Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”
Pobl a lleY cyngor

Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 15, 2019 3:56 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”
RHANNU

Efallai eich bod wedi clywed am ein cynlluniau ar gyfer cartrefi unedol newydd a fydd yn darparu llety dros dro i bobl sydd yn cysgu allan.

O heddiw ymlaen, mae’r unedau newydd – wedi’u gwneud o hen gynwysyddion cludiant – yn eu lle a bydd y gwasanaeth Dewisiadau Tai yn eu defnyddio i helpu pobl a allai fod yn ddigartref neu angen cefnogaeth i wella.

Mae’r unedau wedi’u lleoli ar Ffordd Holt, ger lloches nos Tŷ Nos (ond fe ddylem nodi nid cwmni Pennaf, sydd yn rhedeg Tŷ Nos, sydd yng ngofal y cynwysyddion – prosiect gan Gyngor Wrecsam ydyw).

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Ni fyddant yno i gynnig lleoedd gwag yn unig.

Yn hytrach, byddwn yn eu defnyddio i helpu pobl sydd angen gwella dros gyfnod hir – naill ai ar eu ffordd nôl i fod mewn tenantiaeth hir dymor, neu wrth iddynt dderbyn cymorth ar gyfer caethineb neu iechyd.

Fe fydd yn llety preifat, sefydlog wrth iddynt edrych i gael rhagor o gefnogaeth hir dymor.

O’r pedwar cartref newydd, bydd tri ohonynt yn cael eu defnyddio fel llety o dan gytundeb trwyddedu gyda’r defnyddwyr gwasanaeth fydd yn byw ynddynt, tra bydd y pedwerydd ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd ein Protocol Argyfwng Tywydd Garw – neu SWEP – yn cael ei roi ar waith.

Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”
Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”
Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”
Cartrefi unedol newydd “i roi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Y prosiect yma yw’r cyntaf o’i fath yng ngogledd Cymru, ac fe wyddom faint o ddiddordeb sydd wedi bod gan y cyhoedd yn y gwaith yma ers i’r trafodaethau ddechrau.

“Fel ffurf o lety dros dro, bydd yr unedau newydd hyn yn ein helpu ni a’n hasiantaethau partner i roi cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

“Byddant yn garreg gamu ardderchog i’r rhai sydd â chaethineb, neu’n sy’n byw allan, a’r rhai sydd ag adferiad hir dymor.

“Fe hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion sydd wedi gweithio’n arbennig o galed i sefydlu’r prosiect yma, yn ogystal â’r asiantaethau partneriaeth sydd wedi cydweithio â ni i sicrhau y gallem roi trefn ar bethau.”

Dwedodd y Cyng. Paul D Jones, aelod lleol am Maesydre: “Fel y cynghorydd lleol am Maesydre, mae’n bleser i mi weld y mae’r cartrefi wedi cyrraedd at Dŷ Nos.

“Wrth i’r safle gael ei sefydlu, bydd gan argaeledd pedwar cartref amlwyth y potensial i gyfnewid bywydau, wrth i unigolion symud o’r strydoedd i mewn i lety sefydlog parhaol. Mae rhaid i ni gefnogi’r rhai sydd angen help, o Wrecsam, i gymryd mantais o’r cyfle ardderchog hon.

“Diolch i bawb sydd wedi gweithio’n mor galed, trwy’r flwyddyn ddiwethaf, i sicrhau llwyddiant y prosiect.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n meddwl y gallai eich band treth cyngor fod yn rhy uchel? Darllenwch hwn ... Ydych chi’n meddwl y gallai eich band treth cyngor fod yn rhy uchel? Darllenwch hwn …
Erthygl nesaf Eisiau help i leihau eich bil ynni? Darllenwch ymlaen... Eisiau help i leihau eich bil ynni? Darllenwch ymlaen…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English