meddwl pobl yn sylweddol, gan arwain at deimladau cynyddol o ansicrwydd, unigrwydd, embaras a diamddiffynedd.
Ddylai neb deimlo yn ddiamddiffyn yn eu cartrefi eu hunain.
Cysylltwch â Safonau Masnach
Os bydd rhywun yn cael gwerthwyr diwahoddiad ar eu stepen drws, mae ganddynt hawl i wrthod unrhyw gynigion o waith – waeth pa mor gwrtais ydi’r gwerthwr.
Os bydd y gwerthwyr yn mynnu, yn ymddwyn yn amheus neu’n fygythiol, gall aelodau’r cyhoedd gysylltu â gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam ar 01978 298997 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu deialwch 999 mewn argyfwng.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION