Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu diwydiannol
Ar gyfer y pythefnos nesaf (o ddydd Llun, Hydref 2 tan ddydd Gwener, Hydref 13):
- Os yw eich bin du i fod i gael ei gasglu, rhowch o allan ar y diwrnod arferol.
- Peidiwch â rhoi eich ailgylchu allan hefyd oni bai bod y casgliad wedi’i fethu’r wythnos ddiwethaf (Medi 25-29).
- Os gallwch, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
- Peidiwch â rhoi eich bin gwyrdd allan.
O ddydd Llun ymlaen, am y pythefnos nesaf, byddwn yn blaenoriaethu casgliadau bin du.
Os yw eich bin du i fod i gael ei gasglu, rhowch o allan ar y diwrnod arferol.
Peidiwch â rhoi eich ailgylchu allan oni bai ein bod wedi ei fethu’r wythnos ddiwethaf (Medi 25-29) ac os felly fe wnawn ein gorau i’w gasglu.
Os nad ydych yn siŵr os yw eich bin du i fod i gael ei gasglu yn ystod y cyfnod hwn, edrychwch ar eich calendr casgliadau.
Fel arall gallwch gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau bin ar e-bost.
Rydym yn sylweddoli bod y tarfu hwn ar eich casgliadau’n rhwystredig ond rydym yn gweithio’n galed i geisio rheoli ein gwasanaethau a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus.
Er ein bod wedi rhoi amlinelliad o’r hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud, rydym yn gweithio drwy gyfnod o weithredu diwydiannol ac mae’n rhaid i ni asesu’r adnoddau sydd ar gael ar sail ddyddiol – yn ogystal â chydbwyso’r galw am wasanaethau hanfodol eraill (er enghraifft ymateb i argyfyngau yn ystod tywydd garw).