Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth a gafodd ei gyhoeddi ddoe (17.3.20).
Digwyddiadau a gweithgareddau yn lleoliadau a mannau cyhoeddus y Cyngor
Fel rhan o’r ymateb parhaus i Covid-19 (Coronavirus), mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi’r mesurau canlynol heddiw.
Mae pob digwyddiad a gweithgaredd (yn cynnwys gweithgareddau a gweithdai i blant) wedi’u gohirio yn y lleoliadau a’r mannau cyhoeddus canlynol:
- Llyfrgelloedd
- Parciau Gwledig Tŷ Mawr a Dyfroedd Alun
- Canolfannau Adnoddau Cymunedol (yn cynnwys Plas Pentwyn, Acton, Llai, Brynteg a Gwersyllt)
Bydd y lleoliadau a’r mannau’n parhau ar agor, ond ni chynhelir unrhyw ddigwyddiadau na gweithgareddau sydd wedi’u trefnu gan y Cyngor yno, nes y clywir yn wahanol.
Felly i fod yn glir, mae ein llyfrgelloedd, parciau gwledig a chanolfannau adnoddau yn dal i fod ar agor – ond mae unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau oedd i fod i gael eu cynnal yno wedi cael eu gohirio.
Tŷ Pawb
Yn Tŷ Pawb, bydd yr orielau, gofodau perfformio a siop Tŷ Pawb (Siop//Shop) ar gau nes y clywir yn wahanol.
Bydd holl ddigwyddiadau Tŷ Pawb – gan gynnwys digwyddiadau a drefnir yn allanol a llogi lleoliadau – yn cael eu hatal nes bydd rhybudd pellach.
Ond mae neuadd y farchnad, stondinau a’r siopau tec-awê yn parhau ar agor, gyda rhagor o fesurau hylendid ar waith…yn cynnwys rhagor o gyfleusterau er mwyn i ymwelwyr olchi eu dwylo.
Am y tro, mae Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredin yn dal i fod ar agor, ond mae rhagor o fesurau hylendid yn cael eu cyflwyno.
Bydd y Farchnad yn Sgwâr y Frenhines ar ddydd Llun yn parhau fel arfer.
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
O heddiw ymlaen, bydd Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cau nes y clywir yn wahanol.
Gweithgareddau Gwyliau’r Pasg
Mae gweithgareddau gwyliau’r Pasg a drefnwyd fel rhan o raglen ddigwyddiadau’r Cyngor – yn cynnwys yr Helfa Wyau Pasg yng nghanol tref Wrecsam – wedi cael eu gohirio hefyd hyd y gellir rhagweld.
Bydd penderfyniad am ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu at nes ymlaen yn y gwanwyn a’r haf yn cael ei wneud yn nes at yr amser.
Os ydych chi’n ystyried mynd i ddigwyddiad neu weithgaredd ar hyn o bryd (yn cynnwys digwyddiadau sydd heb eu trefnu gan y Cyngor), mae’n syniad da gwirio gyda’r trefnwyr i ganfod a ydi’r digwyddiad yn dal i gael ei gynnal.
Digwyddiadau dinesig
Mae pob digwyddiad roedd y Maer neu’r Dirprwy Faer fod i’w mynychu wedi cael eu canslo am y tro.
Gweithgareddau canolfannau hamdden
Y canolfannau hamdden eu hunain fydd yn penderfynu a ydynt am newid eu darpariaethau/trefniadau agor (nid y Cyngor sydd yn gweithredu canolfannau hamdden yn y Fwrdeistref Sirol).
Ymgynghoriad Cae Nine Acres a digwyddiad Awr Ddaear
Ni fydd y sesiwn galw heibio a drefnwyd fel rhan o ymgynghoriad Cae Nine Acres – a oedd i fod i gael ei gynnal yn y Neuadd Goffa yn Wrecsam ddydd Iau 19 Mawrth – bellach yn cael ei gynnal (gallwch barhau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein).
Mae digwyddiad i gefnogi Awr Ddaear, a oedd i fod i gael ei gynnal yn Neuadd y Dref ddydd Mawrth 24 Mawrth wedi cael ei ohirio hefyd.
Canolfan Groeso Wrecsam
Bydd Canolfan Groeso Wrecsam yn cau ddydd Gwener yma, y rheswm pennaf am hyn yw’r gwaith o symud i eiddo yn Ffordd Caer a oedd wedi’i gynllunio ymlaen llaw.
Bydd penderfyniad ynglŷn â phryd i agor y Ganolfan newydd yn digwydd yn y dyfodol.
Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y firws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn cael eu darparu:
- Mewn datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (yn cynnwys y Prif Weinidog).
- Mewn briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn, felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o nodiadau cyhoeddus fel y bo angen ac fel y bo’n briodol.