Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n ariannu GOGDdC i ddarparu’r gwasanaeth gofalwyr ledled Wrecsam, ac yn cydweithio i sicrhau bod cynifer o ofalwyr â phosib yn cael eu cyrraedd, eu cefnogi ac yn ymwybodol o’r hawliau sydd ganddynt fel gofalwyr di-dâl.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Hawliau fel gofalwr di-dâl
Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr (a gynhelir ar 25 Tachwedd eleni) yn ymgyrch flynyddol sy’n anelu i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl.
Mae’r pandemig Coronafeirws wedi ei gwneud yn bwysicach nag erioed i ofalwyr di-dâl fod yn ymwybodol o’u hawliau gan fod mynediad i wasanaethau a chael cydbwysedd rhwng gwaith a gofal wedi dod yn llawer mwy caled. Mae gwasanaeth gwybodaeth i ofalwyr gogledd ddwyrain Cymru (GOGDdC) (sy’n darparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl ledled gogledd ddwyrain Cymru) wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr trwy’r anawsterau hyn.
“Make Yourself Known”
Eleni mae gan yr ymgyrch hashnod cyfryngau cymdeithasol newydd #MakeYourSelfKnown – dylai dilyn y hashnod ei gwneud yn haws i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar hawliau gofalwyr, yn ogystal â’r cyfle i weld digwyddiadau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r hashnod.
Mae GOGDdC yn cefnogi’r ymgyrch bob blwyddyn; ac yn anelu i rymuso gofalwyr gyda gwybodaeth a chefnogaeth amserol.
Os ydych yn ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am rywun am gyfnod, mae’n bwysig eich bod yn deall eich hawliau ac yn gallu cael y gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Os bydd GOGDdC yn ymwybodol ohonoch bydd yn golygu y byddwch yn cael gwybodaeth berthnasol, cefnogaeth, hyfforddiant a chwnsela un i un.
Cynllunio angladd a chefnogaeth brofedigaeth
Thema eleni yw ‘trefnu angladd a chefnogaeth brofedigaeth’. Nid rhywbeth rydym fel arfer yn siarad amdano neu’n hoffi meddwl amdano – fodd bynnag os yw GOGDdC yn ymwybodol ohonoch gallant eich helpu i deimlo’n llai pryderus trwy gynnig cefnogaeth a chyngor os oes angen.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Os ydych yn ofalwr i rywun, yna mae gwybod eich hawliau yn bwysig. “Gall GOGDdC eich helpu gyda chefnogaeth a gwybodaeth felly cysylltwch â nhw.”
I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan GOGDdC
I gael cefnogaeth gyda’ch gwaith gofalu, i ddefnyddio ein gwasanaethau neu i holi ynglŷn â phynciau yn yr erthygl hon cysylltwch â GOGDdC ar 01352 752525 neu enquiries@newcis.org.uk
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL