Categori: Busnes ac Addysg

  • Gwesteion o sêr wedi’u cyhoeddi ar gyfer Carnifal Geiriau Wrecsam

    Gwesteion o sêr wedi’u cyhoeddi ar gyfer Carnifal Geiriau Wrecsam

    Mae rhaglen Carnifal Geiriau Wrecsam 2018 wedi’i chyhoeddi ac mae’n fwy ac yn well nag erioed.

    Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae’r rhestr gwesteion yn cynnwys sêr fel awdur llwyddiannus The Sunday Times, C.L Taylor, yr awdur ifanc Emma Carroll, a’r nofelydd trosedd llwyddiannus Vaseem Khan, felly ni fydd selogion llenyddol yn cael eu siomi!

    Cynhelir digwyddiadau mewn lleoliadau ar draws Wrecsam rhwng dydd Sadwrn, 21 Ebrill a dydd Sadwrn, 28 Ebrill.

    Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2015, gydag amrywiaeth gynyddol o ddigwyddiadau, sydd wedi bod yn boblogaidd gyda phobl leol.

    Meddai Shan Cooper, Arweinydd Llyfrgelloedd, “Rydym yn gyffrous iawn am y rhaglen sydd wedi ei rhoi at ei gilydd a hoffwn annog unrhyw un sydd wrth eu bodd â llyfrau ac ysgrifennu i ymuno â ni yn ystod yr wythnos. Yn bendant, mae yna rywbeth at ddant pawb.”

    Lawrlwythwch y rhaglen lawn yma

    Awydd datrys dirgelwch?
    Yn ôl oherwydd galw mawr, bydd Llyfrgell Wrecsam yn cynnal digwyddiad Dirgelwch Llofruddiaeth fel rhan o’r carnifal, sy’n sicr o fod yn llwyddiant arall. Eleni, y dirgelwch yw The Wenlock Mummy gan Elly Griffiths (ymchwiliad Dr Ruth Galloway). Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 25 Ebrill am 7pm. Cofiwch gael eich tocynnau’n fuan!

    Dathlu’r gair llafar
    Awydd arddangos eich gwaith mewn noson sy’n dathlu’r gair llafar? Cynhelir Viva Voce, noson meicroffon agored ar gyfer beirdd ac ysgrifenwyr, yn Saith Seren nos Iau, 26 Ebrill am 7.30pm.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Digwyddiad gwych yn Tŷ Pawb!
    Mae dau hanner y tîm o awduron trosedd gorau a elwir yn Nicci French (Nicci Gerrard a Sean French) wedi bod yn hynod o lwyddiannus ers dros ugain mlynedd. Byddan nhw’n siarad am heriau amrywiol eu bywyd ysgrifennu: y cefndir i’w nofelau ias a chyffro seicolegol; creu cyfres Frieda Klein a’r her o gydweithredu llenyddol – tra’n aros yn briod!

    Os yw hyn yn codi archwaeth arnoch – beth ydych chi’n aros amdano? Ewch i nôl eich tocynnau heddiw!

    Mae prisiau tocynnau’n amrywio ond mae llawer o ddigwyddiadau’n rhad ac am ddim. Gallwch eu prynu o Lyfrgell Wrecsam neu ar-lein drwy wefan Cyngor Wrecsam. Mae mwy o fanylion a’r rhaglen lawn ar gael ar www.wrexhamcarnivalofwords.com neu dilynwch yr ŵyl ar Facebook a Twitter, #GwylGeiriauWrecsam.

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Hwyl Dydd Gŵyl Dewi

    Hwyl Dydd Gŵyl Dewi

    Gyda chymorth Menter Iaith Fflint a Wrecsam bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi ddydd Iau, 1 Mawrth.

    Yn ogystal â’r orymdaith flynyddol, ddydd Sadwrn 3 Mawrth, mi fydd yna hefyd garnifal llawn hwyl.

    Ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd yr orymdaith flynyddol yn cynnwys cannoedd o ddisgyblion cynradd, bandiau pres a sefydliadau amrywiol.

    Bydd yr orymdaith yn ymgynnull y tu allan i Neuadd y Dref am 12.45yp ac yn cychwyn yn brydlon am 1pm dan arweiniad Band Cambria.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Bydd pawb yn gorymdeithio drwy’r dref ac yn ôl i Sgwâr y Frenhines, lle bydd disgyblion ysgolion lleol yn perfformio a phawb yn ymuno i gyd-ganu Calon Lân a’r anthem genedlaethol dan gyfeiliant Band Pres Hŷn Sir Wrecsam. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni ar hyd y ffordd.

    “Croeso cynnes i bawb”

    Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam: “Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb cymryd rhan yn yr orymdaith gysylltu â ni, yn unigolion, ysgol, cymdeithas neu glwb ieuenctid lleol.”

    Meddai’r Cyng. John Pritchard, Maer Wrecsam: “Mae gorymdaith flynyddol Dydd Gŵyl Dewi yn ddigwyddiad poblogaidd iawn yn Wrecsam ac ni fydd y dathliadau eleni yn eithriad.

    “Hoffaf ddiolch i Fenter Iaith a swyddogion Cyngor Wrecsam am drefnu’r digwyddiad hwn, a hoffaf estyn croeso cynnes iawn i bawb sy’n dymuno cymryd rhan.”

    Wrth ddynesu at y digwyddiad, mi fydd yna hefyd gystadleuaeth ffenestr orau ac anogir busnesau i addurno eu ffenestri i gyd-fynd â thema Dydd Gŵyl Dewi. Bydd y busnes gyda’r ffenestr orau yn ennill tlws.

    Os hoffech chi gymryd rhan yn yr orymdaith neu’r gystadleuaeth ffenestr orau, cysylltwch â Gwen Smith, Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744040 neu gwen@menterfflintwrecsam.cymru.

    Mwy o hwyl ar 3 Mawrth

    Mi fydd yna fwy o hwyl a gemau ar Sgwâr y Frenhines ddydd Sadwrn, 3 Mawrth, o 10am tan 4pm.

    Gwahoddir teuluoedd ac ymwelwyr i ddod draw ac ymuno â’r hwyl, sy’n cynnwys adloniant gan y cyfansoddwyr a’r cantorion Danielle Lewis a Meilir Tomos, a Chôr Daw (côr o ddysgwyr Cymraeg).

    Mi fydd yna hefyd sioe Pwnsh a Jwdi ddwyieithog, swynwyr dwyieithog, arddangosfeydd coginio gyda’r enwog Dai Chef a gweithgareddau celf a chrefft a pheintio wynebau am ddim.

    Ar ben hynny, bydd amrywiaeth o stondinau, gan gynnwys King Street Coffee, Oriel Wrecsam, Bragdy Llangollen, Cowbois a llawer, llawer mwy.

    Meddai Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Mae gorymdaith flynyddol Dydd Gŵyl Dewi wastad yn denu cannoedd o bobl i ddathlu popeth Cymreig, ond eleni mae arnom ni eisiau gwneud i’r dathliadau bara’n hirach a chynnal diwrnod llawn hwyl ar y dydd Sadwrn. Mae’r digwyddiad dydd Sadwrn yn mynd i fod yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan.

    “Bydd yn gyfle gwych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a chlywed canu Cymraeg a’r Gymraeg yn cael ei siarad yng nghanol Wrecsam.”

    Mae’r dathliadau hyn yn rhan o sawl digwyddiad amrywiol sy’n cael ei gynnal ar hyd a lled Cymru i ddathlu ein nawddsant, felly cofiwch ddefnyddio’r hashnod #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau ac i ddilyn y digwyddiad drwy gydol y dydd.

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • BETH SY’N GWAHANOL am YR ADNEWYDDAU NEWYDD yma..

    BETH SY’N GWAHANOL am YR ADNEWYDDAU NEWYDD yma..

    Mae cynllun tai newydd wedi’i anelu at gyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag angen o ran tai yn agos i gael ei gwblhau.

    Mae Tŷ Ryan ar Ffordd Croesnewydd yn Wrecsam, yn cynnwys 16 fflat ac yn debyg o dderbyn ei denantiaid cyntaf ym mis Mawrth.

    Wrth i’r cynllun gael ei adeiladu, rhoddwyd y cyfle i gyn-aelodau’r lluoedd arfog gymryd rhan yn y gwaith adeiladu a sicrhau cymwysterau yn ogystal â sgiliau crefftwyr gwerthfawr.

    Mae 8 o gyn-aelodau’r lluoedd arfog wedi llwyddo i gymryd rhan yn y cynllun ac maent bellach wedi cael cynnig fflatiau ar y datblygiad y gwnaethant helpu i’w adeiladu.

    Mae disgwyl iddynt symud i mewn i’w cartrefi newydd ym mis Mawrth.

    Dyma’r prosiect cyntaf o’r math hwn i ddigwydd yng Nghymru.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Y Cyng. David Griffiths (Aelod Arweiniol Lle – Tai), Richard Lloyd (Cyfarwyddwr Gweithrediadaus – First Choice Housing Association), Mike Bellamy (Community Self Build Agency), Maureen Lee (Swyddog Tai Fforddiadwy – CBSW)

    Partneriaeth lwyddiannus

    Mae’r cynllun wedi cael ei ddatblygu diolch i bartneriaeth lwyddiannus rhwng Cyngor Wrecsam, a ddarparodd y tir, Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, a reolodd y gwaith adeiladu ar y cynllun, a’r Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol sydd wedi monitro’r hunan-adeiladwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.

    Mae’r gwaith adeiladu ei hun yn cael ei wneud gan Williams Homes, y Bala.

    Trefnwyd taith dywys o amgylch y safle adeiladu yn ddiweddar ar gyfer grŵp bychan gan gynnwys yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths.

    Dywedodd y Cyng. Griffiths: “Rydw i wedi cael fy mhlesio’n fawr gyda’r hyn rwyf wedi ei weld heddiw a’r cynllun yn gyffredinol. Rydym yn datblygu tai modern o safon uchel ar gyfer rhai o’r rhai hynny sydd eu hangen fwyaf. Bydd nifer o gyn-aelodau’r lluoedd arfog a fydd yn byw yma wedi dod o sefyllfaoedd anodd gan gynnwys bid yn ddigartref.

    “Ers i ni lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2013, mae Cyngor Wrecsam wedi gweithio’n galed i gryfhau ein cysylltiadau gyda’r lluoedd arfog ac rwy’n credu fod llwyddiant y cynllun hwn a sut y mae’r rhai a gymerodd ran wedi gallu elwa drwy hyfforddiant, cymwysterau a chefnogaeth ar gyfer gwaith yn dystiolaeth o’n hymrwymiad i hyn.”

    Dywedodd yr Aelod Lleol dros Frynyffynnon, y Cynghorydd Phil Wynne: “Mae gan gynlluniau tai newydd fel yr un yma ran hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â phrinder tai. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gweithio mor llwyddiannus mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau i ddatblygu cynllun a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i dai yn yr ardal.”

    Ymrwymiad a gwaith caled ‘a ddangosir gan yr hunan-adeiladwyr

    Ariannwyd Tŷ Ryan drwy Gronfa Llety Cyn-filwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, a grëwyd o gronfa Libor. Mae hwn yn grant i helpu cyn-aelodau’r lluoedd arfog i gael mynediad i dai a gwasanaethau cefnogi ar ôl gadael y lluoedd arfog. Dyrannwyd cyfanswm o £2.263 miliwn ar gyfer cynlluniau yn Wrecsam.

    Dywedodd Ken Hames o’r Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol: “Ar ran yr Asiantaeth, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi llwyddo i sicrhau fod yr her hon yn dwyn ffrwyth.

    “Un o gonglfeini’r cynllun yw ei fod yn creu cymuned gynaliadwy, yn arbennig yn sgil y strategaeth hunan-adeiladu sy’n trawsnewid bywydau cyn-aelodau’r lluoedd arfog.

    “Mae’r hunan-adeiladwyr sydd wedi gweithio gyda ni ar y prosiect wedi rhoi ymroddiad aruthrol i ymgysylltu gyda ni a bod yn broffesiynol a gweithgar ar y safle ac rydym yn falch iawn ohonynt. Mae’n werth chweil i weld y prosiect yn dod at ei gilydd rŵan ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn symud i mewn i’w cartrefi newydd.”

    Dywedodd Richard Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Tai Dewis Cyntaf: “Rydym wedi bod yn falch iawn i gael gweithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Wrecsam a’r Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol ar brosiect mor arloesol a blaengar. Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gyda’r cynnydd ar y safle ac mae’n gyffrous fod gennym 8 o hunan-adeiladwyr sydd ar fin symud i mewn i’w cartrefi ym mis Mawrth gydag un arall ar y rhestr aros am fflat addas.

    Rydym yn derbyn ceisiadau gan unrhyw gyn-aelodau’r lluoedd arfog felly byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud cais am fflat i gysylltu â ni.”

    Sut i wneud cais

    Ydych chi’n:

    • Cyn-aelod o’r lluoedd arfog
    • Perthyn i gyn-aelod o’r lluoedd arfog
    • Cysylltiad drwy briodas â chyn-aelod o’r lluoedd arfog
    • Os felly, cysylltwch 02920 713765 neu 02920 713752
    • wrexhamhousing@fcha.org.uk

    Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

    • Cofrestriad cyflym a syml yn cymryd dim mwy na 15 munud
    • Caniatewch 4-6 wythnos ar gyfer y broses ymgeisio lawn

    Mae tai ar gael ar gyfer:

    • Pobl mewn gwaith neu ddi-waith
    • Pobl sengl a Theuluoedd
    • Rhenti fforddiadwy

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Pêl-droedwyr ifanc yn brwydro mewn gêm ryngwladol

    Pêl-droedwyr ifanc yn brwydro mewn gêm ryngwladol

    Cynhaliwyd Twrnameintiau Pêl-droed Ysgolion Cynradd gan Dîm Pobl Ifanc Egnïol, Wrecsam Egnïol, ar dir The Rock, cartref Derwyddon Cefn, cyn gêm Bechgyn Ysgol Dan 18 oed Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

    Cymerodd wyth ysgol ran mewn twrnamaint Blwyddyn 5 a 6, a chymerodd pum ysgol ran mewn twrnamaint Blwyddyn 3 a 4, gydag ysgolion cynradd gan gynnwys Cefn Mawr, Rhosymedre, Penycae, Maes y Mynydd, Santes Fair Owrtyn, Maes y Llan, Deiniol a Madras, gyda mwy na 100 o ddisgyblion yn cymryd rhan.

    Roedd dau dîm o bob twrnamaint yn gymwys i gymryd rhan yn y rowndiau terfynol, a gynhaliwyd ar noson y gêm Bechgyn Ysgol Cymru.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Yn y twrnamaint Blwyddyn 3 a 4, curodd tîm Cefn Mawr dîm Maes y Llan ac yn nhwrnamaint Blwyddyn 5 a 6, tîm Penycae oedd yr enillwyr yn erbyn Maes y Mynydd.

    Yna, estynnwyd gwahoddiad i ddisgyblion aros i wylio’r gêm bechgyn ysgol dan 18 oed, a enillwyd 2-1 gan Weriniaeth Iwerddon. Cynhaliwyd cyflwyniad ar y cae yn ystod yr egwyl hanner amser, a cafodd y timau buddugol eu tlysau.

    Dywedodd John Mann, Cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru: “Roedd yn wych gweld cymaint o ysgolion yn cymryd rhan yn y rowndiau terfynol ac yn mwynhau eu hunain ar noson y gêm. Rydym yn sicr yn bwriadu gwneud rhagor o waith gydag ysgolion yn ardal Wrecsam yn y dyfodol.

    “Rydym yn ddiolchgar i Derwyddon Cefn am gynnal y gêm. Roedd cynulleidfa wych ac roedd gwir synnwyr o gymuned yno gyda chymaint o blant a rhieni yn bresennol.”

    Dywedodd Tudor Jones o Derwyddon Cefn a Swyddog Cyswllt Bechgyn Ysgol Cymru ar gyfer y gem: “Mae gennym berthynas waith dda gyda staff Wrecsam Egnïol ac roeddem yn falch o weld cymaint o ddisgyblion ysgol yn defnyddio’r cyfleuster yn y twrnameintiau cyn y gêm, a hefyd yn y rowndiau terfynol gyda’r nos. Roedd yn ddigwyddiad ardderchog, ac roedd presenoldeb gwych ar noson y gêm.

    Hoffwn longyfarch yr enillwyr, Cefn Mawr a Penycae, yn ogystal â’r holl ysgolion eraill o’r ardal leol a gymerodd ran. Rydym yn gobeithio eu gweld i gyd eto mewn twrnameintiau a gemau yn y dyfodol agos.”

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Ateb tymor byr neu broblem hir dymor?

    Ateb tymor byr neu broblem hir dymor?

    Mae’r cogydd enwog Jamie Oliver wedi treulio misoedd yn ymgyrchu i gael y llywodraeth i atal cwmnïau rhag gwerthu diodydd egni i bobl ifanc o dan 16 oed.

    Beth am ddarganfod pam eu bod mor ddrwg i’ch iechyd a sut y gallent effeithio addysg eich plentyn.

    Os ydych yn yrrwr blinedig neu’n berson yn eich arddegau gyda dant melys mae diod egni wedi’i baratoi ar eich cyfer ond ydych chi’n ymwybodol o’r effaith y mae’r ddiod yn ei gael ar eich corff?

    Yn y lle cyntaf mae diodydd egni yn cynnwys lefelau uchel o gaffein ac wedi’u marchnata i wella ein perfformiad corfforol a meddyliol. Swnio fel ychwanegiad da i ddiet tydi??

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Y broblem yw bod caffein yn ysbarduno’r ymennydd a’r corff trwy fenthyca egni o’n cronfeydd wrth gefn. Pan fydd yr egni hwn yn dod i ben rydym yn mynd yn swrth ac wedi blino, felly beth fyddwn ni’n ei wneud wedyn? Rydym yn yfed mwy o gaffein i godi ein lefelau egni unwaith eto. Gall hyn arwain at batrwm peryglus a dyma’r rheswm pam fo Jamie Oliver wedi dweud bod y diodydd hyn yn rhai na ellir rhoi’r gorau iddynt ar ôl dechrau eu hyfed yn rheolaidd.

    Mae’r GIG yn argymell na ddylai oedolyn yfed neu fwyta mwy na 400mg o gaffein bob diwrnod (mae’n llawer llai ar gyfer pobl ifanc), ond mae cymaint â 500mg o gaffein mewn un ddiod egni! Mae diodydd egni wedi cael eu marchnata i apelio at bobl ifanc gan ddefnyddio lliwiau llachar, blasau poblogaidd a logos atyniadol. Yn gyfreithiol nid oes gofyniad i’r caniau ddangos cyfanswm y caffein ym mhob diod OND yr hyn sydd ar y caniau yw bod y diodydd ddim yn cael eu hargymell ar gyfer pobl ifanc o dan 16 oed!

    Yn ogystal â chaffein mae’r diodydd hyn yn cynnwys cyfansymiau helaeth o siwgr – oddeutu 15 llwy de o siwgr mewn can 500ml. Yn y tymor byr, ac yn gymedrol, gall siwgr fod yn adnodd defnyddiol o egni.  Ar y llaw arall mae gormod o siwgr yn gallu arwain at y risg o ordewdra, clefyd y galon, diabetes math II a phydru’r dannedd.

    Yr oll y mae hyn yn ei ddangos yw bod diodydd egni gyda’u lefelau uchel o siwgr a chaffein ar y pegwn arall yn llwyr o’r hyn yr ydym yn fod i’w hystyried yn ddiodydd iach ac sy’n dda i ni.

    Mae Jamie Oliver yn galw ar yr ysgrifennydd iechyd, Jeremy Hunt i wahardd y weithred o werthu diodydd egni i bobl ifanc o dan 16 oed ac wedi creu partneriaeth â’r Undeb Addysg Cenedlaethol i ddangos yr effaith negyddol ar safonau addysg.   Mae athrawon wedi datgan bod eu plant “dan ddylanwad” ac yn amhosib eu dysgu, ac wedyn ar ôl i effaith y ddiod ddod i ben maent yn swrth ac yn edrych fel eu bod heb gael noson call o gwsg ers wythnos. Mae hyn yn rhwystredig iawn i’r broses ddysgu.

    Os mai egni sydd ei angen arnoch, bydd torri caffein o’ch diet yn ddechrau da ac felly gallwch ddibynnu ar eich adnoddau egni naturiol eich hun. Mae diet cytbwys, cwsg o ansawdd da ac ymarfer corff yn rheolaidd i gyd yn gallu rhoi hwb i’n lefelau egni gan wneud hynny’n effeithiol ac yn naturiol. Un o’r arwyddion cyntaf o ddiffyg hylif yw blinder ond yn lle yfed diod egni sy’n rhoi’r ateb tymor byr i chi beth am yfed dŵr sydd yn llawer mwy buddiol yn yr hirdymor, yn hydradu’r meddwl a’r corff, gwneud i chi deimlo yn llai blinedig ac yn cyfrannu at fyw bywyd iachach.

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Newidiadau i weithredwyr bysiau ysgol

    Newidiadau i weithredwyr bysiau ysgol

    A yw eich plant yn defnyddio bysiau ysgol?

    Os ydynt yn eu defnyddio, mae’n bosibl yr hoffech gael gwybod am yr isod sef manylion am ddarparwyr newydd ar gyfer y teithiau bws ysgol.

    Nid oes newid i fannau casglu nac amseroedd, felly peidiwch â phoeni am newidiadau i’r amserlenni eu hunain – dim ond newid yw hwn i’r cwmnïau hynny sy’n gweithredu’r teithiau bws.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Dylai disgyblion barhau i ddefnyddio eu tocynnau bws dilys gwreiddiol.

    Os oes angen tocyn newydd yn lle un blaenorol, ewch i  Galw Wrecsam yn Stryt yr Arglwydd, Wrecsam neu ffoniwch 01978 298989. Mae ffi o £5 am unrhyw docyn newydd.

    Mae’r darparwyr newydd fel a ganlyn:

    Ysgol Morgan Llwyd

    563W Ardal Gwersyllt – STRAFFORDS COACHES

    Sant Joseph/ Santes Fair

    567F Ardal Brymbo – PATS COACHES

    567H Ardal Gresffordd – E JONES A’I FAB

    567Q Ardal Coedpoeth – UNICORN TRAVEL

    Ysgol Gynradd Gymunedol Garth

    195B Ardal Trefor – E JONES A’I FAB

    Bro Alun, Plas Coch, a Bodhyfryd

    440X Ardal Merffordd / Llai PATS COACHES

    440Y Ardal Tanyfron PATS COACHES

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Cyfle i’r merched gyd-chwarae

    Cyfle i’r merched gyd-chwarae

    Cafodd dros 80 o ferched o wyth ysgol uwchradd wahanol yn y sir gyfle i gystadlu mewn Twrnamaint Pêl-Droed Merched ym Mharc y Glowyr, Wrecsam.

    Roedd y digwyddiad, a gafodd ei drefnu gan Dîm Pobl Ifanc Egnïol Wrecsam Egnïol a Sefydliad Cymunedol Cae Ras Clwb Pêl-Droed Wrecsam, yn dilyn 10 wythnos o sesiynau hyfforddiant gan Sefydliad Cymunedol y Cae Ras.

    Bu i ferched o Ysgolion Clywedog, Darland, y Grango, Morgan Llwyd, Llannerch Banna, Rhiwabon, Rhosnesni a Sant Joseff gymryd rhan yn y twrnamaint.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Buddugoliaeth i Ysgol Morgan Llwyd

    Ysgol Morgan Llwyd ddaeth i’r brig, ar ôl curo Ysgol Darland yn y rownd derfynol, gydag Ysgol Llannerch Banna yn y trydydd safle.

    Gwahoddwyd yr enillwyr i wylio gêm gartref Clwb Pêl Droed Wrecsam yn erbyn Tref Halifax.

    Bydd y sesiynau hyfforddiant yn parhau i gael eu cynnal yn yr ysgolion drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda gemau eraill ar y gweill yn dilyn llwyddiant y twrnamaint hwn.

    Meddai Robert Darlington, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Wrecsam Egnïol: “Un o brif nodau Chwaraeon Cymru o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw annog a grymuso mwy o ferched i fod yn egnïol a chadw’n egnïol, felly mae ein tîm yn gweithio’n galed i ddarparu mwy o gyfleoedd i fwy o ferched yn Wrecsam gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rhan o hyn yw sicrhau bod medrau chwaraeon merched yn cael eu cydnabod, eu hannog eu meithrin.

    “Mae gennym ni berthynas dda gyda Sefydliad Cymunedol y Cae Ras ac rydym ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud i gyrraedd y nod a helpu merched ysgolion uwchradd fanteisio ar y gweithgareddau allgyrsiol sydd eu hagen arnyn nhw.”

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Lansiad llwyddiannus prosiect ADTRAC newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru

    Lansiad llwyddiannus prosiect ADTRAC newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru

    Gwnaeth bron dau gant o bobl fynychu lansiad diweddar prosiect ADTRAC newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn Wrecsam a Sir y Fflint.

    Roedd y ddau ddigwyddiad, a gynhaliwyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah a Chanolfan Adnoddau Plas Pentwyn yng Nghoedpoeth, Wrecsam, yn llawn mynychwyr o bob rhan o’r sectorau gwasanaethau addysg, iechyd, cyfiawnder troseddol, ieuenctid a chyflogaeth.

    Bu cynrychiolwyr o bob cwr o’r rhanbarth yn clywed sut mae tîm ADTRAC Dwyrain yn bwriadu cyrraedd targedau uchelgeisiol o gefnogi mwy na 300 o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) dros y ddwy i dair blynedd nesaf yn Wrecsam a Sir y Fflint.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Roedd amseriad y digwyddiadau yn cyd-daro ag ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol iechyd meddwl, Time to Talk, ar draws y DU, gan ystyried canolbwynt y prosiect i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i fynd i’r afael â’u materion iechyd meddwl fel rhwystrau i’w hymgysylltiad mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

    Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Mae lansio prosiect ADTRAC wedi bod yn llwyddiant go iawn ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, mae’r ddau ddigwyddiad wedi bod â phresenoldeb da iawn ac mae lefel y diddordeb yn y prosiect wedi bod yn rhyfeddol.

    “Fe fyddwn ni’n adeiladu ar y llwyfan sydd wedi’i greu drwy’r digwyddiadau hyn drwy barhau i weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth eang o sefydliadau lleol i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i ymgysylltu mewn cyfleoedd hyfforddiant, addysg a chyflogaeth mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.”

    Cyfleoedd newydd i bobl ifanc

    Mae’r prosiect newydd hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig cefnogaeth bersonol i bobl ifanc oresgyn rhwystrau a helpu eu datblygiad i waith, addysg neu hyfforddiant.

    Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth un i un gan fentoriaid ADTRAC personol neu ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yn ogystal â hyfforddiant a chyrsiau wedi’u teilwra a ddyluniwyd i ddiwallu anghenion penodol pobl ifanc sy’n ymgysylltu yn y prosiect.

    Gwaith partneriaeth

    Caiff ADTRAC ei arwain gan Grŵp Llandrillo Menai ar draws Gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.

    Fe fydd y prosiect yn seiliedig ar atgyfeiriadau ac mae wedi’i ddylunio i gefnogi gwasanaethau presennol drwy hyrwyddo dull cydweithredol a chydweithio gyda sefydliadau ar draws y rhanbarth.

    Dywedodd Sara Williams, Rheolwr Rhanbarthol 16-24 ADTRAC: “Mae ADTRAC yn fenter £10.4m a gaiff ei harwain gan Grŵp Llandrillo Menai, a’i darparu gan chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    “Trwy ddarparu mynediad i gyngor a chefnogaeth dibynadwy a gweithio ochr yn ochr â phartneriaid a chyflogwyr, bydd ADTRAC yn sicrhau bod oedolion ifanc yn cael y cyfle gorau posibl i oresgyn y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu ac i gymryd rhan yn effeithiol mewn cymdeithas drwy sicrhau canlyniad cadarnhaol.”

    Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yn https://www.gllm.ac.uk/adtrac/?LangType=1106 neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint yn: ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau yn ogystal â hunanatgyfeirio.

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Magu hyder i ddysgu rhywbeth newydd

    Magu hyder i ddysgu rhywbeth newydd

    Ydych chi’n ystyried mynd yn ôl i weithio?

    Neu’n chwilio am gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac i fagu hyder?

    Mae’r rhaglen ‘Hyder i Ddysgu’ yn brosiect peilot a fydd yn gyfrifol am ddysgu teuluoedd a’r gymuned mewn canolfannau lleol ar draws ardaloedd gwledig Wrecsam, gyda’r bwriad o wella rhyngweithiad rhwng cenedlaethau, magu hyder a rhoi cyfleoedd i bobl a allai arwain at gyflogaeth yn y dyfodol.

    Dywedodd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Bydd y cyrsiau yn cynnwys elfennau a fydd yn gwella sgiliau sylfaenol, magu hyder, pendantrwydd a datblygu sgiliau newydd yn ymwneud  â chyflogaeth.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Byddwn yn gwrando ar ddysgwyr ac yn sicrhau ein bod yn cyflwyno’r gweithdai o’u dewis. Cynhelir y cyrsiau mewn grwpiau bychain a bydd nifer o bynciau gwahanol o goginio prydau iach i sgiliau cyfrifiadurol.

    “Y gobaith yw bod croestoriad o’r gymuned yn cofrestru ar y cyrsiau hyn ac yn golygu y bydd gwybodaeth yn cael ei rannu ymysg cenedlaethau, cefndiroedd a phrofiadau ac yn annog pobl i godi eu dyheadau personol gyda’r nod yn y pen draw o fod mewn cyflogaeth.”

    Ers Medi 2017, mae gweithdai a dosbarthiadau ymgynghori cymunedol wedi’u cynnal yng Nghanolfan Goffa Brynteg, Plas Pentwyn, Coedpoeth, Gwersyllt a Chanolfannau Adnoddau Parc Llai.

    Mynychodd Julie Williams y gweithdy Picnic Tedi Bêrs er mwyn dysgu fel teulu ac ymgynghori a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Brynteg, meddai:  “Dyma gyfle gwych i gymryd rhan mewn gweithdy crefftau gyda fy merch ac i gwrdd â theuluoedd eraill.

    “Yn y gweithdy cefais y cyfle i fynegi barn ynglŷn â beth sydd ei angen yn ein cymuned  a hefyd beth sydd gennyf ddiddordeb dysgu amdano.

    “Credaf ei fod yn brosiect da iawn i helpu pobl fagu hyder ac i’r rhai hynny sy’n meddwl am fynd yn ôl i addysg neu waith ac eisiau gwella eu cyfleoedd cyflogaeth.”

    Mae rhagor o weithdai yn cael eu cynnal yn y canolfannau adnoddau yn y misoedd i ddod – cysylltwch â’r canolfannau am fwy o wybodaeth ac i edrych allan am ein gweithdai hanner tymor sy’n cynnwys dosbarthiadau coginio yr Academi Cogyddion Iau!

    Mae plant wedi cymryd rhan yn barod mewn Academi Cogyddion Iau at Blas Pentwyn, Coedpoeth, wedi ei arwain gan Brif Gogydd Paul Cooper. Gwelwch y fideo yma:

    Mae tîm Busnes a Buddsoddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

    Am fwy o wybodaeth ar unrhyw un o’r gweithdai hyn cysylltwch â’r Tîm Busnes a Buddsoddiad ar 01978 667300 neu anfonwch e-bost business@wrexham.gov.uk

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Amgylcheddwyr blaengar yn lansio digwyddiad rhwydweithio

    Amgylcheddwyr blaengar yn lansio digwyddiad rhwydweithio

    Lansiodd yr Athro Chris Baines, un o amgylcheddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU ac Is-Arlywydd yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Rwydwaith Busnes Amgylchedd newydd i Wrecsam ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam ar 9 Chwefror.

    Gyda chynulleidfa o dros 50 o bobl o dros 30 sefydliad ar draws ardal Wrecsam, amlinellodd yr Athro Baines ei achos busnes ar gyfer gwarchod natur ar ein stepen drws.

    Dywedodd: “Mae’r Ystâd Ddiwydiannol yn un o’r rhai mwyaf yn Ewrop, ond mae hefyd yn cynnwys rhwydwaith pwysig o gynefinoedd bywyd gwyllt sy’n cefnogi ystod eang o anifeiliaid.

    “Mae rhywogaethau pwysig sydd i’w canfod yma yn cynnwys llygoden bengron y dŵr, y dyfrgi, rhywogaethau amrywiol o’r ystlum, gloÿnnod byw o’r math Gwibiwr Brith a’r math Gwibiwr Llwyd, madfall ddŵr gribog, y dylluan wen a Glas y Dorlan. Mae cornicyllod yn nythu ar doeon yr unedau diwydiannol hyd yn oed.”

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Roedd Makena Lohr, o’r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy hefyd yn esbonio yn y digwyddiad sut y gall mannau gwyrdd wella lles yn y gweithle ac arddangos prosiect Coedwig GIG a’r momentwm mae’n ennill ar draws y DU: “Mae cyfoeth o dystiolaeth yn cysylltu mannau gwyrdd gydag iechyd a lles gwell. Mae Coedwig GIG yn gweithio gyda sefydliadau gofal iechyd i agor eu mannau gwyrdd i gymunedau lleol ac i hybu gwell defnydd o’r amgylchedd naturiol gan staff a chleifion.”

    Ar lefel fwy lleol, dywedodd Jonathan Hulson o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, wrth y gynulleidfa am Brosiect Tirluniau Byw Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam: “Mae Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn cynnig cyfle gwych i integreiddio busnes, diwydiant a phobl yn iawn gyda bywyd gwyllt mewn amgylchedd waith ac mae potensial i fod yn safle batrwm, ar gyfer integreiddiad llwyddiannus y tri philer o ddatblygiad cynaliadwy: Cymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol, a allai fod o help yn gosod Cymru ar flaen datblygiad cynaliadwy o’r fath yn Ewrop.”

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    Esboniodd Kieran Foody, Rheolwr Amgylcheddol Rowan Foods ar yr ystâd ddiwydiannol sut mae eu cwmni wedi elwa o weithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar y prosiect ac amlinellodd Ed Lawrence o United Utilities y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau i’w helpu i ddiogelu ansawdd dŵr.

    Mae’r grŵp rhwydweithio newydd hwn wedi cael ei sefydlu gan Dîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac wedi derbyn nawdd ar gyfer y prosiect hwn drwy Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

    Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Medi, am ragor o wybodaeth ar hyn a rhwydweithiau busnes eraill ar draws Wrecsam cysylltwch â’r Tîm Busnes a Buddsoddi ar 01978 667300 neu anfonwch neges e-bost i business@wrexham.gov.uk

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]