Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn yr wythnos diwethaf (19.6.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Rydym yn datgloi gwasanaethau a chyfleusterau yn araf – yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a thystiolaeth wyddonol am Covid-19.
• Rydym yn gweithio’n agos gyda’r asiantaeth arweiniol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ymateb i’r sefyllfa yn Rowan Foods.
• Bydd ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn ailagor ddydd Llun.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Datgloi gwasanaethau, ailagor ysgolion a’ch cadw chi’n saff
Wrth i gyfyngiadau lacio, mae cynghorau ar draws y DU yn dechrau ‘datgloi’ gwasanaethau a chyfleusterau lleol.
Yma yn Wrecsam, rydym wedi ailagor canol y dref ar gyfer siopa dianghenraid yr wythnos hon, a bydd ein hysgolion yn ailagor ddydd Llun.
Rydym yn gwneud hyn yn araf ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a thystiolaeth wyddonol am Covid-19.
Mae hyn oherwydd nad yw’r bygythiad gan Covid-19 wedi diflannu, a diogelwch ein cymunedau yw ein blaenoriaeth uchaf.
Iechyd pobl sy’n dod gyntaf. Bob amser.
Rowan Foods
Byddwch chi wedi darllen am y sefyllfa o ran Rowan Foods ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.
Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r asiantaeth arweiniol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chadarnhaodd diweddariad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw fod 166 o achosion wedi’u nodi ymhlith y gweithlu yn y ffatri bellach.
Nid yw hyn yn golygu bod yr haint yn cynyddu…bydd rhagor o brofion yn anochel yn arwain at nodi rhagor o achosion. Ond mae’n ein hatgoffa bod Covid-19 yn dal i fod yma.
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae profion ar weithlu sy’n gysylltiedig ag achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn ardal Wrecsam yn parhau.
“Rydym wrthi’n cyfuno gwybodaeth i nodi cwmpas llawn y broses barhaus o gynnal profion a chyfanswm nifer yr achosion positif.
“Hyd yma, mae cyfanswm o 166 o achosion wedi’u nodi, sef cynnydd o 69 achos wedi’u hadrodd yn ystod y 24 awr diwethaf.
“Nid yw nodi achosion ychwanegol yn golygu bod yr haint yn cynyddu. Fodd bynnag, mae hefyd yn ein hatgoffa nad yw COVID-19 wedi diflannu a’i fod yn dal i fod yn y gymuned.”
Gallwch ddarllen y diweddariad llawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu gwefan.
Ysgolion yn ailagor ddydd Llun
Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr, byddwch yn gwybod y bydd ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn ailagor ddydd Llun.
Bydd eich ysgol wedi cysylltu â chi i gadarnhau pa bryd fydd eich plentyn yn gallu mynychu.
Y nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion “ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer mis Medi.”
Os oes unrhyw amgylchiadau sy’n effeithio ar allu ysgol benodol i ailagor, bydd yr ysgol unigol yn cysylltu â rhieni.
Iechyd ein cymunedau sy’n dod gyntaf…bob amser
Mae gennym i gyd ran fawr i’w chwarae wrth frwydro yn erbyn y coronafeirws o hyd.
Ein cyfrifoldeb ni i gyd yw dal i ddilyn y rheolau – dal i gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo, gwneud y peth iawn i helpu i gadw ein hunain ac eraill yn saff.
Ac fel cyngor, rydym am i chi fod yn ffyddiog y byddwn yn dal i ddatgloi gwasanaethau a chyfleusterau yn araf a gofalus…yn unol â’r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a thystiolaeth wyddonol.
Iechyd ein cymunedau sy’n dod gyntaf.
Cadwch yn saff.
Peswch parhaus, tymheredd uchel neu wedi colli’r gallu i flasu neu arogli? Efallai bod gennych y coronafeirws. Arhoswch gartref. Archebwch brawf.https://t.co/kzj8ivAnYl pic.twitter.com/K5PVMRT4jq
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) June 24, 2020
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Llywodraeth Cymru
• Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN
Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio cyhoeddus 19.6.20