Fel rhan o Wythnos Newid Hinsawdd 2020, dyma rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi am y gwaith sy’n mynd rhagddo i leihau allyriadau carbon, ac rydym yn hapus iawn â’r cynnydd rydym wedi’i wneud hyd yma.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Datganwyd Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ond roeddem yn gweithio’n galed cyn hynny i sicrhau ein bod yn talu sylw manwl i’n allyriadau carbon a’n rôl o ran annog ein trigolion a’n busnesau i wneud yr un fath. Mae’n gallu bod yn anodd gyda chyn lleied o adnoddau, ond mae’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma’n galonogol iawn.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
“Rydym hefyd wedi treialu cerbyd sbwriel trydanol ar ein gwasanaeth casglu yn ddiweddar, ac roedd y canlyniadau’n galonogol. Mae ein cerbydau gwastraff yn rhyddhau llawer o allyriadau carbon ac mae’n hanfodol ein bod yn ceisio newid ein cerbydau am beiriannau gwefru cyn gynted â phosibl.
“Mae ein gwaith yn yr amgylchedd, yn arbennig y dolydd blodau gwyllt a’r coed a blannwyd, yn sicrhau bod ecoleg a bioamrywiaeth wrth wraidd yr amgylchedd ac mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo yn y maes hwn.
“Rhan o’n rôl yw sicrhau bod yr isadeiledd yn barod i gefnogi Wrecsam mwy gwyrdd, sy’n rhydd o garbon, dyna pam ein bod wedi gosod mannau gwefru Cerbydau Trydan ar draws y fwrdeistref sirol.”
Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am leoliadau’r mannau gwefru hyn a sut rydym yn defnyddio paneli solar i gynhyrchu trydan er mwyn atal allyriadau carbon deuocsid niweidiol drwy danwydd ffosil.
Mae mannau gwefru trydanol bellach ar gael yn y meysydd parcio canlynol:
Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tŷ Mawr, Tŷ Pawb, y Byd Dŵr, Dyfroedd Alun, Ffordd yr Abaty, Ffordd Rhuthun, Stryt y Lampint, Tŵr Rhydfudr, Neuadd y Dref,
Byddwn yn gosod man gwefru cyflym iawn ym maes parcio’r Waun yn fuan – credir mai dyma fydd y man gwefru cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru a’r cyntaf i fod yn eiddo i awdurdod lleol, a gorsaf drenau Rhiwabon
Rydym hefyd wedi bod yn awyddus iawn i ddefnyddio Paneli Ffotofoltäig ac rydym wedi gosod 2675 o unedau ar ein tai domestig. Mae’r rhain wedi cynhyrchu digon o drydan i wneud 1,540,412,450 paned o de neu 308,082,490 awr o wylio’r teledu. Golyga hyn fod gorsafoedd pŵer wedi defnyddio llai o danwydd ffosil a llwyddwyd i atal 16,705,756 kg o allyriadau carbon deuocsid.
Rydym wedi’u gosod mewn 15 o’n hysgolion, ar Ffordd Rhuthun, Tŵr Rhydfudr a chanolfannau adnoddau Acton a Llai.
Mae’r rhain wedi cynhyrchu 94,868,300 paned o de neu 18,973,660 awr o wylio’r teledu, sydd wedi arwain at ostyngiad o 1,027,40 kg mewn carbon deuocsid.
Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi gosod solar 249kw newydd ar ein hadeilad ar Ffordd Rhuthun, sydd wedi arbed 60% ar fil trydan yr adeilad. Dyma ein prosiect diweddaraf, ac mae wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt. Hyd yma, mae wedi cynhyrchu digon o drydan i wneud 9,049,650 paned o de a 1,809,930 awr o wylio’r teledu ac wedi atal 97,917kg o garbon deuocsid rhag cael ei ryddhau i’r awyrgylch.
Am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim, digidol a rhyngweithiol dros un wythnos, lle gall unrhyw un sy’n angerddol am newid yn yr hinsawdd ymuno â sgyrsiau gyda llunwyr polisi cenedlaethol a byd-eang, ymgyrchwyr ac arloeswyr ynghylch sut y gellir mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Drwy gydol yr wythnos, bydd y sesiynau’n ymdrin â materion sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth, pobl ifanc, ysbytai ac ysgolion, yn ogystal â ffasiwn, busnesau, symudedd a llawer mwy. Yn bwysicaf oll, bydd yn rhoi enghreifftiau ymarferol o’r hyn y gall unigolion a sefydliadau ei wneud eu hunain i helpu i frwydro yn erbyn argyfwng hinsawdd Cymru.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://waterfront.eventscase.com/CY/walesclimateweek
Byddwn yn rhannu rhagor o newyddion yn nes ymlaen yn yr wythnos am ein cynlluniau i’r dyfodol a’r ymgynghoriad y byddwn yn ei gynnal ar ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG