Mae contractwyr tai wedi adnewyddu cyfleusterau cegin mewn canolfan gymunedol.
Mae contractwyr CLC wedi diweddaru’r gegin yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Gresffordd a Phandy.
Roedd cegin flaenorol y clwb oddeutu 30 mlwydd oed, ac roedd aelodau o’r farn bod angen cegin newydd.
Daethant atom i weld a fyddai modd gwneud unrhyw waith drwy’r cynllun Mantais Gymunedol, sy’n golygu bod contractwyr sy’n gweithio ar eiddo’r cyngor yn cynnal gwaith am ddim neu’n darparu deunyddiau am ddim i brosiectau cymunedol, megis clybiau neu gyfleusterau lleol.
“Roeddem wir angen cegin newydd”
Dywedodd Thomas Roberts, ysgrifennydd y clwb: “Sylwais yn y wasg fod gwaith yn cael ei wneud o fewn rhai cymunedau yn Wrecsam gan gontractwyr a oedd yn gweithio i Gyngor Wrecsam, felly gofynnom i Chris Jones, rheolwr contractau’r Cyngor, i weld a fyddai modd i ninnau wneud yr un fath.
“Dywedodd, pan fo’r gwaith wedi’i gwblhau yn ein pentref, ei fod yn credu y gallai’r contractwr, drwy’r Cynllun Mantais Gymunedol, ddarparu cegin newydd ar ein cyfer.
“Roedd y gegin oddeutu 30 mlwydd oed ac roeddem wir angen cegin newydd.
“Rydym bob amser yn awyddus i wella’r clwb yn cynnwys y lawnt fowlio a fyddai’n elwa o gael ei thwtio. “
Ychwanegodd: “Diolchwn i Gyngor Wrecsam a CLC am y gegin newydd – bydd pawb yn elwa ohoni.”
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Rwyf yn falch iawn o weld y gwelliannau hyn i Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol Gresffordd a Phandy.
“Rwyf hefyd yn falch o glywed bod y gwelliannau hyn wedi bod o fudd i’r clwb, a hoffwn ddiolch i CLC am y gwaith – rwy’n siŵr y bydd defnyddwyr y clwb yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau newydd.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN