Hoffech chi fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf i adrodd hanes Cymru?
Ydych chi wedi meddwl am yrfa yn gweithio mewn amgueddfeydd, cestyll, archifau neu
leoliadau diwylliannol?
Os felly, gallai’r Prosiect Uchelgais Ddiwylliannol fod yr union beth i chi.
Cyfle cyffrous
Mae’r rhaglen hyfforddi hon yn gyfle cyffrous i unigolyn ifanc sy’n dymuno dysgu am weithio yn y sector treftadaeth ddiwylliannol.
Bydd yr hyfforddeion yn treulio 12 mis mewn tri safle treftadaeth ddiwylliannol gwahanol a byddant yn cael bwrsariaeth o £800 y mis am bob mis o’r hyfforddeiaeth (Hydref 2019 – Medi 2020).
Bydd yr hyfforddeion yn gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Treftadaeth
Ddiwylliannol, a fydd yn cael ei gyflwyno yn y gwaith gyda chymorth Coleg Caerdydd a’r
Fro.
I wneud cais, bydd angen i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
- Rhwng 18-24 oed
- Ni ddylent fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
- Ni ddylent fod wedi graddio
Enw’r Mentor yw Amgueddfa Wrecsam, Archifau Wrecsam, Erddig.
Am fwy o wybodaeth ac yn ogystal â rhagor o wybodaeth ar sut i wneud cais ewch i: www.ccskills.org.uk/cultural-ambition
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN