Ddydd Llun 13 Mawrth, bydd seremoni fer i godi baner rhwng 10.45am ac 11.00am i nodi 10 mlynedd ers i’r diweddar Frenhines lofnodi Siarter y Gymanwlad.
Mae’r siarter yn fynegiant pendant o werthoedd a dyheadau’r Gymanwlad – ac ymrwymiad hanfodol pob gwlad yn y Gymanwlad.
Bydd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron yn darllen proclamasiwn y Gymanwlad o falconi Neuadd y Dref cyn i’r Parchedig Ganon Dr Jason Bray fendithio’r faner. Yna caiff y faner heddwch ei chodi fel rhan o’r seremoni. Bydd dinasoedd ar draws y DU a’r Gymanwlad yn cynnal seremonïau tebyg.
Bydd yr Arglwydd Raglaw a phwysigion eraill yn bresennol yn y digwyddiad hefyd.
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron: “Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’r seremoni yn Wrecsam. Bydd seremonïau tebyg yn cael eu cynnal ar draws y byd mewn lleoedd fel Canada, Pacistan a Seland Newydd.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD