Mae’r nodyn hwn yn cynnig gwybodaeth fwy diweddar na’r blog hwn ddydd Gwener (20.3.20).
Negeseuon allweddol heddiw:
O fory ymlaen, dim ond gwasanaethau critigol fyddwn ni’n eu darparu. Mae’r rhain yn bethau rydym wedi nodi sy’n gwbl hanfodol i’n cymunedau a gweithrediad y cyngor.
- Os nad ydych chi’n weithiwr allweddol yn ôl diffiniad y Llywodraeth, peidiwch â rhoi pwysau ar ysgolion i gymryd eich plant.
- Dilynwch gyngor y Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol.
- Rydym yn cau ein parciau a’n mannau chwarae.
- Rydym yn cyfyngu ar wasanaethau yn yr amlosgfa i 30 o unigolion.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Mae gofyn i bobl aros ar wahân ac aros gartref yn dipyn i’w ofyn. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod hynny.
Fodd bynnag, roedd yn ymddangos fod rhannau o Ogledd Cymru’n brysurach nac erioed dros y penwythnos, wrth i bobl heidio i leoliadau twristaidd poblogaidd a pharciau gwyliau.
Mae’r math hwn o ymddygiad yn peryglu bywydau.
Mae ‘Ymbellhau cymdeithasol’ yn hanfodol os oes siawns i ni reoli ymlediad y firws hwn, ac atal y GIG rhag wynebu pwysau gormodol.
Yn syml, mae’n golygu lleihau’r cyswllt rydym yn ei gael gydag eraill – aros i ffwrdd o fannau prysur, grwpiau o bobl a hyd yn oed ffrindiau a theulu – felly mae llai o siawns y bydd y firws yn lledaenu.
Drwy aros i ffwrdd o’n gilydd, gallwn gydweithio i geisio cadw Wrecsam mor ddiogel ag y gall fod.
Rydym wedi rhoi’r wybodaeth a ganlyn at ei gilydd i’ch helpu i ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r cyngor.
Gwasanaethau critigol yn unig
O fory ymlaen, dim ond gwasanaethau critigol fyddwn ni’n eu darparu. Mae’r rhain yn bethau rydym wedi nodi sy’n gwbl hanfodol i’n cymunedau a gweithrediad y cyngor.
Maent yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, cyngor ar fudd-daliadau tai, llety gwarchod, ysgolion (ar hyn o bryd yn agored i weithwyr allweddol a phlant diamddiffyn yn unig), gwagio biniau a phethau eraill y mae pobl yn dibynnu arnynt.
Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth i chi’n fuan.
Ysgolion
Cau ysgolion
Mae ysgolion yn Wrecsam wedi cymryd rôl newydd o heddiw ymlaen – darparu lleoedd ar gyfer plant ;gweithwyr allweddol’ er mwyn iddynt fedru parhau i wneud eu swyddi.
Mae ysgolion yn gweithredu gyda llai o staff yn sgil effaith y firws, ac mae hon yn dipyn o her.
Fodd bynnag, mae rhai pobl yn ceisio cymryd mantais ar hyn, ac yn rhoi pwysau mawr ar benaethiaid i gymryd eu plant, pan nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer gweithwyr allweddol.
Os nad ydych chi’n weithiwr allweddol yn ôl diffiniad y Llywodraeth (e.e. gweithwyr iechyd a gofal, swyddogion gwasanaethau brys, gyrwyr dosbarthu i archfarchnadoedd, swyddogion carchar) ni chewch chi anfon eich plentyn i ysgol ar hyn o bryd.
Cludiant Ysgol
Bydd trefniadau cludo ar gyfer plant sy’n dal i fynd i’r ysgol (h.y. plant gweithwyr allweddol a phlant diamddiffyn) ar gael fel arfer yr wythnos hon.
Os oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau, bydd rhieni a gofalwyr yn cael eu hysbysu gan eu hysgolion.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Parciau a mannau chwarae
O heddiw ymlaen, rydym yn cau ein parciau gwledig a amgaewyd a mannau chwarae a reolir gan y cyngor.
Mae hyn yn cynnwys Tŷ Mawr a Dyfroedd Alun, a bydd hysbysiadau’n cael eu gosod er mwyn helpu rhoi gwybod i bobl am y cau.
Fel pob cyngor arall ar draws y DU, rydym yn gwneud hyn er mwyn cefnogi ymbellhau cymdeithasol.
Gwasanaethau amlosgfa
Rydym hefyd yn cyflwyno mesurau yn Amlosgfa Pentrebychan i annog ymbellhau cymdeithasol.
O hyn allan, cyfyngir gwasanaethau i 30 o bobl.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau Covid-19
Mae timau Safonau Masnach ar draws y DU yn parhau i gael adroddiadau am sgamiau sy’n cymryd mantais ar y sefyllfa bresennol.
Felly os ydych chi’n cael cynnig o gymorth, holwch eich hun a yw’n swnio’n ddilys cyn ichi ei dderbyn.
I’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Darperir y wybodaeth ddiweddaraf am y firws a’r hyn y dylai bobl ei wneud gan:
- Datganiadau teledu dyddiol gan y Llywodraeth (gan gynnwys y Prif Weinidog).
- Briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Fedrwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen a chefnogi cyfeillachu cymunedol.
Mae AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam) yn annog pobl i ymrwymo i hyn.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym, felly byddwn yn rhyddhau gwybodaeth bellach pan fydd hynny’n briodol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19