Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 17.4.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 17.4.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 17.4.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/04/21 at 10:45 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Mercher (15.4.20).

Negeseuon allweddol heddiw

● Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, yn cael trafferth â phethau fel siopa neu fynediad at feddyginiaeth, cysylltwch â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ar 01978 312556 neu anfonwch e-bost at COVID19@avow.org
● Os ydych chi’n ddigartref – neu dan fygythiad o ddigartrefedd – cysylltwch â’n gwasanaeth dewisiadau tai ar 01978 292947.
● Dilynwch gyngor y Llywodraeth dros y penwythnos os gwelwch yn dda. Arhoswch adref.
● Os ydych chi’n parcio eich car ar y ffordd, sicrhewch eich bod yn gadael digon o le i’n wagenni biniau allu mynd heibio.
● Mae dros £14 miliwn bellach wedi’i ddyrannu i fusnesau yn Wrecsam dan y cynllun cymorth rhyddhad ardrethi busnes. Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud cais, gwiriwch i weld a ydych yn gymwys.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Mercher (15.4.20).Negeseuon allweddol heddiwIan Bancroft – Prif WeithredwrMark Pritchard – Arweinydd y CyngorOs ydych chi’n cael trafferth, mae yna bobl sy’n gallu helpuCymorth gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW)A ydych chi’n wynebu digartrefedd?Arhoswch gartref dros y penwythnosGwastraff ac ailgylchuParciwch yn ofalus – peidiwch ag atal ein lorïau bin rhag pasioCymorth BusnesA ydych chi wedi gwirio i weld a ydych yn gymwys?Lansio ap newydd i dracio ac olrhain y coronafeirwsNodyn atgoffa – prydau ysgol am ddimNodyn Atgoffa – Ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Os ydych chi’n cael trafferth, mae yna bobl sy’n gallu helpu

Mae ein bywydau wedi newid yn sylweddol dros yr wythnosau diwethaf, ac mae anghenion nifer o bobl sy’n byw yn ein cymunedau wedi newid yn ogystal.

Mae yna bobl sydd angen cymorth gyda siopa bwyd, casglu meddyginiaeth, mynd â’r ci am dro a nifer o dasgau dyddiol eraill.

Mae’r mwyafrif o oedolion diamddiffyn yn ein cymunedau yn derbyn y cymorth a’r cyngor y mae arnynt eu hangen i gadw’n ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ond efallai nad yw hyn yn wir am bawb.

Cymorth gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW)

Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod yn cael trafferth… a ddim yn derbyn cymorth angenrheidiol gyda phethau fel siopa, cael mynediad at feddyginiaeth neu ofalu am anifeiliaid anwes, cysylltwch ag AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam).

Ffoniwch 01978 312556 neu anfonwch e-bost at COVID19@avow.org a bydd un o wirfoddolwyr AVOW yn cysylltu â chi i wneud unrhyw drefniadau hanfodol.

A ydych chi’n wynebu digartrefedd?

Os ydych chi’n ddigartref – neu dan fygythiad o ddigartrefedd – mae ein gwasanaeth dewisiadau tai yn parhau i gynnig cymorth.

Ffoniwch ni ar 01978 292947

Mae hyn yn cynnwys cymorth i unrhyw un sy’n profi trais domestig.

Arhoswch gartref dros y penwythnos

Wrth i benwythnos arall ddechrau, cofiwch barhau i ddilyn cyngor y Llywodraeth os gwelwch yn dda.

Arhoswch gartref, gan eithrio unrhyw siwrneiau hanfodol ac ymarfer corff lleol unwaith y dydd, a chadwch bellter o 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.

Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau.

Gwastraff ac ailgylchu

Parciwch yn ofalus – peidiwch ag atal ein lorïau bin rhag pasio

Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae llawer o bobl yn dibynnu ar barcio ar y stryd.

Ond os ydych chi’n gwybod y bydd eich biniau’n cael eu casglu, edrychwch ar y stryd a gwiriwch fod digon o le i’n cerbydau mawr allu ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel.

Cofiwch, mae ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod. Os nad yw’r lorïau yn gallu mynd heibio, nid ydynt yn gallu gwagio biniau pobl… sy’n peri siom i aelwydydd.

‘Does yna neb eisiau achosi i’r stryd gyfan golli allan ar eu casgliadau biniau, felly … os ydych chi’n parcio eich car ar y ffordd, sicrhewch eich bod yn gadael digon o le i’n wagenni biniau allu mynd heibio.

Mae ein timau sbwriel yn gweithio’n galed iawn, ac nid oes arnynt eisiau gadael unrhyw finiau heb eu gwagio.

Diolch am eich cefnogaeth.

Cymorth Busnes

A ydych chi wedi gwirio i weld a ydych yn gymwys?

Hoffem ddiolch i’n prif swyddog cyllid, ein timau cyllid a phawb sydd wedi bod ynghlwm â thalu dros £14 miliwn i 1,220 o fusnesau yn Wrecsam, fel rhan o’r cymorth rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Er ein bod yn parhau i dderbyn ceisiadau bob dydd, rydym yn annog unrhyw un nad ydynt eisoes wedi gwneud cais i wirio a yw eu busnes yn gymwys ac – os felly – i gyflwyno cais ar-lein.

Os ydych yn gwneud cais, dylid gwirio’r manylion yr ydych yn eu darparu’n ofalus – yn arbennig rhifau cyfrif banc a rhifau didoli – oherwydd gall manylion anghywir arwain at oedi yn eich taliad.

Lansio ap newydd i dracio ac olrhain y coronafeirws

Gofynnir i bobl ledled Cymru lawrlwytho’r ap a chofnodi eu symptomau dyddiol er mwyn helpu i greu darlun cliriach o sut mae’r feirws yn effeithio ar bobl.

Mae’r ap ar gyfer pawb, nid y rhai sydd â symptomau yn unig.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â hyn ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Nodyn atgoffa – prydau ysgol am ddim

Yn ystod dyddiau’r wythnos, rydym yn parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim ar draws y fwrdeistref sirol.

Os nad yw eich plant yn yr ysgol ac os ydynt yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, gallwch gasglu eu pecynnau cinio o un o’r safleoedd canlynol.

● Swyddfa Ystâd Parc Caia
● Swyddfa Ystâd Plas Madoc
● Swyddfa Ystâd Brychdyn
● Swyddfa Ystâd Gwersyllt
● Swyddfa Ystâd Rhos (Stiwt)
● Neuadd Goffa Wrecsam
● Plas Pentwyn, Coedpoeth
● Canolfan Adnoddau Llai
● Llyfrgell Owrtyn (Ystafelloedd Cocoa)
● Llyfrgell y Waun
● Canolfan Adnoddau Brymbo

Gallwch fynd i’ch safle agosaf. Dylid casglu pecynnau cinio rhwng 11.30 ac 1pm gan riant neu ofalwr.

Bydd yn rhaid i chi roi enw eich plentyn / plant a’r ysgol y maent yn ei mynychu i’r staff, a byddwch ond yn gallu casglu pecyn cinio i’ch plentyn / plant eich hun.

Bydd gofyn i chi ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ogystal, drwy gadw pellter oddi wrth bobl eraill.

Nodyn Atgoffa – Ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19

Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:

● Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
● Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

COVID-19 (CORONAFEIRWS NEWYDD) – NODYN BRIFFIO’R CYHOEDD 15.4.20

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Waste Casgliad bin a fethwyd? Gallai fod yn broblem gyda mynediad….
Erthygl nesaf Acton Park View Scenery Bench Mae mynd i’r parc yn brofiad gwahanol iawn rŵan…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau Ionawr 30, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 29, 2026
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English