Mae Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru wedi’i ailenwi a’i enw nawr yw’r Grant Datblygu Disgyblion.
Am y tro cyntaf, bydd dysgwyr yn y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7, sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, neu sy’n blant sy’n derbyn gofal, yn dod o fewn cwmpas y cyllid.
Yn wahanol i’r grant gwisg ysgol blaenorol, bydd yr holl blant sy’n derbyn gofal yn y grwpiau blwyddyn hyn yn cael eu cynnwys, gan adlewyrchu’r rhwystrau penodol y bydd y grŵp hwn o ddysgwyr yn eu hwynebu o ran eu haddysg.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd arian hyd at £125 ar gael fesul dysgwr, sy’n gynnydd ar y grant gwisg ysgol blaenorol.
I gydnabod yr amrywiaeth o gostau sy’n wynebu rhieni pan fydd eu plant yn dechrau’r ysgol ac i annog nifer uwch o’n dysgwyr dan anfantais i fanteisio ar weithgareddau ehangach, mae’r cyllid yn eang o ran cwmpas.
Ni fydd y cyllid hwn wedi’i gyfyngu i gefnogi cost gwisg ysgol; bydd yn cefnogi rhagor o ddyhead, cyfoethogiad diwylliannol, lles a gwydnwch drwy gwmpasu:
• Gwisg ysgol;
• Dillad chwaraeon ysgol;
• Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a guides;
• Offer ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau fel dylunio a thechnoleg; ac
• Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dillad gwrth ddŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION