Categori: Busnes ac Addysg

  • Ymgynghoriad ar fin dechrau ar Gynllun Datblygu Lleol

    Ymgynghoriad ar fin dechrau ar Gynllun Datblygu Lleol

    Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau yn fuan ar gyfer datblygiadau o gwmpas ardal bwrdeistref sirol Wrexham.

    Mae uwch aelodau Cyngor Wrecsam yn barod i drafod y Cynllun Datblygu Lleol Adneuol a fydd yn amlinellu’r gwaith datblygu yn yr ardal tan 2028.

    Mae’r CDLl yn nodi pa fath o ddatblygiad fyddai’n cael ei ganiatáu ar draws y fwrdeistref sirol, ar sail ddaearyddol.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Er enghraifft., byddai rhai ardaloedd yn cael eu clustnodi ar gyfer datblygu tai, tra byddai eraill yn cael eu cadw ar gyfer defnydd masnachol.

    Mae’r CDLl Adneuol yn nodi darpariaeth ar gyfer dros 8,000 o dai newydd, cynlluniau ar gyfer cyflwyno mwy na 4,000 o swyddi newydd yn ardal Wrecsam drwy ddarparu tir ar gyfer cyflogaeth, ac yn manylu’r rheolaeth a’r twf posib yn y dyfodol.

    Bydd y CDLl Adneuol yn cael ei drafod gan aelodau Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth 13 Chwefror.

    Yn dilyn trafodaeth y Bwrdd Gweithredol, bydd y CDLl Adneuol yn mynd ger bron Cyngor llawn, ac yna i’r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, sy’n golygu efallai y byddwch yn cael cyfle i leisio eich barn ar y cynllun amlinellol a gweld drosoch eich hun pa fath o ddatblygiadau a fydd yn cymryd lle ar draws y fwrdeistref sirol

    “Ymgynghoriad – rhoi gwybod beth yw eich barn”

    “Rydym yn gwybod y bydd y CDLl Adneuol o ddiddordeb mawr, yn enwedig ar lefel lleol lle bydd preswylwyr eisiau gweld a rhoi sylwadau ar ddefnydd arfaethedig y tir gerllaw a’r datblygiad posib.

    “Bydd trafodaeth y Bwrdd Gweithredol yn dechrau’r broses tuag at ymgynghoriad, ac rydym yn disgwyl y bydd yr ymgynghoriad yn digwydd dros ardal eang ac yn derbyn nifer sylweddol o ymatebion.

    “Bydd aelodau’r cyhoedd yn cael eu hysbysu o ddyddiad cychwyn yr ymgynghoriad a’r dulliau o gyfrannu.

    “Hoffwn bwysleisio nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto – bydd y CDLl Adneuol yn ddarostyngedig i ymgynghoriad cyn ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru.

    “Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion sydd wedi gweithio ar y CDLl Adneuol am eu gwaith caled, ynghyd ag aelodau’r Panel Polisi Cynllunio.”

    Bydd gweddarllediad o ddadl y Bwrdd Gweithredol ar gael yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

  • Y Diweddaraf: Casglu Biniau, Ysgolion sydd wedi Cau a Graeanu

    Y Diweddaraf: Casglu Biniau, Ysgolion sydd wedi Cau a Graeanu

    Gyda rhagolygon eira a thywydd oer ar gyfer heddiw, gallwch weld y wybodaeth ddiweddaraf am bethau sydd o bwys i ch ymai:

    Casgliadau Biniau

    Rydym yn falch i ddeud byddem yn ceisio i gasglu casgliadau bin wedi eu golli yn Glyn Ceiriog a Llanarmon ar dydd Iau, Mawrth 8. Rhowch pobpeth allan erbyn 7.30yb.

    Cofiwch, gallwch gofrestru i dderbyn hysbysiadau e-bost am gasgliadau biniau. Byddwch hefyd yn derbyn gwybodaeth am newidiadau i’ch casgliadau drwy’r gwasanaeth hwn.

    COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Cau Ysgolion

    Efallai y bydd ysgolion yn cau oherwydd tywydd gwael. Fe allant benderfynu bod yr ardal yn beryglus i blant neu efallai na allant gael digon o staff i’w weithredu’n ddiogel.
    Bydd yr holl ysgolion sydd ynghau yn cael eu cynnwys yma

    Byddai’n werth cael golwg ar wefan eich ysgol hefyd gan fod eu cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth bellach.

    Graeanu

    Gallwch weld ein llwybrau graeanu
    Dilynwch #wxmgrit ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â graeanu.

    Gallwch wybod sut i baratoi ar gyfer tywydd gwael

    Peidiwch byth â  methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Oes gennych chi gwestiwn am Dreth y Cyngor?

    Oes gennych chi gwestiwn am Dreth y Cyngor?

    Bydd eich Bil Treth y Cyngor ar gyfer 2018/2019 yn cael ei anfon atoch chi cyn bo hir, felly rydym ni wedi llunio ychydig o atebion i gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml am Dreth y Cyngor.

    Pam bod fy mil yn dangos balans a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol?

    Wyddoch chi fod y Cyngor yn cyhoeddi dros 60,000 o filiau ym mis Mawrth yn unig? Mae’n rhaid eu cynhyrchu’n fuan er mwyn i ni eu hanfon atoch chi ar amser. Eleni cafodd eich bil ei argraffu ar 25 Chwefror 2018, felly ni fydd unrhyw daliad sydd wedi ei wneud ar ôl y dyddiad hwn yn ymddangos.

    Rydw i’n talu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol. Oes arnaf angen gwneud unrhyw beth

    Os ydych chi’n talu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol ni fydd yn rhaid i chi wneud unrhyw beth. Unwaith y sefydlir eich debyd uniongyrchol, ni fyddwn yn ei ganslo oni bai eich bod chi neu’ch banc yn gofyn i ni wneud hynny. Os ydych chi wedi anghofio sut rydych chi’n talu’ch bil, gallwch ganfod eich dull talu ar waelod eich bil ar yr ochr chwith.

    Pam bod fy mil yn cynnwys Premiwm Gwag o 50%?

    Fel nad ydym ni’n gweld eiddo yn mynd yn wag am beth amser rydym ni wedi cyflwyno premiwm ychwanegol o 50%, sy’n golygu bod eiddo sydd wedi bod yn wag (yn ôl ein cofnodion Treth y Cyngor) ers deuddeg mis a mwy yn destun premiwm Treth y Cyngor.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Rydw i’n symud tŷ, oes raid i mi roi gwybod i chi?

    Oes. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy’n effeithio ar faint o Dreth y Cyngor sy’n rhaid i chi ei dalu. Mae hyn yn cynnwys newid cyfeiriad, ond hefyd unrhyw wybodaeth a all effeithio ar ostyngiad neu eithriad rydych chi’n ei dderbyn ar hyn o bryd. Mae’r manylion cyswllt perthnasol ar gefn eich bil Treth y Cyngor.

    Fi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo, ydw i’n gymwys i gael gostyngiad?

    Ydych, os mai chi yw’r unig oedolyn yn yr eiddo mae gennych chi hawl derbyn gostyngiad person sengl o 25%. Os nad yw eich bil yn cynnwys y gostyngiad, cysylltwch ag Adain Treth y Cyngor yn defnyddio’r manylion cyswllt ar gefn eich bil.

    Mae fy mil yn dangos balans o ddim gan fy mod wedi fy eithrio oherwydd bod fy eiddo yn wag a heb ddodrefn neu’n cael ei atgyweirio. Fydd y balans yn aros yr un fath ar gyfer y flwyddyn gyfan?

    Nid o reidrwydd. Dim ond am 6 mis y caiff eithriadau i dai gwag a heb ddodrefn eu rhoi, ac eithriadau i dai gaiff eu hatgyweirio am 12 mis. Felly unwaith y mae’r cyfnod eithrio wedi dirwyn i ben, byddwch yn derbyn bil wedi ei addasu.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/assets/pdfs/financial/ddform_business_rates_w.pdf”] TALU TRETH Y CYNGOR DRWY DDEBYD UNIONGYRCHOL[/button]

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined”https://www.civicaepay.co.uk/WREXHAMESTORE/ESTORE/welsh/catalog/index?fundCode=25″] TALU TRETH Y CYNGOR AR-LEIN[/button]

  • Trevor i ymgymryd â chymal Tour de France i godi arian

    Trevor i ymgymryd â chymal Tour de France i godi arian

    Mae uwch swyddog o fewn y Cyngor yn bwriadu diweddu ei yrfa drwy ymgymryd â chymal cyntaf un o lwybrau beicio enwocaf y byd.

    Bydd Trevor Coxon, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol Cyngor Wrecsam, sy’n ymddeol gyda hyn, yn beicio dros 120 milltir ar hyd arfordir Ffrainc i godi arian ar gyfer elusen Prostate Cancer UK.

    Nid hwn fydd y tro cyntaf i Trevor ymgymryd â Grand Départ enwog – neu gymal cyntaf – Tour de France. Yn 2016 beiciodd ar hyd y llwybr rhwng Mont St Michael yn Llydaw a Thraeth Utah yn Normandi; taith 117 milltir.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Ond, y tro hwn, ar 23 Mehefin, bydd yn beicio 124 milltir mewn un diwrnod yn rhanbarth Vendee yng ngorllewin Ffrainc.

    “Rydw i’n un o’r rhai ffodus”

    Meddai Trevor: “Mi ges i driniaeth lwyddiannus ar gyfer canser y prostad bedair blynedd yn ôl, ac rydw i’n un o’r rhai ffodus.

    “Ond mae sylw diweddar yn y wasg yn datgelu y bydd un ymhob wyth o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o ganser y prostad ar ryw adegau yn eu bywydau – ac mewn rhai grwpiau ethnig, gall fod yn un ymhob pedwar dyn. Hwn erbyn hyn yw’r lladdwr mwyaf ond dau o ddynion yn y Deyrnas Unedig.”

    “Rydw i wedi bod yn codi arian ar gyfer Prostate Cancer UK ers fy nhriniaeth, ac maen nhw’n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth, ac ymgyrchu am ymchwil i gyffuriau a thriniaethau newydd i ymladd yn erbyn y clefyd dinistriol hwn.”

    Mae Trevor yn feiciwr brwd ac yn hyfforddi’n aml gyda’i glwb beicio, sef Clwb Beicio Merffordd a Gresffordd. Mae o hefyd yn mynychu dosbarthiadau troelli-beicio yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Byd Dŵr sy’n cael ei rhedeg gan Freedom Leisure.

    Ddydd Sul, 11 Mawrth, bydd yn beicio yn nigwyddiad beicio Cape Argus, gan ddechrau yn Cape Town, De Affrica, fel rhan o’i baratoadau ar gyfer Tour de France ym mis Mehefin. Dyma un o ddigwyddiadau beicio mwyaf poblogaidd y byd, sy’n denu dros 30,000 o gystadleuwyr.

    Ychwanegodd Trevor: “Wrth fynd o amgylch De Affrica byddaf yn gwisgo cit fy nghlwb beicio i geisio hyrwyddo beicio yng Nghymru. Mae’r llwybr o amgylch Penrhyn Gobaith Da yn mynd heibio i le o’r enw Llandudno Bay – mae gogledd Cymru yn amlwg wedi cael effaith ar Dde Affrica yn barod!”

    Cit Clwb Beicio Merffordd a Gresffordd Trevor

    “Croesawu unrhyw rodd”

    Ychwanegodd Trevor: “Ar ôl gwneud y Grand Départ yn 2016, mae gen i syniad go lew am yr hyn i’w ddisgwyl ond, serch hynny, mae llawer o bethau yn dibynnu ar yr amodau a sut y byddaf yn teimlo ar y diwrnod.

    “Llwyddais i drechu’r llwybr y tro diwethaf mewn chwe awr a hanner felly rydw i’n gobeithio rhagori ar fy amser y tro yma!

    “Rydw i eisoes wedi derbyn rhoddion hael gan fy nghyfeillion a’m cydweithwyr yng Nghyngor Wrecsam, ac rydw i’n croesawu unrhyw rodd bellach i’r achos da yma.”

    Os hoffech chi gyfrannu at daith codi arian Trevor, gallwch wneud hynny drwy’r tudalen JustGiving yn www.justgiving.com/fundraising/Trevor-Coxon3 (Dolen gyswllt Saesneg).

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Gwnewch wahaniaeth go iawn i fywyd plentyn

    Gwnewch wahaniaeth go iawn i fywyd plentyn

    Gall gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Plant fod yn werth chweil ac mae llawer o fanteision o wneud hefyd.

    Gall gweithiwr cymdeithasol wneud gwahaniaeth go iawn i unigolion a’u teuluoedd, gan eu helpu drwy’r cyfnodau anoddaf a, thrwy sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag niwed, newid eu bywydau.

    Mae llais y plentyn yn greiddiol i bopeth yr ydym yn ei wneud

    Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym yn falch o fod â thîm lle mae llais y plentyn yn greiddiol i bopeth yr ydym yn ei wneud gan arwain y ffordd yng Nghymru o ran datblygiad gwasanaethau integredig ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

    HOFFWN GWNEUD GWAHANIAETH – CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS

    Manteisiwch ar y cyfle i fod yn rhan o’r tîm rhagorol hwn. Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol i gydlynu ymateb rhyngasiantaethol effeithiol i blant sydd angen eu diogelu a’r rhai sy’n derbyn gofal.

    Rydym eich angen chi

    Ydych chi yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, profiad wedi ei brofi o weithio fel rhan o dîm ac o weithio gyda phlant, yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o brosesau a chodau ymarfer proffesiynol gwaith cymdeithasol? Yna rydym eich angen chi.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/council_w/social_services/social_work_careers.htm”]YDW, RYDW I EISIAU GWNEUD GWAHANIAETH[/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • Newyddion da ar gyfer adfywio Canol Tref Wrecsam

    Newyddion da ar gyfer adfywio Canol Tref Wrecsam

    Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn ddiweddar i helpu i droi canol tref Wrecsam yn le bywiog a ffyniannus y mae’n ei haeddu.

    I’n helpu i gyflawni hyn, gallwn bellach gadarnhau ein bod wedi cael £1m o gyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at Cronfa Adfywio Canol y Dref.

    Mae hyn ar ben £1m a ddyfarnwyd trwy’r un gronfa y llynedd (2016/17).

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn Wrecsam

    Fe fydd y cyllid yn cael ei ddarparu ar ffurf benthyciadau di-log er mwyn caffael eiddo a thir yng nghanol tref Wrecsam.

    Felly yn syml, fe fydd y benthyciadau yma’n helpu pobl, busnesau a sefydliadau i brynu tir ac eiddo yng nghanol y dref er mwyn iddynt gael eu defnyddio i’w llawn botensial.
    Fe allai hyn gynnwys datblygiadau masnachol, hamdden, preswyl a defnydd cymysg.

    Enghraifft dda o hyn yw datblygu gwestai yng nghanol y dref. Mae hyn yn un o’r prif feysydd sy’n cael ei ystyried yn ddefnydd da o’r cyllid.

    Fe fydd y cyllid yn arbennig o ddefnyddiol i helpu i ddatblygu eiddo nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, fodd bynnag fe fydd hefyd yn helpu i gyfrannu tuag at adfywiad ehangach canol y dref.

    Cam cadarnhaol arall i ganol y dref

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae llawer o waith da yn digwydd yng nghanol tref Wrecsam ar hyn o bryd ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn fel cyngor i gefnogi hyn.

    “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cael yr arian yma gan Lywodraeth Cymru. Mae’n gam cadarnhaol arall yn y cyfeiriad cywir ac fe fydd yn ffordd dda o gefnogi datblygiadau cadarnhaol yn yr ardal.”

    Sut i wneud cais

    Lle bynnag rydych chi’n byw yn y fwrdeistref sirol, mae yna nifer o ffyrdd y gall y cyngor eich helpu i ddatblygu tir ac eiddo ar gyfer defnydd masnachol a phreswyl.

    Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o gynlluniau benthyca y gellir eu defnyddio at ddibenion megis cynlluniau gwella a dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer defnydd preswyl.

    Os hoffech chi wybod pa gefnogaeth allai fod ar gael i chi, cysylltwch a 01978 298993 neu anfonwch e-bost i sion.wynne@wrexham.gov.uk

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Dyma ffordd wych o dreulio dwy awr o’ch amser…

    Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Dyma ffordd wych o dreulio dwy awr o’ch amser…

    Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Darllenwch hwn…

    Mae cwmnïau adeiladu yn Wrecsam a gweddill Gogledd Cymru’n cael eu gwahodd i ddysgu mwy am gyfleoedd am gontractau gyda chynghorau lleol.

    Bob blwyddyn, mae’r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru – Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn – yn contractio cwmnïau i wneud pob math o waith adeiladu, o drwsio a chynnal a chadw hyd at brosiectau adeiladu newydd sbon.

    Ond i fod yn gymwys yn y dyfodol, bydd angen i gwmnïau fod ar restr o gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw o’r enw Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Oes gennych chi ddiddordeb?

    via GIPHY

    Mae digwyddiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal yn yr Wyddgrug a Chaernarfon ac mae’r cynghorau’n benodol awyddus i siarad â busnesau bach a chanolig.

    Os gallai eich cwmni chi gyflawni prosiectau sydd werth rhwng £250,000 a £2 filiwn, dylech ddod i gael gwybod mwy.

    Cewch wybod pa fath o waith a allai fod ar gael, a sut i ymgeisio i fod ar y fframwaith.

    Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

    • Dydd Mawrth, 6 Mawrth yng Ngwesty Beaufort Park yn yr Wyddgrug (CH7 6RQ), yn dechrau am 8am.
    • Dydd Iau, 8 Mawrth yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon (LL55 1AY), yn dechrau am 8am.

    Dim ond i un digwyddiad mae angen i chi fynd, a bydd yn para tua dwy awr.

    Nid oes angen archebu lle, dim ond dod yno ar y diwrnod.

    Er hynny, os hoffech chi gael gwybod mwy ymlaen llaw, ffoniwch John Humphreys ar 07831 515525 neu Rob Beattie ar 07590 710700.

    Cefnogaeth am ddim i’ch busnes

    Cewch hefyd glywed am gefnogaeth sydd ar gael am ddim drwy raglen Dyfodol Adeiladu Cymru, a bydd staff y rhaglen ar gael i gynnig cyngor un-i-un i chi.

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Dewch i hawlio eich llyfr am ddim!

    Dewch i hawlio eich llyfr am ddim!

    Dathlwch Ddiwrnod y Llyfr eleni yn Llyfrgell Wrecsam ar 1 Mawrth a hawlio llyfr am ddim!

    Mae Diwrnod y Llyfr wedi’i gynnal bob blwyddyn ers dros dau ddegawd, ac mae’n ddathliad o bopeth yn ymwneud â darllen – y llyfrau, yr awduron, y straeon, y darlunwyr. Bydd popeth yn ymwneud â llyfrau yn cael ei ddathlu yn swnllyd a hapus mewn dros 100 o wledydd ledled y byd.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    I ychwanegu rhywbeth ychwanegol i’r dathliad eleni, os byddwch yn benthyg llyfr plant o’r llyfrgell ar 1 Mawrth, cewch lyfr am ddim (tra bydd rhai ar ôl).

    Gan y bydd hefyd yn Ddydd Gŵyl Dewi, bydd gennym arddangosfa o lyfrau coch, felly beth am fenthyg un o’r llyfrau hynny a dathlu’r ddau achlysur ar yr un pryd?!

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Eira?  Tywydd oer?  Sut allaf i baratoi?

    Eira? Tywydd oer? Sut allaf i baratoi?

    Gyda’r disgwyl o tywydd oer wythnos yma, efallai eich bod yn meddwl pa ysgolion fydd ar agor? A fydd y bysys dal yn rhedeg? A fydd fy miniau yn cael eu gwagio? A fydd y ffyrdd yn cael eu graeanu?

    Gall tywydd oer achosi problemau ar draws y fwrdeistref sirol a hyd yn oed ar draws y DU, yn enwedig mewn tywydd eithriadol o wael. Rydym wedi paratoi, a thrwy gydol cyfnod y gaeaf ac at y gwanwyn, mae gennym ragolygon tywydd lleol dyddiol. Pan fyddwn ni’n derbyn y rhagolygon rydym ni’n penderfynu a oes angen anfon y cerbydau graeanu allan neu beidio. Os oes angen, mae gennym ni fflyd o gerbydau a digonedd o raean i ymdopi.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    “Caiff y priffyrdd eu clirio mor fuan â phosibl”

    Fel pob awdurdod lleol arall, nid ydym ni’n graeanu na symud yr eira oddi ar bob ffordd, ond rydym ni’n sicrhau bod ein priffyrdd yn cael eu clirio cyn gynted â phosibl. Gall hyn fod yn anodd weithiau yn enwedig os ydi’r eira yn parhau i ddisgyn. Gallwch weld ein llwybrau graeanu yma.

    “Fe fyddwn yn graeanu cyn i ni wagio biniau mewn ystadau tai”

    Gall tywydd oer achosi amhariadau i’ch gwasanaeth bin gan fod gyrru cerbyd mawr ar lonydd cul yn gallu bod yn beryglus i’r gweithlu ac i’r cyhoedd. Fe gaiff casgliadau bin eu hatal mewn ardal benodol o dro i dro am y rheswm yma. Pan allwn ni, rydym ni’n anfon y cerbyd graeanu allan cyn y lori biniau i sicrhau y gallwn ni barhau cyn hired â phosibl.

    “Cau ysgolion”

    Fe all ein hysgolion gael eu cau oherwydd y tywydd, fe allant benderfynu bod yr ardal yn beryglus i blant neu efallai na allant gael digon o staff i’w weithredu’n ddiogel. Os penderfynir cau’r ysgolion, mae gwybodaeth i’w weld ar ein gwefan yma:

    Efallai bod eich plentyn yn teithio i’r ysgol ar fws ac fe ddylech sicrhau eich bod yn gwybod gyda pha gwmni y maent yn teithio, ac fe ddylech gadw eu rhif ffôn, e-bost neu fanylion eu cyfrif cyfryngau cymdeithasol wrth law i wirio’n uniongyrchol gyda nhw os ydynt yn gweithredu eu gwasanaeth arferol.

    Os na allwn ni ddod i wagio eich biniau, fe fyddwn ni’n defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i’ch hysbysu cyn gynted â phosibl.

    twitter.com/cbswrecsam | twitter.com/wrexhamcbc

    facebook.com/cyngorwrecsam | facebook.com/wrexhamcouncil

    Defnyddiwch #wxmgrit i weld os fydd ein graeanwyr yn mynd allan.Helpwch lle gallwch.

    Helpwch lle gallwch

    Cynghorir trigolion hefyd i wirio bod eich cymdogion yn iawn – yn arbennig unrhyw drigolion hŷn, anabl neu rai sy’n agored i niwed.

    Dim ond pum munud mae’n ei gymryd i helpu, ond gall gwyntoedd cryfion, rhew ac eira fod yn anodd i bobl agored i niwed wrth iddynt geisio gwneud tripiau dyddiol hawdd, fel picio i’r siopau neu’r swyddfa bost.

    Gallai galw heibio’n sydyn neu gynnig help wneud gwahaniaeth mawr i rywun nad ydynt yn gallu mynd allan ar eu pen eu hunain.

    Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae llawer o bobl yn ein cymunedau sy’n cael trafferth yn ystod y misoedd oerach, ac ni ddylem danamcangyfrif faint o wahaniaeth y gall rhywbeth bach ei wneud i fywyd rhywun.

    “Mae cymaint o ffyrdd hawdd i helpu – helpu gyda siopa, mynd â phryd o fwyd poeth neu dim ond galw mewn am sgwrs. Rydym yn gofyn i breswylwyr gymryd dim ond ychydig o funudau i alw heibio gymdogion, ffrindiau a pherthnasau.”

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

  • Emma a Marie yn buddsoddi yng nghanol tref Wrecsam

    Emma a Marie yn buddsoddi yng nghanol tref Wrecsam

    Dros y misoedd diwethaf rydym ni yn Newyddion Cyngor Wrecsam wedi sylwi ar lawer o brysurdeb yn un o siopau gwag Stryt Argyle wrth i waith uwchraddio ac ailwampio fynd ymlaen yno.

    Roedd llawer o ddyfalu ynglŷn â pha fath o siop fyddai’n agor yno ond ddyfalodd neb mai siop trin gwallt, harddwch a cholur newydd fyddai hi – sef ELM “Feel Good from Head to Toe” – sydd wedi symud o’i safle ar Stryt Caer i adeilad trawiadol golau a modern gyferbyn â siop Iceland gynt.

    Perchnogion ELM sy’n rhedeg y siop yw’r Steilydd Emma Capper a’r Therapydd Harddwch Marie Holland ac yn ymuno â nhw yno mae’r Artist Colur Charlotte Beckett a’r Technegydd Ewinedd Kelly McGrath.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    “Staff cyfeillgar a chymwynasgar”

    Mae Emma a Marie yn teimlo’n frwdfrydig iawn am eu safle newydd ac maent wedi buddsoddi llawer iawn o arian yn eu salon er mwyn darparu amrywiaeth o wasanaethau o dan un to i gleientiaid a fydd yn cael eu taro’n syth gan yr awyrgylch gwych a’r staff cyfeillgar a chymwynasgar. Gall cleientiaid ddewis o nifer o driniaethau o dorri a sychu eu gwallt i gwyro, estyniadau gwallt, lliwio a siapio aeliau, trin ewinedd y dwylo a’r traed, eli lliw haul llawn, estyniadau ewinedd, amrannau dros dro a cholur hardd.

    Mae’n ymddangos fod eu cleientiaid presennol hefyd yn hapus iawn i’w dilyn i’w safle newydd a phan oedden ni yno galwodd nifer ohonyn nhw i mewn i edrych o gwmpas a threfnu apwyntiadau.

    “Safle gwell a mwy”

    Dywedodd Emma “mae pawb wedi bod yn gyfeillgar ac wedi galw heibio i ddymuno’n dda i ni. Mae gennym safle gwell a mwy rwan ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu hen gwsmeriaid yn ogystal â rhai newydd. Rydym yn gyffrous iawn ac mae’r dyfodol yn edrych yn bositif iawn.”

    Mae prisiau’n rhesymol iawn ac ar gyfer achlysuron arbennig fel priodasau maen nhw’n barod i ddod i’r cartref i wneud yn siŵr bod y briodferch a’i gosgordd yn edrych yn hardd ar eu diwrnod arbennig heb orfod gadael y tŷ neu’r gwesty.

    Mae gan ELM hefyd gynigion arbennig rheolaidd i gwsmeriaid felly cadwch lygad ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol facebook: ELM Hair and Beauty, instagram: ELM Hair and Beauty neu Twitter: ELMHair_Beauty neu ffoniwch 01978 263590.

    “Mae hwn yn newyddion gwych”

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi: “Mae’n wych gweld busnes sefydledig yn Wrecsam yn symud i safle mwy sydd wedi’i ailwampio’n gyfan gywbl. Mae’n amlwg fod Emma a Marie eisiau bod yng nghanol y dref ac rwy’n siwr y bydd eu hymrwymiad i’w cwsmeriaid a’r dref yn talu ei ffordd. Dymunaf y gorau i Emma, Marie a’u tîm a byddaf yn galw i mewn i weld sut hwyl y maent yn ei gael yn y dyfodol agos iawn.”

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]