Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 21, 2023 4:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam
RHANNU

Mae ysgol gynradd yn Wrecsam wedi derbyn adborth rhagorol yn dilyn arolwg gan Estyn.

Disgrifir Ysgol Gynradd Alexandra fel ysgol “ofalgar a chynhwysol” gan arolygwyr, a ymwelodd â’r ysgol ym mis Hydref.

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad fel a ganlyn:

  • Mae staff a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn falch o fod yn rhan o gymuned yr ysgol.
  • Perthnasoedd cadarnhaol ymhlith disgyblion a staff sy’n creu awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
  • Mae plant yn gwneud cynnydd sylweddol yn ystod eu hamser yn yr ysgol.
  • Darperir cefnogaeth ragorol i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Mae ffocws cryf ar gynnig cefnogaeth emosiynol sy’n helpu disgyblion i ymddwyn yn well ac ymgysylltu’n llawn mewn gwersi.
  • Mae’r ysgol yn hafan ddiogel sy’n ysgogi cyffro ymhlith disgyblion i ddysgu a’u hannog i barchu ei gilydd.
  • Mae disgyblion yn siaradwyr hyderus sy’n rhannu eu syniadau’n frwd ac yn mynegi eu hunain yn glir.
  • Mae disgyblion yn datblygu sgiliau ysgrifennu da, ac yn fathemategwyr hyderus.
  • Mae arweinwyr a llywodraethwyr yn gweithio’n effeithiol ac mae ganddynt weledigaeth glir ac ymrwymiad cryf i gynnal safonau uchel.
  • Mae athrawon yn derbyn datblygiad a chefnogaeth broffesiynol bwrpasol, ac mae’r ysgol yn rheoli ei hadnoddau’n dda.

Meddai’r Pennaeth, Lisa Roberts: “Mae hwn yn adroddiad gwych sy’n amlygu’r gwaith caled a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb yn yr ysgol.

“Mae’r awyrgylch dysgu yn Ysgol Alexandra’n hyfryd ac mae’n fraint o’r mwyaf gweld ein plant yn tyfu a datblygu yn ystod eu hamser gyda ni.

“Rydym yn hynod o ffodus i gael staff, rhieni a llywodraethwyr sydd eisiau’r gorau ar gyfer ein disgyblion, ac rydym yn gweithio’n galed fel tîm i sicrhau fod yr ysgol yn lle gwobrwyol a hyfryd.”

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’r adroddiad hwn yn rhagorol ac yn enghraifft arall o sut mae ysgolion cynradd Wrecsam yn helpu i siapio bywydau ifanc a chefnogi plant yn ystod blynyddoedd pwysicaf eu haddysg.

“Hoffwn ddiolch i’r Pennaeth, Lisa Roberts a phawb arall yn Ysgol Alexandra am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Mae’n ysgol ragorol ac yn gredyd i Wrecsam.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Estyn.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Illegal vapes seizure Mae mwy o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu hatafaelu o siop yng nghanol y ddinas
Erthygl nesaf Food Waste Recycling Caddy Pethau y bydd eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English