Mae’r nodyn hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (17.4.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gadw golwg ar blant. Os ydych yn bryderus am blentyn neu berson ifanc, gallwch gysylltu â Gofal Cymdeithasol Plant am gyngor.
• Rydym yn cyflwyno system taliad uniongyrchol newydd i rieni a phlant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Cofrestrwch nawr.
• Bydd Llywodraeth Cymru yn talu am ofal plant i blant oed cyn ysgol gweithwyr hanfodol. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Diogelu ein plant
Un o’r pethau cadarnhaol i ddod allan o’r argyfwng presennol yw’r ffordd mae pobl yn gofalu am ei gilydd.
Gofalu am eu teuluoedd, ffrindiau, cymdogion…. a hyd yn oed dieithriaid. Ceisio helpu ble maen nhw’n gallu, a cheisio cadw’r naill a’r llall yn ddiogel.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn gofalu am ein gilydd, a meddwl am les pobl eraill… ac mae hynny’n cynnwys plant.
Yn ogystal â gofalu am ein plant ein hunain, rydym angen edrych allan am blant a phobl ifanc eraill, ac os ydym yn gweld unrhyw beth sy’n ein poeni, gallwn gysylltu â’r bobl briodol neu wasanaethau cynnal.
Mae ein bywydau wedi newid yn sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond ymysg yr holl heriau dyddiol a wynebir, mae’n bwysig ein bod yn parhau i edrych allan am blant.
Mae plant a phobl ifanc sy’n fregus neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi mewn rhyw ffordd, yn dibynnu arnom ni – fel oedolion – i ofalu amdanynt.
Os ydych yn bryderus am blentyn neu berson ifanc, gallwch gysylltu â Gofal Cymdeithasol Plant am gyngor.
Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau.
Parhewch i ddilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth.
Arhoswch gartref, heblaw am siwrnai hanfodol ac i ymarfer yn lleol unwaith y dydd, a chadwch dwy fedr draw oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.
Drwy wneud hyn, rydych yn helpu i gadw Wrecsam mor ddiogel ag y gall fod.
Prydau ysgol am ddim
Cofrestru ar gyfer ein cynllun y taliad uniongyrchol newydd erbyn dydd Gwener, 1 Mai
Ydy eich plant yn derbyn prydau ysgol am ddim?
Byddwn yn cyflwyno system newydd ddydd Llun, 4 Mai fel rhan o’n hymateb parhaus i Covid-19.
Bydd y system yn gweld arian yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, y gallwch ei ddefnyddio i brynu bwyd i’r plant.
Bydd hyn yn gwneud pethau’n haws i rieni, a lleihau’r angen i deithio i bwyntiau casglu i gasglu’r pecynnau bwyd rydym yn eu darparu ar hyn o bryd.
Nid ydym eisiau i unrhyw un golli allan, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru drwy wefan y cyngor erbyn dydd Gwener, 1 Mai (byddwch angen darparu eich manylion banc).
Byddwch yn derbyn taliad misol sy’n cyfateb i £19.50 yr wythnos ar gyfer pob plentyn cymwys yn eich teulu.
Sylwer os yw eich plentyn yn parhau i fynd i’r ysgol (oherwydd eich bod yn weithiwr hanfodol neu eu bod nhw’n fregus), byddwch angen defnyddio’r arian i dalu am eu prydau ysgol, neu i brynu bwyd fel y gallwch eu hanfon i mewn gyda phecyn cinio.
COFRESTRWCH NAWR
Gallwch barhau i gasglu bagiau bachu a mynd hyd at ddydd Gwener, 1 Mai
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn darparu pecyn cinio ‘bachu a mynd’ i blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim nad ydynt yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Rydym wedi bod yn gwneud hyn drwy 12 canolfan dosbarthu ar draws y fwrdeistref sirol. https://news.wrexham.gov.uk/free-school-meals-chirk-pick-up-point/
Cafodd hwn ei gyflwyno fel mesur dros dro i ganiatáu amser i ddatblygu system newydd, a byddwch yn parhau i allu casglu pecynnau cinio bachu a mynd hyd at ac yn cynnwys dydd Gwener, 1 Mai.
Ond o ddydd Llun, 4 Mai, byddwch angen cofrestru ar gyfer system taliadau uniongyrchol newydd fel nad ydych yn colli allan.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at freeschoolmeals@wrexham.gov.uk
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Nodyn atgoffa – gofal plant di-dâl i weithwyr hanfodol
1. Ydych chi’n dal i fynd i’r gwaith?
2. Ydych chi’n cael eich ystyried gan eich cyflogwr fel gweithiwr hanfodol?
3. Oes gennych chi blant oed cyn-ysgol?
Os ydych yn gallu ateb ‘ydw/oes’ i’r tri chwestiwn, oeddech chi’n gwybod fod gofal plant di-dâl ar gael i’ch plant?
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu am ofal plant i blant oed cyn ysgol gweithwyr hanfodol yn ystod y pandemig Covid-19.
Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
Rhannwch y neges hon gyda’ch cydweithwyr os gwelwch yn dda.
Nodyn atgoffa am loriau bin
Nid oes unrhyw un eisiau bod yn gyfrifol pam nad yw eu stryd cyfan yn cael gwagu eu biniau, felly os gwelwch yn dda …. os ydych yn parcio eich car ar y ffordd, gwnewch yn siŵr bod yna ddigon o le i’n loriau bin fynd heibio.
Darllenwch yr erthygl wnaethom ei rhannu yr wythnos ddiwethaf.
Nodyn atgoffa – ydych chi’n gymwys ar gyfer cymorth i fusnesau?
Rydym eisoes wedi talu mwy nag £14 miliwn i 1,220 o fusnesau yn Wrecsam o dan gefnogaeth rhyddhau ardrethi busnes a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er bod ceisiadau yn parhau i gael eu derbyn bob dydd, anogir unrhyw un sydd heb ymgeisio eto i wirio a fyddai eu busnes yn gymwys ac os felly, cyflwyno cais ar-lein.
Os ydych yn ymgeisio gwiriwch yn ofalus y manylion rydych yn eu darparu yn arbennig rhifau cyfrif banc a chod didoli – gan y gall manylion anghywir arwain at oedi cyn talu.
Nodyn atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl ei wneud amdano wedi’i ddarparu drwy:
• Datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
• Briff swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19