Categori: Busnes ac Addysg

  • Siarad Cymraeg ac yn chwilio am brentisiaeth? Darllenwch ymlaen…….

    Siarad Cymraeg ac yn chwilio am brentisiaeth? Darllenwch ymlaen…….

    Mae yna gyfle cyffrous i brentis sy’n siarad Cymraeg ymuno â’n Tîm Digidol, Brand a Chysylltiadau Cyhoeddus prysur sydd wedi ennill gwobrau.

    Rhennir y brentisiaeth yn 3 rhan a byddwch yn treulio 4 mis yn gweithio gyda’n tîm Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus ac yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer ein blog newyddion sy’n eithaf arloesol ac wedi torri tir newydd o ran sut mae’r Cyngor wedi arfer cyfathrebu â’r cyhoedd.

    Byddwch hefyd yn helpu i wella presenoldeb ein cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn gwrando’n ofalus iawn ar unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer datblygu ein presenoldeb digidol. Yn y tîm hwn, byddwch hefyd yn gallu helpu i drefnu a mynychu digwyddiadau, mynychu cyfarfodydd a sut i gadw cofnodion a pharatoi’n iawn ar eu cyfer.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    “Helpwch ddatblygu ein dyfodol digidol”

    Bydd pedwar mis arall yn cael ei dreulio gyda’r tîm Digidol yn dysgu sut i greu a diweddaru gwybodaeth ddigidol ar ein gwefan a mewnrwyd. Dyma lle byddwch hefyd yn gweld sut rydym yn cyfathrebu’n ddigidol â phobl sy’n defnyddio ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn helpu i ddatblygu ein dyfodol digidol a sut i ddadansoddi data i ddarparu gwelliannau i’n presenoldeb digidol.

    Bydd eich pedwar mis olaf gyda’n tîm Brand a Reprograffeg, lle byddwch chi’n dysgu am brosesu post sy’n dod i mewn ac allan, cynnal meddalwedd a thempledi. Byddwch hefyd yn helpu i ddarparu gwasanaeth llungopïo, argraffu digidol a gorffen. Byddwch yn cysylltu yn uniongyrchol â chleientiaid i sicrhau bod y tîm yn darparu gwasanaeth gwerthfawr a byddwch hefyd yn helpu dylunydd graffeg y tîm gyda diwygiadau i ddyluniadau a dogfennau.

    “Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol”

    Mae yna isafswm cymwysterau ac mae’n hanfodol eich bod chi’n siarad Cymraeg, bod gennych 5 TGAU C neu gyfwerth, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.

    Bydd hyfforddiant yn rhan o’r brentisiaeth a byddwch yn astudio yn ITEC ar gyfer eich Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes ynghyd â hyfforddiant Sgiliau Hanfodol eraill. Mae yna gyfle hefyd i dderbyn hyfforddiant Stiwardio – cymhwyster gwerthfawr i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

    Meddai Sue Wyn Jones, Arweinydd Brand, Digidol a Chyfathrebu ar gyfer y timau:

    “Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i siaradwr Cymraeg gael eu pig i mewn i fyd modern cysylltiadau cyhoeddus a marchnata digidol. Rydym yn dîm deinamig a rhagweithiol sydd wedi ennill gwobrau, ac fe fydd y prentis llwyddiannus yn elwa fwyaf o weithio gyda staff blaengar, profiadol a phroffesiynol. Mae popeth a wna’r tîm yn ddwyieithog felly mae’n hanfodol bod ein prentis newydd yn siarad Cymraeg.”

    Diddordeb? Yna, edrychwch ar yma

    Gallai’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â mis Mehefin felly rhowch eich ceisiadau i mewn yn awr.

    Y dyddiad cau yw 11 Mai 2018.

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • Cyfoethogi yn talu ar ei ganfed i bobl ifanc

    Cyfoethogi yn talu ar ei ganfed i bobl ifanc

    Mae myfyrwyr o hyd a lled Wrecsam wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled a’u hymrwymiad mewn seremoni Wobrwyo Cyfoethogi arbennig yn Neuadd William Aston.

    Mae’r myfyrwyr llwyddiannus wedi cymryd rhan mewn rhaglen Gyfoethogi yn ystod y flwyddyn ysgol gan eu galluogi i ennill cymwysterau ychwanegol i symud ymlaen i fyd gwaith, hyfforddiant neu addysg Ôl-16.

    “Ffocws galwedigaethol”

    Mae’r Rhaglen Gyfoethogi, sef partneriaeth rhwng pob ysgol uwchradd, Ysgol Arbennig Sant Christopher a cholegau Addysg Bellach lleol, yn agored i fyfyrwyr sydd yn astudio Cyfnod Allweddol 4 ac sydd angen ychydig bach mwy na’r hyn sydd gan y cwricwlwm yr ysgol i’w gynnig. Mae cymryd rhan mewn cyrsiau ymarferol sydd â ffocws galwedigaethol y tu allan i amgylchedd arferol y dosbarth, yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i ymgysylltu ag astudio.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Mae myfyrwyr yn teithio o’u hysgol uwchradd i leoliadau amrywiol ar gyfer eu cyrsiau gan gynnwys Coleg Cambria yn Llaneurgain, Bersham Road, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a safle Grove Park. Mae nifer o gyrsiau yn cael eu darparu trwy Ysgol Sant Christopher.

    “Heriol a gwerth chweil”

    Dywedodd Steve Stockdale, Cydlynydd Cyfoethogi: “Mae yna ddisgyblion a allai elwa o Gyfoethogi ym mhob ysgol, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gydlynu gweithgareddau dros 300 o fyfyrwyr i sicrhau y gallant gyflawni mewn maes y mae ganddynt ddiddordeb arbennig ynddo. Mae’n waith heriol a gwerth chweil. Mae myfyrwyr mewn 14 ysgol wedi cymryd rhan eleni ynghyd â 33 o gyrsiau i ddewis ohonynt. Maen nhw gyd wedi gwneud yn dda iawn ac mae wedi bod yn bleser dod i’w hadnabod a gweld sut mae eu cyrsiau wedi sicrhau ei bod yn aros ar y llwybr cywir i adael yr ysgol gydag o leiaf un cymhwyster galwedigaethol perthnasol.

    Y gwobrau a gyflwynwyd yn y Seremoni oedd Myfyrwyr Rhagorol y Flwyddyn ac am gyflawni ym maes Adeiladu, Gwallt a Harddwch, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cwrs Blasu Galwedigaethol, Gwallt a Harddwch, Gofalu am Anifeiliaid, Cwrs Lefel Mynediad Derwen, Mecaneg Moduron, Manwerthu, Byw yn y Gwyllt, Arlwyo, Drama, Celfyddydau Gweledol, Weldio a Saernïo, Tystysgrifau Mentor, Garddwriaeth ac Amaethyddiaeth, Chwaraeon a Hamdden, Peirianneg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Astudiaethau’n Seiliedig ar y Tir.

    Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan nifer o westeion arbennig ar y noson gan gynnwys Maer a Maeres Wrecsam y Cynghorydd John a Mrs Ann Pritchard, Ian Lucas AS, Lesley Griffiths AC, Ian Roberts Pennaeth Addysg Wrecsam, y Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, Graham Edwards Is-gadeirydd Llywodraethwyr Sant Christopher, Maxine Pittaway Pennaeth Ysgol Sant Christopher yn ogystal â nifer o Uwch Staff o’r Ysgolion Uwchradd.

    “Amlwg wedi mwynhau eu hamser”

    Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Roedd hi’n bleser bod yn y seremoni wobrwyo i gwrdd â phobl ifanc sydd yn amlwg wedi mwynhau eu hamser ar y rhaglen Gyfoethogi. Mae’n rhaglen ardderchog ac mae pawb sydd yn ymwneud â hi’n elwa. Da iawn bawb ac rwy’n dymuno’r gorau i’r myfyrwyr at y dyfodol.”

    Rhaid diolch yn arbennig i Pizza Express am eu haelioni yn darparu’r gwobrau ar gyfer y digwyddiad.

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • Mae dydd Iau yn ddiwrnod i bawb yn Nhŷ Pawb!

    Mae dydd Iau yn ddiwrnod i bawb yn Nhŷ Pawb!

    Dydd Iau Pawb yw diwrnod digwyddiadau creadigol a dysgu wythnosol Tŷ Pawb.

    Trwy gydol y dydd, bydd pob math o weithgareddau dychmygus ar gael i bobl o bob oedran a gallu. Felly p’un a ydych am fod yn greadigol neu am fwynhau cerddoriaeth fyw neu gael paned a sgwrs, Dydd Iau Pawb yw’r diwrnod i chi!

    Dyma grynodeb o’r pethau a fydd yn mynd ymlaen:

    Plant Bach

    Dawnsiwch gyda’ch un bach mewn sesiwn symud a chwarae greadigol hwyliog a deinamig. Bydd thema’r dosbarth wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfeydd celf yn Nhŷ Pawb a byddant yn defnyddio cyfuniad o bropiau, caneuon, gemau a’ch dychymyg.

    • Mae Mini Movers ar agor i bob plentyn dan 4 oed
    • Bydd ymlaen yn y Lle Perfformio yn Nhŷ Pawb o 9.30am tan 10.15am

    Tŷ Dance

    Canolbwyntio ar symudedd, ffitrwydd a dawns, gyda chymysgedd o arferion wedi eu hunan-gyfeirio neu eu dysgu. Bydd y dosbarthiadau’n cynnwys gwaith â phropiau, gweithio mewn parau, ac ymarferion dawnsio’n sefyll neu mewn cadair.

      • Mae Tŷ Dance yn addas i unrhyw un dros 40 oed.
      • Bydd ymlaen yn y Lle Perfformio o 10.30am tan 12.30pm.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Ymwybyddiaeth Ofalgar – Tynnu Lluniau

    Gweithgaredd i annog tawelwch, hapusrwydd a chreadigrwydd, wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa bresennol – ‘Ai’r Ddaear yw Hon?’ Nid oes angen profiad.

    • Bydd ymlaen yn Oriel 1 o 1pm tan 2pm.
    • Mynediad am ddim.

    Siediau Dynion

    Sefydlwyd Siediau Dynion yn Wrecsam yn 2016 gan Stephen a Derek yng Nghanolfan Gymunedol Gwersyllt. Nod y grŵp yw goresgyn allgáu cymdeithasol ac annog dynion a merched i gymryd rhan yn eu cymuned leol a’i gwneud yn well lle. Dewch i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a dylunio, chwarae gêm bwrdd neu i gael sgwrs dros goffi.

    • Mae Siediau Dynion ar agor i ddynion a merched dros 18 oed.
    • Bydd ymlaen yn Oriel 2 o 1pm tan 2pm.

    Te, Coffi, Sgwrs a gweithgareddau tynnu llun

    Dewch draw am sgwrs a phaned a gallwch ddewis cymryd rhan mewn gweithgaredd tynnu llun os ydych yn teimlo’n ysbrydoledig!

    • Mynediad am ddim.
    • Bydd ymlaen yn Oriel 2 o 1pm tan 2pm.

    Dawnsio i Blant

    Dosbarth dawnsio bywiog a chorfforol gyda chyfleoedd i archwilio coreograffi creadigol. Bydd thema’r dosbarth wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfeydd celf sydd i’w gweld yn Nhŷ Pawb.

        • Gweithgaredd i blant 5 oed +
        • Bydd ymlaen yn y Lle Perfformio o 4pm tan 5pm.
        • Y gost yw £3.50 y plentyn.

    Sesiynau Bywluniad

    Digwyddiad wythnosol yw hwn. Ei sesiwn heb ei drin yn gweithio o fodel bywyd.

    • Mae’r sesiwn yn rhedeg o 6.30pm-8.30pm.
    • Cost yw £11 y sesiwn. Mae cyfradd gonsesiwn o £8 ar gael hefyd.

    Sut i archebu lle

    Os hoffech ddod i unrhyw un o’r digwyddiadau a restrir uchod, archebwch eich lle trwy ffonio Tŷ Pawb ar 01978 292093 neu e-bostiwch: typawb@wrexham.gov.uk

    Cyngerdd am ddim yn ystod y dydd

    I orffen y cyfan bydd Achille Jones, Gitarydd Clasurol, yn perfformio yn ein Lle Hyblyg (sef Sgwâr y Pobl) o 1pm tan 2pm. Mae hwn yn rhan o’n arddangosfeydd cerddoriaeth fyw a gynhelir bob pythefnos.

    Achille Jones

    Nid oes angen archebu lle i’r cyngerdd. Dewch draw i fwynhau!

    Dywedodd Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Hugh Jones: “Rwy’n croesawu’r ystod eang o weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Nhy Pawb. Mae yna rywbeth i apelio at bob oed a gallu.

    “Eisoes mae Ty Pawb yn dod yn ganolbwynt i bobl o bob rhan o Wrecsam a thu hwnt. Rwy’n siŵr y bydd y masnachwyr sydd wedi ymrwymo i Dy Pawb yn falch o weld yr atyniadau sylweddol ac atyniadau eang.”

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • Allwch chi ein helpu ni i ofalu am 12,000 o gartrefi? Edrychwch ar y swyddi yma…

    Allwch chi ein helpu ni i ofalu am 12,000 o gartrefi? Edrychwch ar y swyddi yma…

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.

    Mae Cyngor Wrecsam yn un o’r darparwyr tai cyngor mwyaf yng Nghymru.

    Yn wir, rydym ni’n darparu tua 12,000 o gartrefi ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae cadw’r tai hyn mewn cyflwr da yn bwysig dros ben.

    Ac efallai mai dyma lle gallwch chi ein helpu ni?

    Mae gennym nifer o swyddi gwag yn ein tîm trwsio tai ar hyn o bryd – yn amrywio o asiantau safle i syrfewyr adeiladau.

    Felly os ‘da chi’n meddwl bod y sgiliau cywir gennych, beth am edrych beth sydd ar gael?

    A chofiwch, gall gweithio i’r Cyngor fod yn ddewis da ar gyfer eich gyrfa – mae’n debygol iawn y cewch bensiwn, gwyliau hael a chryn dipyn o sefydlogrwydd a hyblygrwydd.

    Cymerwch gipolwg…

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/council_w/Housing_w/housing_jobs.htm”]IE…DANGOSWCH GYFLEOEDD SWYDD I MI![/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]NA…DWI’N IAWN DIOLCH[/button]

  • Mae Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam yn Ôl

    Mae Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam yn Ôl

    Mae Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam wedi ei ailwampio ar gyfer 2018 a bellach yn cynnwys neuadd gwrw a rhaglen bnawn a nos estynedig gyda cherddoriaeth fyw.

    Bydd Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam ar ei newydd wedd yn dychwelyd i’r dref eleni – gyda’r digwyddiad yn cynnwys rhaglen bnawn a nos estynedig gyda cherddoriaeth fyw.

    Bydd yn dychwelyd i Lwyn Isaf ar benwythnos 22 Medi ac mae trefnwyr yn addo y bydd y digwyddiad yn fwy ac yn well.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Mae tîm yn cynnwys Alex Jones o Plât Bach, Sam Regan o’r Lemon Tree wedi cymryd yr awenau eleni gyda’r nod o ymestyn yr ŵyl dros y tair blynedd nesaf.  Mae tîm ‘Dyma Wrecsam’ yn cefnogi’r ymdrech, gyda chymorth gan enwau cyfarwydd lleol gan gynnwys King Street Coffee Company a Wrexham Lager.

    Pabell “Bierkeller”

    Yn ogystal â’r ddarpariaeth fwyd a diod boblogaidd o flynyddoedd blaenorol, bydd hefyd mwy o ffocws ar adloniant yn yr ŵyl, gydag amryw o fandiau lleol yn chwarae i mewn i’r nos a hyd yn oed pabell ‘Bierkeller’ arbennig newydd gyda’i band wmpa ei hun.

    Mae adborth o ddigwyddiadau blaenorol wedi ei ystyried ac mae trefnwyr yn dweud eu bod yn gobeithio y byddant yn cael mwy o werth am arian eleni. Mae costau i stondinwyr wedi cael eu lleihau gyda lleoedd yn cael eu llenwi’n gyflym – gyda nifer yn arddangos yn Wrecsam am y tro cyntaf.

    Bydd hanner elw’r digwyddiad yn cael ei roi i elusen leol, a hanner yn cael ei ddal yn ôl yn benodol i wneud digwyddiadau’r blynyddoedd canlynol yn fwy ac yn well.

    “Mae’r derbyniad wedi bod yn aruthrol”

    Wrth sôn am yr ŵyl ar ei newydd wedd, dywedodd y cyd-drefnwr Alex Jones: “Mae Gŵyl Fwyd Wrecsam wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf dan arweiniad Nightingale House. Mae gennym gyfle rŵan i ychwanegu at eu gwaith, ac rydym yn gobeithio yn y pen draw i dyfu’r ŵyl drwy ganol y dref.”

    “Er nad ydym hyd yn oed wedi lansio’r digwyddiad yn ffurfiol, mae’r derbyniad hyd yma wedi bod yn aruthrol gyda llawer o bobl eisio dangos eu bwyd a diod. Rydym yn gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn dod i lawr ac yn mwynhau’r adloniant ychwanegol i wneud pnawn a noson iawn ohoni – gyda chyfle i wneud hynny ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul.”

    Ychwanegodd Sam Regan: “Ar gyfer ‘wythnos yr ŵyl’ ymlaen llaw, rydym yn gobeithio y bydd y dref yn ymuno gydag ystod o fwydlenni a chynigion arbennig yn ein detholiad gwych o fwytai a bariau lleol i’ch cael i gymryd rhan lawn.”

    Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae Digwyddiadau fel yr Ŵyl Fwyd a Diod bob amser yn denu ymwelwyr i’r dref, ac yn rhoi’r cyfle i gynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd lleol i arddangos a marchnata eu nwyddau yn lleol.

    “Gan hynny, rwy’n falch iawn i glywed y bydd yr Ŵyl Fwyd a Diod yn dychwelyd i’r dref yn nes ymlaen yn yr haf, a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig am eu hymdrechion.”

    Gofynnir i unrhyw un a fyddai’n hoffi cael gwybodaeth bellach am stondinau, neu i gymryd rhan, anfon e-bost i team@wrexhamfoodfestival.wales neu eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol @WrexhamFood.

    Cynhelir Gŵyl Fwyd Wrecsam ar Llywn Isaf, y tu allan i Neuadd y Dref yng nghanol tref Wrecsam ar 22 a 23 Medi.

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • Cefnogi’r Cynnig

    Cefnogi’r Cynnig

    Mae galw ar bobl a busnesau Wrecsam a Gogledd Cymru heddiw i gefnogi cynnig i ddod â buddsoddiad enfawr i economi’r rhanbarth.

    Yn gynharach eleni cyflwynodd chwe Chyngor Gogledd Cymru sydd i gyd yn rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Fargen Dwf i Lywodraethau Prydain a Chymru. Bydd y cynnig am £383 miliwn yn caniatáu buddsoddiad o £1.3 biliwn yn economi Gogledd Cymru

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    “Cyfle gwych”

    Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac aelod o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: “Rydym yn galw ar fusnesau, grwpiau, sefydliadau ac unigolion i fynd ar-lein a chefnogi’r cais hwn. Mae’n gyfle gwych i Ogledd Cymru, a Wrecsam wrth gwrs, i elwa o gyfran o’r buddsoddiad a fyddai’n cynnwys swyddi newydd, busnesau newydd, tai a chymorth i roi pobl yn ôl mewn gwaith. Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd am gymorth a chefnogaeth y Daily Post wrth gefnogi’r cynnig hwn.”

    “Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth”

    Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Cadeirydd Bargen Dwf Gogledd Cymru: “Roeddem wedi nodi’n gynnar iawn bod angen sylweddol i’r chwe chyngor uno o amgylch un weledigaeth yn gyffredin ar gyfer Gogledd Cymru gyfan, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi dod ynghyd gydag un llais – ein bod i gyd yn cefnogi’r Cynnig. Rydym mewn uwch drafodaethau gyda Llywodraethau Prydain a Chymru ynghyd â Swyddfa Cymru a Ken Skates (Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Seilwaith a Sgiliau) ac mae’r trafodaethau hyn yn datblygu’n dda.

    “Ni fydd y Cynnig yn troi’n realiti nes iddo gael cymeradwyaeth felly rydym wir angen i bobl a busnesau Gogledd Cymru i ymuno â ni – a Chefnogi’r Cais- fel ein bod yn gallu mynd â’n economi i’r lefel nesaf.

    “Mae pobl Gogledd Cymru hefyd yn chwarae rôl hanfodol yn llwyddiant y cais, felly rydym yn gofyn am eu cefnogaeth.

    “Dyma gyfle cenhedlaeth i drawsnewid ein heconomi, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud hynny ar y cyd fel rhanbarth.”

    Dangoswch eich cefnogaeth yma :

    Bydd newyddion ar y cynnig yn debygol o fod erbyn ddiwedd y flwyddyn.

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • Beth sy’n gwneud Ysgol Heulfan yn ardderchog?

    Beth sy’n gwneud Ysgol Heulfan yn ardderchog?

    Yn ôl ym mis Chwefror, dangosodd Ysgol Heulfan, Gwersyllt i arolygwyr ysgolion, Estyn sut maent yn addusgu ac yn gofalu am eu disgyblion – ac roedd Estyn wedi eu barnu’n ardderchog.

    Nid yw’n hawdd cael statws ardderchog. Mae’n golygu bod yr ysgol yn dangos perfformiad ac ymarfer cadarn, cynaliadwy ac yn edrych ar bum maes gwahanol sy’n cynnwys safonau; lles ac agwedd at ddysgu; profiadau dysgu ac addysgu; cefnogaeth ac arweiniad gofal; ac arweinyddiaeth a rheolaeth.

    A sgoriodd Ysgol Heulfan yn ardderchog mewn pedwar o’r pump maes hwn!

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    “Arweinyddiaeth ysbrydoledig”

    Dywedodd Arolygwyr: “Mae Ysgol Heulfan yn ysgol hynod ofalgar a chynhwysol. Mae’r pennaeth a’r uwch arweinwyr yn hynod effeithiol ac yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig … mae’r lefelau uchel o ofal, cefnogaeth ac arweiniad a ddarperir gan staff yn yr ysgol yn anhygoel. O ganlyniad, mae disgyblion yn ffynnu ac yn teimlo’n ddiogel ac wedi eu gwerthfawrogi.”

    “Cynnydd cadarnhao”

    Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rwyf mor falch o glywed fod staff a disgyblion yn cyflawni yn Ysgol Heulfan ac rwy’n eu llongyfarch am eu statws “ardderchog”, mae pob un ohonynt yn gyfrifol am sicrhau bod eu hysgol wedi derbyn y canlyniad hwn.

    “Mae darllen bod bron pob disgybl wedi gwneud cynnydd cadarn beth bynnag fo’r sgiliau ganddynt yn dechrau’r ysgol yn galonogol iawn ac rwy’n arbennig o hapus bod yr uned ag adnoddau arbennig, y Canol, hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion wneud cynnydd mor gadarnhaol.

    Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yn www.estyn.gov.wales

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • Noson cosplay yn Nhŷ Pawb

    Noson cosplay yn Nhŷ Pawb

    Disgwylir i filoedd o ddilynwyr cosplay, comics a ffantasi a ffuglen wyddonol gyrraedd yn llu yn Comic Con Cymru y penwythnos hwn.

    I ategu’r holl ddigwyddiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr drwy Comic Con, mae busnesau yn Nhŷ Pawb wedi trefnu parti hamddenol i fynychwyr rhwng 4pm a 9pm ddydd Sadwrn 21 Ebrill.

    Bydd ysgytlaeth a phwdinau ar gael yn Just Desserts, a bydd Plât Bach yn cynnig tapas â blas Cymreig drwy gydol y noson.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Bydd Bar Bach hefyd ar agor am ddiodydd, a bydd coffi ar gael yn Blank Canvas.

    Bydd stondinau masnach dros dro ar gael hefyd ar y noson, a bydd y llwyfan perfformio agored ar gael i berfformwyr meic agored sy’n awyddus i ganu neu adrodd jôcs.

    “Mae pobl yn awyddus i gadw’r awyrgylch i fynd ar ôl Comic Con”

    Dywedodd Sarah Hughes, perchennog Just Desserts: “Mae Comic Con Cymru yn ddigwyddiad gwych, ac rydym yn gwybod bod llawer o bobl bob amser yn falch o gadw’r awyrgylch i fynd ar ôl iddo ddod i ben am y diwrnod ac roeddem am gynnig rhywbeth a fyddai’n rhoi lle i bobl sydd wedi bod yn y digwyddiad fynd gyda’r nos.

    “Bydd yn noson hamddenol iawn, ond mae croeso cynnes i bawb sydd am ddod i fwynhau ychydig o beth sydd gennym i’w gynnig yn Nhŷ Pawb.”

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • “Gall y Gymraeg agor drysau yn y gweithle”

    “Gall y Gymraeg agor drysau yn y gweithle”

    Mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gweithlu yng Nghymru, gyda chyflogwyr yn rhoi mwy a mwy o bwyslais ar sgiliau iaith Gymraeg wrth chwilio am weithwyr newydd.

    Cafodd plant o bedair ysgol gynradd gwahanol yn Wrecsam gyfle i siarad â gweithwyr ledled Gogledd Cymru ar gyfer diwrnod Cymraeg yn y Gweithle yn Ysgol y Grango, Rhosllanerchrugog.

    Roedd yr ysgolion a oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn rhan o gynllun arbrofol a gynlluniwyd ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gyrfa Cymru a chynrychiolydd o’r ysgolion i gefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Wrecsam.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Y bedair ysgol a fu’n cymryd rhan oedd Ysgol Penycae, Ysgol ID Hooson, Yr Hafod Johnstown ac Ysgol Maes y Mynydd, gyda mwy na 160 o ddisgyblion yn cymryd rhan a siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o’r economi leol a drefnwyd gan Gyrfa Cymru.

    Cafodd y disgyblion gyfle i siarad gyda gweithwyr o sefydliadau gan gynnwys:

    • Rhwydweithiau Ynni Scottish Power
    • Cymdeithas Adeiladu’r Principality
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    • Dŵr Cymru
    • DFS4 / Syniadau Mawr Cymru
    • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
    • Excell Supply
    • Coleg Cambria
    • Menter Iaith
    • Eglwys Bresbyteraidd Cymru

    Yn y digwyddiad rhwydweithio cyflym, bu grwpiau o ddisgyblion yn treulio sesiwn 10 munud gyda phob grŵp o weithwyr, a’u holi ar fanylion fel eu gwaith o ddydd i ddydd, faint y maent yn defnyddio eu Cymraeg yn ystod y diwrnod gwaith, a’r mathau o sgiliau a chymwysterau y maent eu hangen i wneud eu swydd.

    “Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i annog pobl i ddysgu Cymraeg”

    Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Fel rhan o’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg – boed hynny trwy addysg draddodiadol, neu ffynonellau ehangach eraill y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

    “Ond yn ogystal â dysgu Cymraeg i ddisgyblion, rydym hefyd eisiau dangos iddynt sut y gall y Gymraeg fod o fantais iddynt yn ddiweddarach mewn bywyd, ac agor drysau yn y gweithle.

    “Gyda hynny mewn golwg, roeddem eisiau rhoi cyfle iddynt siarad gyda phobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a rhoi cipolwg iddynt ar sut y gall dwyieithrwydd fod yn fantais fawr pan ddaw i geisio gwaith.

    “Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad heddiw, yr ysgol a’r cyflogwyr.”

    Meddai Lesley Lloyd, Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes gyda Gyrfa Cymru: “Bydd yr arddull gweithdy hwn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwrando, a rhoi cipolwg gwerthfawr iddynt ar wahanol swyddi a gyrfaoedd sy’n gofyn am sgiliau iaith Gymraeg.”

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • Allwn ni weithio i chi?

    Allwn ni weithio i chi?

    Allan o waith?

    Os ydych yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, mae rhywun wrth law fydd yn cynnig cyngor un i un i’ch helpu i gael gwaith, addysg a hyfforddiant.   Maent yn rhan o’r tîm Cymunedau ar gyfer Gwaith.

    Cymerwch stori un cwsmer 17 oed, gafodd ei atgyfeirio i Cymunedau am Waith gan y tîm In2Change i Bobl Ifanc.

    Roedd In2Change yn ei helpu i reoli ei gamddefnydd o sylweddau, ond gadawyd ef yn byw gyda diffyg hyder a hunan-barch isel yn gadael yr ysgol heb gymhwyster ffurfiol na phrofiad gwaith.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Fodd bynnag, roedd yn dal eisiau gweithio.

    Felly, bu’n cyfarfod yn wythnosol gyda’r tîm Cymunedau am Waith a thrafod cwrs sgiliau sylfaenol yng Ngholeg Cambria. Ar ôl cwblhau’r cwrs a siarad mwy gyda’r tîm dechreuodd weld swyddi yr hoffai eu hystyried ac edrych ar sgiliau pellach y byddai eu hangen ar gyfer y math hynny o swyddi.

    Yna llwyddodd i gwblhau hyfforddiant Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf a Chodi a Chario yn ogystal â gwneud cwrs yn iTec i dderbyn ei gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a chwblhau Rhaglen Arloesi 12 wythnos gyda Groundwork.

    Ar ôl datblygu ei sgiliau a’i hyder, paratôdd ei CV gyda chymorth y tîm a dechreuodd ymgeisio ar-lein ar gyfer swyddi.

    Yna…llwyddiant…cafodd swydd fel cymhorthydd warws! Newyddion ardderchog.

    Felly, gyda chymorth Cymunedau am Waith, Groundwork, In2Change a Choleg Cambria bu’n gweithio’n galed i oresgyn ystod o rwystrau a bod yn berson ifanc cyflogedig, hyderus.

    Mae’r daith hon yn glod i’r timau, aelodau o’r teulu, ond yn bwysicach oll yr unigolyn perthnasol.

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]