Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Capel Ebeneser, Cefn Mawr – Datganiad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Capel Ebeneser, Cefn Mawr – Datganiad
Pobl a lleY cyngor

Capel Ebeneser, Cefn Mawr – Datganiad

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 18, 2019 12:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Capel Ebeneser, Cefn Mawr - Datganiad
RHANNU

Roedd disgwyl y byddai’r hen Gapel Ebeneser yng Nghefn Mawr yn ganolbwynt pwysig a fyddai’n adfywio’r pentref pan gafodd ei adnewyddu yn ôl yn 2007.

Yn anffodus, er gwaethaf sawl ymgais i ennyn diddordeb busnesau a’r gymuned ynddo, mae’r adeilad wedi bod yn wag ers chwe blynedd ac wedi dechrau cael ei fandaleiddio.  Mae hyn wrth gwrs yn biti mawr i’r pentref.

Gan mai Cyngor Wrecsam yw perchennog yr adeilad, rydym wedi bod yn ceisio’i werthu yn y gobaith o ddod o hyd i brynwr a fyddai’n ei ddefnyddio i gefnogi neu gryfhau’r economi lleol.

Meddai Steve Bayley, Pennaeth Tai a’r Economi Cyngor Wrecsam: “ Wrth werthu’r eiddo mae arnom ddyletswydd i geisio cael y pris gorau amdano (ble bynnag bosibl).  Gyda hynny  mewn golwg, fe wnaethom benderfynu gwerthu’r capel drwy ocsiwn ac roedd disgwyl y byddai hynny wedi’i gwblhau ddydd Mawrth, Chwefror 19.

“Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gwrando ar y gymuned leol ac un o’u pryderon pennaf oedd y byddai’r eiddo’n cael ei werthu ac yna’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd na fyddai’n cyfrannu tuag at adfywiad y pentref yn y dyfodol.

“Er mwyn ceisio rhoi sylw i’r pryder hwn –  ond ar yr un pryd sicrhau pris teg am yr adeilad  – rydym wedi gofyn i’r arwerthwr wneud cais am wybodaeth am ddefnydd arfaethedig yr adeilad a’r cynigion gorau amdano erbyn dydd Iau, Chwefror 21, yn hytrach na gwerthu’r eiddo mewn ocsiwn cyhoeddus.

“Er nad oes rheidrwydd arnom i dderbyn unrhyw un o’r cynigion a dderbynnir, bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ystyried amrywiaeth o gynigion ar gyfer defnydd arfaethedig yr adeilad a sicrhau y ceir pris teg amdano.

“Bydd hyn hefyd yn caniatáu i ni weithio gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri a ariannodd y gwaith trwsio gwreiddiol yng Nghapel Ebeneser ar y cyd â ni, er mwyn gweld a fyddai modd iddynt ein helpu ni i bennu’r defnydd mwyaf cynhyrchiol o’r adeilad cyn penderfynu a ddylid derbyn unrhyw un o’r cynigion.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hwyl hanner tymor Hwyl hanner tymor
Erthygl nesaf Dewch i archwilio un o safleoedd hanesyddol harddaf Wrecsam ... Dewch i archwilio un o safleoedd hanesyddol harddaf Wrecsam …

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English