Mae Llyfrgell Wrecsam yn llawn hwyl yr ŵyl ym mis Rhagyfr; gwnewch yn siŵr eich bod chi yno i ymuno yn yr hwyl.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu eich llythyr at Siôn Corn rhwng 27 Tachwedd a 20 Rhagfyr, rhowch o ym mlwch post Llyfrgell Wrecsam a dewch yn ôl i weld a oes yna ateb yno i chi.
Mae yna ddau sesiwn stori ac odli hefyd i blant o dan 5 oed drwy gydol mis Rhagfyr.
- Ar ddydd Mawrth, dewch draw i Amser Penillion y Nadolig 2 – 2.30pm.
- Ar ddydd Mercher, ymunwch â ni gyda straeon a chaneuon Cymreig yn Stori a Chân y Nadolig 10-10.30am.
I blant 8 – 11 oed, beth am ddod draw i’r sesiwn Llyfrau Nadolig bob dydd Mercher 4-5pm. Mae’n hanfodol archebu lle, a’r gost yw 50c y sesiwn.
Mae 14 Rhagfyr yn Noson Hwyl yr Ŵyl i blant 2-11 oed. Ymunwch â ni 5-6.30pm ar gyfer straeon, caneuon a chrefftau cyn y noson siopa hwyr. £1 y plentyn, mae’n rhaid archebu lle.
Os byddwch yn galw yn y llyfrgell ar 15 Rhagfyr gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo eich siwmper Nadolig, bydd pawb yn gwisgo un!
Yn olaf, dewch i wneud anrheg munud olaf ar 21 Rhagfyr, 4-5pm. £1 y plentyn, mae’n rhaid archebu lle.
Os ydych yn dymuno dod i unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, neu eisiau gwybod mwy, ffoniwch Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.