Categori: Busnes ac Addysg

  • Coffi arbenigol yn dod y Dŷ Pawb!

    Coffi arbenigol yn dod y Dŷ Pawb!

    Mae perchnogion siop goffi arbenigol lleol Andy a Phil Gallanders wedi bod yn gefnogwyr mawr prosiect Tŷ Pawb ac wedi dilyn ei gynnydd o’r dechrau.

    Mae’r ddau entrepreneuraidd nawr wedi cyhoeddi y byddant yn symud eu Siop Goffi Stryt Banc i Dŷ Pawb ac yn ei ailenwi yn BL_NK C_NV_S. Bydd y siop newydd yn agor ddydd Llun 2 Mawrth i ddathlu Dydd Llun Pawb gyda gweddill Wrecsam.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Bydd BL_NK C_NV_S yn gweini bwydlen debyg i Bank Street Coffee i ddechrau sy’n adnabyddus am ei ddiodydd poeth ac oer o ansawdd a chacennau wedi eu pobi’n lleol. Roeddent yn dweud: “Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ystod ehangach o fwyd yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni weithio gyda busnesau eraill sy’n agor yn y cwrt bwyd i sicrhau bod yr holl fwyd a gynigir yn Nhŷ Pawb yn amrywiol ac o ansawdd gwirioneddol. Rydym yn falch o ddweud y byddwn yn ymestyn eu hystod o gacennau Simply Bakes anhygoel gan gynnwys mwy o gacennau fegan sy’n profi’n fwy poblogaidd nag erioed. Maent hefyd yn edrych ymlaen at y nifer o ddigwyddiadau cyffrous a drefnwyd eisoes ar gyfer y gofod perfformio ac rydym yn gobeithio trefnu rhai digwyddiadau ein hunain fel ein digwyddiad gyda’r artist Sabrina Benaim a gynhelir yn Un-Deg-Un ddydd Sadwrn 24 Mawrth.”

    Gallwch wrando ar eu clip fideo diweddaraf am eu menter yma:

    Mae eu cyhoeddiad yn dilyn y newyddion bod dau ŵr busnes adnabyddus arall yng nghanol y dref sef Alex Jones a Sam Regan hefyd yn cefnogi Tŷ pawb drwy agor eu menter eu hunain PlâtBach – fydd yn darparu dewis unigryw o sieciau a ysbrydolwyd gan tapas gyda chynnyrch Cymreig gyda chyfuniad clasurol.

    Gallwch ddarllen mwy yma https://newyddion.wrecsam.gov.uk/perchnogion-bwytai-yn-dod-a-bwyd-blasus-i-dy-pawb/

    Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mwy o newyddion ardderchog ac arwydd da ynglŷn â barn busnesau lleol am Tŷ Pawb. Rydym wedi bod yn falch iawn gyda faint o ddiddordeb a ddangoswyd gan fasnachwyr yn y cyfleuster ac rydym yn hyderus y bydd yna ddigon i’w gynnig i ymwelwyr pan fydd y cyfleuster yn agor ar 2 Ebrill gyda’r digwyddiad dathlu “Dydd Llun Pawb” fydd yn ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan fwynhau.”

    Gallwch ddarllen mwy am Dydd Llun Pawb yn yma

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

  • Dydd Llun Pawb – Croeso i Bawb

    Dydd Llun Pawb – Croeso i Bawb

    DIWEDDARIAD 01/04/18 – Oherwydd y tywydd gwlyb, bydd yr adloniant a threfnwyd am y llwyfan allanol yn symud i fewn i Dŷ Pawb – ond bydd y gorymdaith yn mynd ymlaen fel a threfnwyd!

    Mae carnifal gyda cherddoriaeth fyw, stondinau ffair, bwyd, diod, celf, crefftau a llawer, llawer mwy wedi ei gyhoeddi ar gyfer Dydd Llun Pawb, sef agoriad swyddogol Tŷ Pawb.

    Ar Ddydd Llun y Pasg, Ebrill 2, o 12pm tan yr hwyr, bydd Dydd Llun Pawb yn atgyfodi hen draddodiad lle’r oedd trigolion lleol yn heidio i’r dref i fwynhau diwrnod o ddathlu yn dilyn marchnad flynyddol y gwanwyn.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Y tu mewn i Dŷ Pawb, ac ar hyd Stryt Caer y tu allan i’r ganolfan newydd ar gyfer y celfyddydau, marchnadoedd a’r gymuned, bydd ymwelwyr yn mwynhau ffair Fictoraidd, stondinau celf, crefft a bwyd a diod, lle chwarae plant diolch i drefnwyr ‘Diwrnod Chwarae’ Wrecsam, StarDome Planetarium Techniquest Glyndŵr, a pherfformiadau gan The Big Beat, Côr Cymuned Wrecsam, Baby Brave a Chlwb Acordion y Black Park. A bydd rhagor o artistiaid a gweithgareddau yn cael eu cyhoeddi gyda hyn! Bydd aelodau staff at Dŷ Pawb wrth law i helpu llywio’r cyhoedd trwy gyfleusterau’r canolfan newydd

    Bydd dathliadau Dydd Llun Pawb yn dechrau gyda gorymdaith fawr gyda Band Pres Llareggub, band pres o lechweddi llychlyd gogledd Cymru. Bydd yr orymdaith hefyd yn cynnwys chwe cherflun anferth, sy’n cynrychioli chwe agwedd wahanol ar hanes a chymuned Wrecsam, ac aelodau o elusennau amrywiol y dref, grwpiau ieuenctid a chymunedol, gyda phob un yn dathlu eu cyfraniadau arbennig i Wrecsam. Bydd yr orymdaith yn mynd trwy ganol y dref o’r man cyfarfod ar Stryt yr Hôb a’r Stryd Fawr, heibio i Farchnad Dydd Llun ar Sgwâr y Frenhines ac i Dŷ Pawb, lle bydd y ganolfan yn cael ei hagor yn swyddogol!

    Ac i gloi’r diwrnod arbennig mi fydd yna sioe dân gwyllt dros ganol y dref.

    Yn ystod y cyfnod cyn agor Tŷ Pawb mae artistiaid lleol wedi ymweld ag ysgolion y sir, clybiau chwaraeon a chanolfannau cymunedol i ddarparu gweithdai i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn yr orymdaith, gan gynnwys chwaraewyr ifanc Brickfield Rangers a ymunodd ag Annmarie Ruscoe i greu dyluniadau i ddathlu eu hoffter o bêl-droed.

    Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:

    “Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi’r rhaglen weithgareddau i’r cyhoedd. Bydd Tŷ Pawb yn fan y gall pawb ei fwynhau, man i fwyta, yfed, siopa, astudio ac ymlacio, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at agor y drysau i ddangos i holl drigolion Wrecsam – ac ymhellach -beth sydd ar gael yno.”

    Mae Dydd Llun Pawb yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n estyn croeso i bawb. Os oes gennych chi unrhyw ymholiad, anfonwch e-bost i enquiries@typawb.wales.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

  • Beth am ddysgu rhywbeth newydd amser cinio?

    Beth am ddysgu rhywbeth newydd amser cinio?

    Yr awdur P.J Roscoe fydd yn y sesiwn Dysgu Dros Ginio nesaf yn Llyfrgell Wrecsam. Bydd yr awdur cydnabyddedig yn rhannu’r gwaith ymchwil y bu iddi ei wneud wrth ysgrifennu ei nofel ‘Diary Of Margery Blake’, nofel sydd wedi ennill gwobr.

    Mae ‘Diary of Margery Blake’ yn llenyddiaeth rymus, sy’n rhoi cipolwg ar fywyd merch ifanc briod yn Oes Fictoria. Mae ei hawliau dynol sylfaenol wedi eu tynnu oddi arni a hithau’n cael ei thrin fel eiddo ei gŵr.

    Mae Llyfrgell Wrecsam yn cynnal sesiwn Dysgu Dros Ginio newydd ar ddydd Mercher cyntaf bob mis.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Bwriad y rhaglen Dysgu Dros Ginio yw archwilio dulliau newydd lle gallwch ddysgu a hynny wrth gael hwyl hefyd, a phob mis gall ymwelwyr â’r llyfrgell gymryd rhan mewn datblygiadau newydd cyffrous,

    Mae hwn yn sesiwn am ddim yn Llyfrgell Wrecsam dydd Mercher 4 Ebrill, 1-2pm.
    Am fwy o wybodaeth ffoniwch Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Sut i enill hefo OPC (SEO)

    Sut i enill hefo OPC (SEO)

    Nid yw 75% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn sgrolio heibio tudalen gyntaf chwiliad, felly pam fod risg yn colli allan?

    Un o’r rhannau pwysicaf o fod ar-lein yw’r busnes mewn gwirionedd, y mwyaf gweladwy ydych chi a’r uchaf rydych chi’n ymddangos yn eich peiriant chwilio, y mwyaf o draffig fyddwch chi’n ei gynhyrchu i’r safle.

    Mae hon yn rhan hollbwysig o’ch strategaeth farchnata ond i lawer – yn enwedig y rhai sy’n ansicr wrth lansio eu hunain ar-lein – gall hyn ymddangos yn frawychus.

    Fodd bynnag, ym mis Ebrill gallwch ymunwch â gweithdy Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cyngor ymarferol ac arbenigol wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i ddeall sut i ddefnyddio SEO i roi eich busnes ar frig canlyniadau peiriant chwilion fyma yn Wrecsam.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Bydd y gweithdy hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r ffordd mae peiriannau chwilio yn graddio eich tudalennau gwe, pam mae hi mor bwysig i chi ddefnyddio arferion gorau SEO, a sut i weithredu cynllun SEO gan ddefnyddio technegau ar y dudalen ac oddi arni.

    Byddwch yn dysgu:

    • Sut mae peiriannau chwilio yn graddio eich gwefan
    • Offer sylfaenol i fonitro a gwella eich gweithgareddau SEO
    • Sut i nodi geiriau allweddol/ymadroddion gorau ar gyfer eich busnes
    • Sut i greu cynllun gweithredu SEO a strategaeth hirdymor
    • Awgrymiadau a thechnegau effeithiol ynghylch gwella eich SE
    • Sut i fesur beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio.

    Felly manteisiwch ar y cyfle gwych hwn a ddarperir gan y rhai sy’n gwybod i gael y gorau o’ch presenoldeb ar-lein a datgloi’r potensial di-ben.

    Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Camwch i’r Byd Digidol ym Mhlas Pentwyn

    Camwch i’r Byd Digidol ym Mhlas Pentwyn

    Ydych chi’n cael trafferth wrth lenwi ffurflenni ar-lein? Ydych chi’n gweld llenwi ffurflenni cais am swyddi ar-lein yn anodd? Hoffech chi fod yn fwy medrus ar y we?

    Os felly, mae sesiynau galw heibio newydd ym Mhlas Pentwyn bob dydd Iau rhwng 10am a hanner dydd.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae’r sesiynau ar gyfer trigolion Coedpoeth a’r ardal gyfagos sydd angen help a chefnogaeth. Gallant eich helpu os ydych chi’n chwilio am waith gan ddefnyddio Paru Swyddi Ar-lein a safleoedd swyddi eraill a rhoi cymorth gyda ffurflenni a ffurflenni cais ar-lein. Gallant hefyd helpu gyda phethau cyffredinol eraill, fel creu cyfrif e-bost a’i ddefnyddio, apiau’r cyfryngau cymdeithasol, prynu a gwerthu ar-lein neu ddod i’r afael â’ch llechen neu eich ffôn clyfar.

    Swnio fel y byddai’n addas i chi?

    Y cyfan sydd raid i chi ei wneud ydi galw heibio neu, i gael gwybod mwy, cysylltwch â Phlas Pentwyn ar 01978 722980 neu anfonwch neges at conf2learn@wrexham.gov.uk.

    Dywedodd y Cyng. David Kelly, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol: “Rydyn ni’n byw mewn oes ddigidol ac mae mwy a mwy ohonom ni’n gorfod dod yn gyfarwydd â gwneud pethau ar-lein. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn yr ardal yn manteisio ar y sesiwn ac yn dod yn fwy medrus ar y we o ganlyniad.”

    Mae tîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

  • Perchnogion bwytai yn dod a bwyd blasus i Dŷ Pawb

    Perchnogion bwytai yn dod a bwyd blasus i Dŷ Pawb

    Mae mwy o newyddion da ar y ffordd i Dŷ Pawb  gan fod dau o berchnogion busnes mwyaf adnabyddus Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod yn dod a stondin fwyd i’r atyniad newydd.

    Mae digon o waith yn mynd rhagddo yn Nhŷ Pawb, fydd yn agor ar 2 Ebrill.

    Mae’r perchnogion busnes Sam Regan ac Alex Jones, sydd eu dau yn berchen ar fariau a bwytai yng nghanol tref Wrecsam, wedi cyhoeddi eu bod am agor menter ar y cyd yn ardal bwyd yr adnodd ar gyfer marchnadoedd, y gymuned a’r celfyddydau.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae cysylltiadau cryf gan y ddau gyda’r busnes bwyd yn Wrecsam, gydag Alex o ‘The Bank’ ar Stryt Fawr Wrecsam, a Sam o ‘The Lemon Tree’ ar Ffordd Rhosddu.

    Tapas yn ysbrydoli’r prydau

    Bydd y fenter newydd yn Nhŷ Pawb o’r enw ‘Plât Bach’ yn darparu cyfuniad unigryw o brydau wedi eu hysbrydoli gan fwydydd tapas gan gynnwys cynnyrch Cymreig ac amrywiadau ar gyfuniadau clasurol.

    Mae Sam ac Alex am sicrhau lle Tŷ Pawb yng nghalon Canol Tref Wrecsam drwy ddarparu profiad bwyta amrywiol, hamddenol, o safon uchel, a fydd yn cyd-fynd â’r cynnig a’r steil y bydd y ganolfan arbennig hon yn ei gynnig.

    “Potensial arbennig yn Nhŷ Pawb”

    Dywedodd Sam Regan: “Gwelais botensial mawr yn natblygiad Tŷ Mawr o’r dechrau, ac rydw i wedi cadw golwg agos ar y prosiect.  Rydw i’n falch iawn o fod yn dod â chynnig bwyd arall i Wrecsam, ac yn edrych ymlaen i’r gymuned ddod ynghyd yn Nhŷ Pawb. Bydd ein cynnig bwyd yn cynnwys tapas, bara fflat a saladau a fydd yn ddelfrydol i’w bwyta yn y neuadd fwyd, neu fel bwyd i fynd.”

    Dywedodd Alex Jones: “Mae wedi bod yn brosiect gwych o’r cyntaf un, ac yn bendant yn gam yn y cyfeiriad cywir fel gofod digwyddiadau a pherfformio allweddol i Wrecsam. O wybod am brosiectau llwyddiannus eraill tebyg mewn trefi a dinasoedd, rydw i’n siwr y bydd Tŷ Pawb yn llwyddiant mawr.

    “Bydd ein stondin fwyd yn darparu profiad bwyta wedi ei ysbrydoli gan fwyd tapas, a gobeithiwn y bydd yn llwyddiant.”

    “Mae hyn yn newyddion da iawn.”

    Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae hyn yn newyddion da iawn. Mae Sam ac Alex yn adnabyddus o fewn cymuned fusnes Wrecsam, a rhwng y ddau maent eisoes yn gyfrifol am ran o sîn bwytai a bariau gwych Wrecsam.

    “Rydw i’n falch o glywed eu bod yn dod i Dŷ Pawb ac yn dymuno pob llwyddiant i Plât Bach.”

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Ydych chi’n bwyta gormod o halen?

    Ydych chi’n bwyta gormod o halen?

    Pwysau gwaed cynyddol uchel? Perygl o strôc? Perygl uwch o glefyd y galon?

    Gallwn gytuno bod yr afiechydon hyn yn rhywbeth na hoffwn ddioddef ohonynt, ond eto mae sawl ohonom yn parhau i fwyta mwy na’r uchafswm o 6g o halen a argymhellir mewn diwrnod (un llwy de) sy’n gwneud yr afiechydon hyn yn fwy tebygol.

    Wel, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Halen. Felly, sut y gallwn gyfyngu ar yr halen rydym yn ei fwyta?

    • 1. Dechrau o’r dechrau!
      Un o’r ffyrdd hawddaf yw coginio ein prydau o’r dechrau, sy’n golygu ein bod yn gwybod yn union faint o halen sy’n mynd i mewn i’n bwyd. Blaswch eich bwyd cyn ychwanegu halen – efallai nad ydych ei angen – a gallwch geisio ychwanegu perlysiau a sbeisys yn ei le!
    • 2. Faint sydd yno’n barod?
      Sicrhewch eich bod yn gwybod y manylion am faint o halen sydd yn eich cynhwysion. Mae gan fwydydd fel caws neu gig moch lefel uchel o halen, felly dewch o hyd i faint sydd yn eich pryd cyn ychwanegu mwy.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    • 3. Darllenwch y label – a dewch o hyd i’w ystyr!
      Os ydych chi’n mynd i’r afael â’r labeli ar eich bwydydd a deall beth mae’r rhifau yn golygu, efallai y byddwch yn dod o hyd i halen cudd yn eich deiet. Er enghraifft, mae grawnfwydydd brecwast, sawsiau megis saws tomato a bwydydd mewn tun yn aml yn gysylltiedig â lefelau siwgr a halen uchel, felly sicrhewch eich bod yn glynu at faint y dogn ar y pecyn.
    • 4. Dewisiadau lu…
      Mae gan sawl math o fwyd ddewis halen isel, felly ceisiwch chwilio am ‘rhain pan fo hynny’n ymarferol. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel ffa pob, saws soi a saws tomato.

    Beth yw ‘uchel’?

    Mae canllawiau GIG yn datgan bod gan fwydydd sy’n cynnwys lefelau uchel o halen 1.5g i bob 100g, ac mae gan fwydydd sy’n cynnwys lefelau isel o halen 0.3g neu lai i bob 100g. Felly, yn syml, byddai edrych ar y label yn golygu eich bod yn ymwybodol o beth rydych yn ei brynu.

    Faint sy’n iawn?

    Mae faint o halen ‘rydych yn gallu ei fwyta yn dibynnu ar eich oedran. Dyma ganllawiau GIG:
    Babanod o dan 1 – llai na 1g o halen y diwrnod
    Rhwng 1 a 3 mlwydd oed – 2g o halen y diwrnod (0.8g o sodiwm)
    Rhwng 4 a 6 mlwydd oed – 3g o halen y diwrnod (1.2g o sodiwm)
    Rhwng 7 a 10 mlwydd oed – 5g o halen y diwrnod (2g o sodiwm)
    11 mlwydd oed ac uwch – 6g o halen y diwrnod (2.4g o sodiwm)

    Os oes angen rhagor o gyngor arnoch mae gan https://www.nhs.uk/change4life adnoddau da o gymorth i chi, megis yr ap sganio bwyd, a digon o ryseitiau er mwyn roi cynnig arnynt.

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Merched ifanc yn gwneud rhywbeth arbennig ar gyfer #DiwrnodRhyngwladolyMerched

    Merched ifanc yn gwneud rhywbeth arbennig ar gyfer #DiwrnodRhyngwladolyMerched

    Cafodd merched ifanc o bob rhan o Wrecsam gyfle i gysgodi merched ar goridorau pŵer fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

    Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu a chydnabod llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched.

    Roedd digwyddiad 2018 yn nodi 107 o flynyddoedd o ddathliadau, gydag eleni hefyd yn 100 mlynedd ers i Senedd Llundain basio cyfraith a oedd yn galluogi rhai merched i bleidleisio am y tro cyntaf.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    I nodi’r diwrnod, cafodd 10 o ferched ifanc gyfle i gysgodi merched mewn gwleidyddiaeth, swyddi proffesiynol a gwasanaethau cyhoeddus gan roi cipolwg iddynt ar sut y mae llefydd fel Cyngor Wrecsam, Coleg Cambria, a Senedd Llundain yn gweithio.

    Cynhaliwyd digwyddiad hefyd yn y Stiwt, Rhosllannerchrugog, lle rhoddodd merched sy’n uchel ym myd gwleidyddiaeth a rheoli eu barn ar ba mor bwysig ydyw bod merched yn cael eu cynrychioli mewn swyddi proffesiynol ac arweiniol.

    Trefnwyd y gwaith cysgodi gan Dîm Cyfranogi Cyngor Wrecsam a Senedd yr Ifanc, gyda rhai o aelodau’r Cyngor hefyd yn cymryd rhan.

    Ar ôl y dau ddiwrnod o waith cysgodi, cafodd pawb gyfle i gyfarfod yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Wrecsam, i drafod eu profiadau.

    Cafodd Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Trefniadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ei chysgodi yn ystod y dydd gan Maja Piorunowska, disgybl o Ysgol St Joseph, Wrecsam.

    Meddai Lyndsey: “Roeddwn yn meddwl bod y diwrnod yn wych – rhoddodd gyfle i mi adlewyrchu ar fy ngyrfa fy hun, fel dynes.

    “Roedd yn ddiddorol iawn cael barn person ifanc a rhoi cyfle iddynt siarad â merched mewn swyddi uwch.”

    Meddai Maja: “Roedd yn dda ac yn anffurfiol iawn – roeddem yn gallu siarad am beth bynnag yr oeddem eisiau.”

    “Gall llais un person newid y cymuned”

    Hefyd yn cymryd rhan yn yr ymarfer cysgodi oedd Jessie Hack, a gysgododd gynrychiolydd Smithfield, y Cynghorydd Adrienne Jeorrett.

    Dywedodd Jessie: “Yn sicr, dysgais lawer mwy am wleidyddiaeth a sut y bydd pethau’n cael eu rhedeg, a sut y gall llais un person newid y ffordd y bydd cymuned yn cael ei chynnal.

    “Mae’n dda gweld yn eich cymuned eich hun, bod merched yn gwneud eu gorau i newid beth y mae’n bosibl ei newid.”

    A cafodd Abi Caterall ac Amy Lloyd gyfle i gysgodi Susan Elan Jones, AS De Clwyd, yn ystod ei diwrnod yn Senedd Llundain – gan hefyd gael y cyfle i wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog.

    Meddai Abi:  “Roedd cysgodi Susan yn gyfle aruthrol i’r ddwy ohonom ac roedd y profiad yn un gwych. Dysgais lawer drwy gydol y dydd ac rwy’n ddiolchgar iawn i Susan am roi amser o’i diwrnod i fod gyda ni.

    “Rwy’n credu ei bod yn bwysig gweld dynes mewn swydd wleidyddol uchel oherwydd rwy’n credu ei fod yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc sydd eisiau gyrfa debyg. Byddwn yn sicr yn cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg eto, a byddwn yn argymell y profiad hwn i ferched ifanc eraill.”

    “Roedd brwdfrydedd clir iawn gan bawb”

    Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb: “Roeddem yn awyddus iawn i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched – ac ni ellir pwysleisio gormod y cyfraniad y mae merched wedi’i wneud i hanes yr ardal a’r gwaith y maent yn parhau i’w wneud, ar bob lefel, ac mae’n haeddu ei gydnabod.

    “Roeddwn yn falch iawn o gael nodi’r digwyddiad ochr yn ochr â chyd gynghorwyr yn y Stiwt yn Rhos – roedd brwdfrydedd clir iawn gan bawb a oedd ynghlwm â’r digwyddiad, a hoffwn ddiolch i bawb a drefnodd ddigwyddiadau’r diwrnod a chymryd rhan ynddynt.”

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Gweld beth sydd ym Margen Dwf Gogledd Cymru? Lawrlwythwch y ddogfen rŵan!

    Gweld beth sydd ym Margen Dwf Gogledd Cymru? Lawrlwythwch y ddogfen rŵan!

    Petaech yn buddsoddi £383 miliwn yn rhywbeth ac yn cael £1.3 biliwn yn ôl, yna byddai hynny yn dod ag elw da iawn i chi.

    Wel, dyna’n union oedd y ‘fargen’ y bu i Ogledd Cymru ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddiwedd 2017.

    Os ydych chi wedi methu’r stori, neu os hoffech chi wybod yn union beth sydd wedi ei gynnwys ym Margen Dwf Gogledd Cymru, lawrlwythwch y ddogfen o wefan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Beth mae’n ei olygu?

    Mae’r ddogfen hon yn egluro sut, gyda’r buddsoddiad cywir, y gall y rhanbarth ddatblygu ei economi.

    Mae’n canolbwyntio ar dri amcan allweddol.

    • Creu economi ddoeth sy’n annog arloesed mewn diwydiannau mawr eu gwerth.
    • Datblygu economi wydn drwy greu swyddi, a helpu gogledd Cymru i gadw gweithlu medrus.
    • Creu economi gysylltiedig, gyda chysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd cryf ar draws gogledd Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â seilwaith digidol o’r safon uchaf.

    Mae’n nodi y gall chwistrelliad o £383.4 miliwn ddenu £1.3 biliwn o fuddsoddiad i ogledd Cymru, sef £3.40 am bob punt sy’n cael ei gwario. Ar ben hynny, bydd 5,000 o swyddi newydd, busnesau newydd a thai newydd.

    Mae’r ddogfen yn cynnwys llawer o dystiolaeth, ffigyrau a rhagamcaniadau ond, peidiwch â phoeni, dim ond 30 tudalen yw’r ddogfen ac mae hi’n hawdd iawn i’w darllen.

    Beth fydd yn digwydd nesaf?

    Mae Bwrdd Twf Gogledd Cymru, y bartneriaeth y tu ôl i’r cynigion, wedi cyflwyno’r ddogfen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bydd rŵan yn dechrau trafod i geisio diogelu’r buddsoddiad sydd ei angen i droi’r weledigaeth hon yn realiti.

    Mae’r bartneriaeth yn cynnwys chwe chyngor gogledd Cymru, yn ogystal â phrifysgolion, colegau a chyrff sector preifat y rhanbarth.

    Cadwch lygad ar wefan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gael newyddion a gwybodaeth am y Fargen Dwf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://northwaleseab.co.uk/cy/adnoddau/bargen-twf-gogledd-cymru” target=”new”]LAWRLWYTHWCH Y FARGEN[/button]

  • Ydych chi’n arweinydd rhagorol gydag arbenigedd mewn TGCh?

    Ydych chi’n arweinydd rhagorol gydag arbenigedd mewn TGCh?

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.

    Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Seilwaith profiadol i ymuno â’n tîm TGCh aml-fedrus.

    Beth allwn ni ei wneud i chi?

    Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm ag ystod o sgiliau a fydd yn ail-lunio’r gwasanaeth ar gyfer ein gweithwyr a’n cwsmeriaid dros y blynyddoedd nesaf.

    Ychwanegwch at eich gyrfa a meithrin doniau newydd mewn amgylchedd sydd yn ddigon mawr i gynnig twf gyrfaol ond yn ddigon bach i ddatblygu sgiliau unigol.

    FEDRAI DDIM AROS, CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS.

    Beth allwch chi ei wneud i ni?

    Ydych chi’n gallu arddangos gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn amgylchedd TGCh prysur?

    Ochr yn ochr â’r Arweinydd TGCh, byddwch yn penderfynu sut y caiff seilwaith ei ddylunio a’i ddarparu, ac yn rheoli’r adnoddau a’r staff ar y tîm seilwaith TGCh yn unol â blaenoriaethau trawsnewid a Strategaethau TGCh y Cyngor, gan gynnwys mudiad cloud.

    Mae ein tîm yn cefnogi ystod eang o dechnolegau, a byddai profiad o reoli Firewall, Microsoft Server, Cisco WAN, LAN a thechnolegau Di-wifr yn fanteisiol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â gwybodaeth am VMWare a datrysiadau diogelwch eraill.

    Rydym eich angen chi!

    Os ydych chi yn arweinydd rhagorol gydag arbenigedd mewn TGCh, mae arnom angen chi.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=FF461279-E821-4F5E-89CCF43D0BAA3887″]YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO[/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]