Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio i’r cyhoedd 19.3.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Arall
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lle Y cyngor
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Be sy 'mlaen 'Y Gromen' ym Mhentref Wrecsam
Be sy ‘mlaen ‘Y Gromen’ ym Mhentref Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio i’r cyhoedd 19.3.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio i’r cyhoedd 19.3.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/03/26 at 11:00 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad o’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddoe (18.3.20). 
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Fel Prif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Wrecsam rydym ni’n gofyn i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gadw’n ddiogel ac i helpu eraill.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad o’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddoe (18.3.20). Ian Bancroft – Prif WeithredwrY Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y CyngorGwasanaethau wyneb yn wyneb ac adeiladau cyhoeddusGalw Wrecsam a Neuadd y DrefSwyddfeydd Stadau TaiSiop Wybodaeth – Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor i Bobl IfancCau llyfrgelloedd a chyfleusterau cymunedol eraillBiniau ac ailgylchuYsgolionCau ysgolionParciau gwledig a lleiniau bowlioTŷ Mawr, Dyfroedd Alun a Mwyngloddiau Plwm y MwynglawddParciau eraill, meysydd chwarae a lleiniau bowlioMeysydd chwarae a rhandiroedd garddioCofiwch – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19Fedrwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Mae pethau yn newid yn ddyddiol a phob awr, ac rydym ni’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod brawychus ac ansicr i bawb.

Fel Cyngor, rydym ni’n parhau i gydbwyso lles ac anghenion ein staff – er mwyn iddyn nhw aros yn ddiogel a pharhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol – gyda lles ac anghenion ein preswylwyr a’n cymunedau.

Fodd bynnag, er mwyn ymateb i effaith y feirws, rydym ni’n gorfod gwneud newidiadau dyddiol i’r ffordd rydym ni’n darparu ein gwasanaethau.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Rydym ni’r darparu’r wybodaeth ganlynol i’ch helpu chi ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r Cyngor, ac i ategu’r cyngor sy’n cael ei rannu gan Lywodraeth y DU a’r gwasanaethau iechyd.

Gwasanaethau wyneb yn wyneb ac adeiladau cyhoeddus

Mae rhywfaint o’n gwasanaethau wyneb yn wyneb eisoes wedi’u hatal, a byddwn yn cau pob un o’n derbynfeydd wyneb yn wyneb o fory ymlaen.
Rydym ni’n annog cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaeth a chysylltu â ni ar-lein os yn bosibl.

Galw Wrecsam a Neuadd y Dref

Mae gwasanaethau wyneb yn wyneb yng Ngalw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd wedi’u hatal ac yn Neuadd y Dref dim ond cwsmeriaid gydag apwyntiadau wedi’u trefnu ymlaen llawn y byddwn ni’n eu gweld.

Gallwch barhau i ddefnyddio gwasanaethau a derbyn gwybodaeth ar wefan y Cyngor.

Swyddfeydd Stadau Tai

Bydd swyddfeydd stadau tai yn aros ar agor am y tro ond, i ddiogelu staff a thenantiaid, ni fydd gwasanaethau derbynfa wyneb yn wyneb ar gael.

Fodd bynnag, mi fyddwch chi’n dal yn gallu defnyddio’r rhadffôn yn y dderbynfa i roi gwybod am bethau sydd angen eu trwsio yn ogystal â’r ciosgau talu.

Gofynnwn yn garedig i chi rannu’r wybodaeth yma gyda’ch cymdogion a thenantiaid eraill.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Siop Wybodaeth – Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Ifanc

Oherwydd bod gennym ni lai o staff, bydd y Siop Wybodaeth ar Stryt y Lampint ar agor ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener o 3pm tan 5.30pm yn unig – felly mi fyddwn ni’n dal yn gallu darparu cyngor rhywiol i bobl ifanc dan 25.

Byddwn hefyd yn newid cynllun yr ardal aros ac ni fyddwn yn gadael mwy na 10 person i mewn ar y tro.

Mae modd i bobl ifanc ac arnyn nhw eisiau cyngor a gwybodaeth siarad efo gweithiwr ieuenctid dros y ffôn drwy ffonio’r rhifau canlynol rhwng 12pm a 3pm.

• Dydd Llun – 07585 103649
• Dydd Mawrth – 07584 440126
• Dydd Mercher – 07585 103631
• Dydd Iau – 07976 660531
• Dydd Gwener – 07800 688823

Gall pobl ifanc hefyd anfon neges i infoshop@wrexham.gov.uk ac edrych ar www.youngwrexham.co.uk i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae Wrecsam Ifanc hefyd ar Twitter a Facebook.

Cau llyfrgelloedd a chyfleusterau cymunedol eraill

O’r fory ymlaen, ni fyddwch yn gallu cerdded i mewn i adeiladau fel ein llyfrgelloedd (byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am adnewyddu benthyciadau ac ati fory), canolfannau teuluoedd, canolfannau adnoddau na’r Neuadd Goffa.

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth neu gysylltu â ni, ewch ar-lein.

Biniau ac ailgylchu

Byddwn yn gwagio biniau ac yn casglu deunyddiau ailgylchu yn ôl yr arfer, hyd y gallwn.

Fodd bynnag, o ddydd Llun 23 Mawrth, bydd yn rhaid i ni atal ein gwasanaeth ‘gwastraff swmpus’ sy’n golygu na fyddwn ni’n gallu casglu eitemau mawr.

Ni fyddwn chwaith yn danfon biniau newydd.

Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor, ond bydd ganddyn nhw drefniadau gweithredol diwygiedig ar waith. Byddwn yn parhau i fonitro’r cyfleusterau hyn ac, os bydd unrhyw newid yn effeithio ar y cyhoedd, byddwn yn siŵr o roi gwybod i chi.

Ysgolion

Cau ysgolion

Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau, o ran darpariaethau addysg statudol, erbyn dydd Gwener 20 Mawrth.

Yn ei datganiad dywedodd y gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, y bydd ysgolion yn ymgymryd â rôl newydd am y tro – sef cefnogi’r rheiny â’r angen fwyaf, gan gynnwys pobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r ymateb i’r coronafeirws.

Rydym ni wedi gofyn am fwy o eglurhad o ran beth yw goblygiadau hyn i ysgolion Wrecsam.

Parciau gwledig a lleiniau bowlio

Tŷ Mawr, Dyfroedd Alun a Mwyngloddiau Plwm y Mwynglawdd

Mae Bydd Parc Gwledig Tŷ Mawr ar agor ond mae’r gweithgareddau a’r digwyddiadau wedi’u canslo, a bydd y siop/pafiliwn ar gau ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen.

Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun hefyd ar agor ond, unwaith eto, mae’r gweithgareddau a’r digwyddiadau wedi’u canslo, a bydd y pafiliwn ar gau ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen. Mae’r caffi yn cael ei redeg dan brydles gan Groundwork. Bydd unrhyw newid i drefniadau’r caffi yn cael ei gyhoeddi gan reolwr y caffi.

Bydd Mwyngloddiau Plwm y Mwynglawdd yn parhau ar agor.

Parciau eraill, meysydd chwarae a lleiniau bowlio

Bydd y canlynol yn berthnasol o ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen:

● Y Parciau – y parc ar agor ond y cyfleuster bowlio ar gau
● Ponciau – parc ar agor ond y pafiliwn ar gau
● Johnstown – y llain fowlio a’r pafiliwn ar gau
● Coed-poeth – cyfleuster bowlio ar gau
● Cunliffe (Parc Acton) – parc ar agor ond y cyfleuster bowlio ar gau
● Pentre Broughton – y cyfleuster bowlio a’r pafiliwn ar gau

Bydd pob pafiliwn pêl-droed ar gau.

Meysydd chwarae a rhandiroedd garddio

Bydd holl feysydd chwarae a rhandiroedd y Cyngor yn parhau ar agor ond rydym ni’n cynghori defnyddwyr i ddefnyddio synnwyr cyffredin a dilyn y canllawiau iechyd diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Cofiwch – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19

Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y dylai pobl wneud drwy:

● Datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (yn cynnwys Prif Weinidog)
● Briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, a gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Fedrwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr i helpu staff sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cynlluniau ymgyfeillio cymunedol.

Mae AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam) yn annog pobl i gofrestru.

Mae hon yn sefyllfa sy’n newid yn gyflym, felly byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth bellach fel y bo’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Rhannu
Erthygl flaenorol COVID 19 Advice for Businesses Cefnogi Busnesau – COVID-19 (19.03.20)
Erthygl nesaf Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn lansio ymateb Cymunedol i Goronafeirws yn Wrecsam Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn lansio ymateb Cymunedol i Goronafeirws yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Arall Gorffennaf 24, 2025
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 24, 2025
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 23, 2025
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 23, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Gorffennaf 24, 2025
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lleY cyngor

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Gorffennaf 23, 2025
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Gorffennaf 23, 2025
Be sy 'mlaen 'Y Gromen' ym Mhentref Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Be sy ‘mlaen ‘Y Gromen’ ym Mhentref Wrecsam

Gorffennaf 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English