Rhwng 10am a 12.30pm ar ddydd Gwener 8 Mawrth, roedd ein swyddogion ailgylchu a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant wrth law i ateb eich cwestiynau am ailgylchu yn Nhŷ Pawb.
Roeddent hefyd yn dosbarthu cadis newydd, bagiau cadis, bagiau ailgylchu, calendrau ailgylchu a gorchuddion rhwyd ar gyfer blychau ailgylchu, i helpu pobl yn eu hymdrechion i ailgylchu.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Roedd awyrgylch dda yno wrth i Wayne Anderson, Maria Hughes a’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, ateb cwestiynau am dros ddwy awr.
Dywedodd y Cyng. Bithell: “Roedd yn braf cael siarad â phobl Wrecsam am ailgylchu a mynd i’r afael â’r pethau sydd ar eu meddyliau.
“Fe wnaethom hefyd roi nifer fawr o gadis a bagiau cadis i bobl, ac roeddem gennym bethau defnyddiol eraill i’w rhoi i bobl hefyd. Mae pobl wedi bod yn gadarnhaol iawn a dyma’r agwedd a fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70%. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb a ddaeth i’n gweld.”
Felly, beth oedd gan bobl ar eu meddyliau?
Dyma grynodeb o’r cwestiynau mwyaf cyffredin…
Sut allaf gael cadi bwyd newydd?
Roedden nhw’n eu rhannu allan ar y dydd, ond os nad oeddech yno gallwch archebu cadi newydd – am ddim – ar ein gwefan. Gallwch hefyd archebu blychau ailgylchu a biniau gwyrdd newydd yma, codir tâl am finiau gwyrdd.
Beth allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?
Cwestiwn da – mae’r wybodaeth hon i’w gweld yn ein erthygl blog diweddaraf sydd ar gael yma…
Mae ailgylchu yn achosi dryswch i mi… beth sy’n mynd i ble?
Eto, mae gennym erthygl blog sy’n darparu’r holl wybodaeth… darllenwch y cyfan yma…
Pam mae’n rhaid i mi lanhau pethau cyn i mi eu hailgylchu?
Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i’w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. Nid ydym yn gofyn i chi dreulio amser yn eu glanhau, dim ond eu rinsio’n sydyn mewn hen ddŵr golchi llestri i gael gwared ar unrhyw weddillion bwyd 🙂
Rydw i’n clywed sôn o hyd am blastig untro… beth ydy hynny?
Yn y bôn, plastig untro yw’r pethau hynny sy’n anodd eu hailgylchu ac sy’n tueddu i gael eu defnyddio un waith, cyn cael eu taflu. Un o’r prif ffyrdd y gallwch fod yn well wrth ailgylchu yw peidio â defnyddio plastig untro a defnyddio opsiynau bioddiraddadwy neu rhai y gellir eu hailddefnyddio gymaint â phosib. Eisiau gwybod mwy? Cwblhewch ein cwis am blastig 🙂
Dyma grynodeb bach o rai o’r cwestiynau a ofynnwyd. Mae gennym ddetholiad mwy o gwestiynau cyffredin ar brif wefan y cyngor.
Negeseuon atgoffa binning
Cofiwch, gallwch hyd yn oed danysgrifio i dderbyn negeseuon atgoffa o ddyddiau casgliadau biniau, sy’n anfon e-bost atoch ddiwrnod cyn y casgliadau bob wythnos.
Diolch am ailgylchu 🙂
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU