Mae ailgylchu yn wych – ac nid am eich caniau, poteli a thuniau gwag yn unig yr ydym yn sôn…
Rydym yn sôn am offer chwaraeon, sugnwyr llwch, pramiau, dodrefn, beiciau, dodrefn gardd, DVDs, Blu-rays, cryno ddisgiau ac eitemau trydanol eraill…i enwi ond rhai!
Yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, mae siop wych lle mae modd i chi gael gafael ar fargen neu roi eitemau nad oes arnoch eu heisiau, a cofiwch hyn: mae’r cyfan yn mynd at achos da lleol!
Caiff y siop ailddefnyddio ei redeg gan Hosbis Tŷ’r Eos, ac ar 16 Tachwedd, dathlodd y drysorfa arbennig hon ei phen-blwydd yn ddwy oed.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Felly, os oes arnoch awydd ambell beth ychwanegol at y Nadolig, ewch draw i chwilota 🙂
Neu os oes gennych lanast sydd angen ei glirio, gallwch anfon eitemau nad oes arnoch eu hangen atynt…
Y naill ffordd neu’r llall, byddwch yn helpu achos teilwng iawn trwy gyfrannu i Tŷ’r Eos, ac hefyd yn rhoi bywyd newydd i eitemau da – gwych!
I’r sawl sydd yn anghyfarwydd â gwaith anhygoel Tŷ’r Eos, maent yn darparu gofal ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd yn rhad ac am ddim ar draws ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i Abermo a threfi’r gororau, yn cynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.
Bydd yr holl eitemau a roddir yn cael eu glanhau a’u profi o ran diogelwch cyn cael ei hail-werthu yn y siop ailddefnyddio. Fel y gallwch weld o’n fideo, mae digonedd o ddewis.
Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu. Mae ardal hefyd felly wedi ei neilltuo yn ein canolfannau ym Mrymbo a Phlas Madoc ar gyfer rhoi eitemau.
Os ydych yn ansicr o leoliad yr ardaloedd hyn, rhowch waedd i un o’n goruchwylwyr, ac fe fyddant yn medru eich cyfeirio i’r lle iawn.
Ond dyna ddigon o fan-siarad – rydym ni am fynd i chwilio am fargen. Welwn ni chi yn y man! 🙂
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU